Exodus
1 Nawr, dyma enwau meibion Israel a ddaeth i mewn i’r Aifft gyda Jacob, pob dyn a ddaeth gyda’i deulu: 2 Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda; 3 Issachar, Sabulon, a Benjamin; 4 Dan a Nafftali; Gad ac Aser. 5 Ac roedd ’na 70 o bobl yn nheulu Jacob, ond roedd Joseff yn yr Aifft yn barod. 6 Bu farw Joseff yn y pen draw, a hefyd ei holl frodyr a’r genhedlaeth honno i gyd. 7 A daeth yr Israeliaid yn ffrwythlon a dechrau cynyddu’n fawr, a pharhaodd eu niferoedd i dyfu ac i gryfhau, a hynny’n gyflym iawn, nes iddyn nhw lenwi’r wlad.
8 Mewn amser dechreuodd brenin newydd reoli dros yr Aifft, un nad oedd yn adnabod Joseff. 9 Felly dywedodd brenin yr Aifft wrth ei bobl: “Edrychwch! Mae pobl Israel yn fwy niferus ac yn gryfach na ni. 10 Gadewch inni fod yn graff wrth ddelio â nhw. Neu fel arall, byddan nhw’n parhau i gynyddu, ac os bydd rhyfel yn cychwyn, fe fyddan nhw’n ymuno â’n gelynion ac yn brwydro yn ein herbyn ac yn gadael y wlad.”
11 Felly penododd yr Eifftiaid feistri* drostyn nhw i’w gorfodi nhw i weithio’n galed, a gwnaethon nhw adeiladu’r dinasoedd Pithom a Rameses, lle roedd Pharo’n storio nwyddau. 12 Ond y mwyaf y bydden nhw’n cam-drin yr Israeliaid, y mwyaf y bydden nhw’n cynyddu ac yn parhau i ledaenu, felly roedden nhw’n teimlo’n sâl ag ofn oherwydd yr Israeliaid. 13 O ganlyniad, gwnaeth yr Eifftiaid orfodi’r Israeliaid i fod yn gaethweision a’u trin nhw’n greulon. 14 A dyma nhw’n parhau i wneud eu bywydau’n chwerw, gan eu gorchymyn nhw i wneud morter clai a brics, a hefyd i weithio’n galed yn y caeau. Yn wir, gwnaethon nhw eu gorfodi nhw i lafurio o dan amgylchiadau anodd ac o dan pob math o gaethwasiaeth.
15 Yn hwyrach ymlaen siaradodd brenin yr Aifft â’r bydwragedd Hebreig o’r enw Siffra a Pua, 16 a dywedodd ef wrthyn nhw: “Pan fyddwch chi’n helpu’r merched* Hebreig i roi genedigaeth mae’n rhaid ichi dalu sylw wrth iddyn nhw roi genedigaeth.* Os yw’n fab, mae’n rhaid ichi ei ladd; ond os yw’n ferch, mae’n rhaid iddi fyw.” 17 Fodd bynnag, roedd y bydwragedd yn ofni’r gwir Dduw, ac ni wnaethon nhw’r hyn a ddywedodd brenin yr Aifft wrthyn nhw. Yn hytrach, bydden nhw’n cadw’r babanod gwryw yn fyw. 18 Mewn amser galwodd brenin yr Aifft ar y bydwragedd a dweud wrthyn nhw: “Pam rydych chi wedi cadw’r babanod gwryw yn fyw?” 19 Dywedodd y bydwragedd wrth Pharo: “Dydy’r merched* Hebreig ddim yr un fath â merched* yr Aifft. Maen nhw’n fywiog ac yn rhoi genedigaeth cyn i’r fydwraig fynd i mewn atyn nhw.”
20 Felly gwnaeth Duw gefnogi’r bydwragedd, a pharhaodd y bobl i gynyddu ac i gryfhau yn fawr iawn. 21 Ac oherwydd bod y bydwragedd wedi ofni’r gwir Dduw, fe roddodd deuluoedd iddyn nhw yn hwyrach ymlaen. 22 Yn y diwedd, gorchmynnodd Pharo i’w holl bobl: “Mae’n rhaid ichi daflu pob mab Hebreig sydd newydd gael ei eni i mewn i Afon Nîl, ond mae’n rhaid ichi gadw pob merch yn fyw.”