Genesis
4 Nawr cafodd Adda gyfathrach rywiol gyda’i wraig Efa, a daeth hi’n feichiog. Pan roddodd hi enedigaeth i Cain, dywedodd hi: “Rydw i wedi geni plentyn gwryw gyda help Jehofa.” 2 Yn hwyrach ymlaen dyma hi’n rhoi genedigaeth eto, i’w frawd Abel.
Bugail defaid oedd Abel, ond roedd Cain yn trin y tir. 3 Ar ôl i amser fynd heibio, daeth Cain â rhai o ffrwythau’r tir fel offrwm i Jehofa. 4 Ond daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf ei braidd, gan gynnwys eu braster. Er bod Abel a’i offrwm yn plesio Jehofa, 5 doedd Cain a’i offrwm ddim yn ei blesio o gwbl. Felly dyma Cain yn gwylltio’n lân ac yn digalonni. 6 Yna dywedodd Jehofa wrth Cain: “Pam rwyt ti mor ddig a digalon? 7 Os gwnei di droi at ddaioni, oni fyddi di’n fy mhlesio i? Ond os na wnei di droi at ddaioni, mae pechod yn llechu wrth y drws, ac mae’n dymuno dy reoli di; ond a fyddi di’n feistr arno?”
8 Ar ôl hynny dywedodd Cain wrth ei frawd Abel: “Gad inni fynd i’r cae.” Felly tra oedden nhw yn y cae, dyma Cain yn ymosod ar ei frawd Abel a’i ladd. 9 Yn hwyrach ymlaen, dywedodd Jehofa wrth Cain: “Ble mae dy frawd Abel?” Dywedodd yntau: “Dydw i ddim yn gwybod. Ai fi sydd i fod i warchod fy mrawd?” 10 Ar hynny dyma Duw yn dweud: “Beth rwyt ti wedi ei wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o’r pridd. 11 Ac nawr rydw i’n dy felltithio di drwy dy alltudio o’r tir sydd wedi agor ei geg i dderbyn gwaed dy frawd o dy law di. 12 Pan fyddi di’n trin y tir, ni fydd yn rhoi ei gynnyrch yn ôl iti. Byddi di’n crwydro ac yn byw fel ffoadur yn y ddaear.” 13 Ar hynny dywedodd Cain wrth Jehofa: “Mae’r gosb am fy mhechod yn ormod imi ei chario. 14 Heddiw rwyt ti’n fy ngyrru i o’r wlad,* a fydda i ddim yn gallu dod yn agos atat ti; a bydda i’n crwydro ac yn byw fel ffoadur ar y ddaear, a bydd unrhyw un sy’n dod o hyd imi yn sicr o fy lladd i.” 15 Felly dywedodd Jehofa wrtho: “Am y rheswm hwnnw, bydd unrhyw un sy’n lladd Cain yn cael ei gosbi saith gwaith.”
Felly dyma Jehofa’n gosod* arwydd ar gyfer Cain fel na fyddai’n cael ei daro gan unrhyw un a fyddai’n dod o hyd iddo. 16 Yna aeth Cain i ffwrdd oddi wrth Jehofa a dechrau byw yng ngwlad yr Alltudiaeth,* i’r dwyrain o Eden.
17 Ar ôl hynny cafodd Cain gyfathrach rywiol gyda’i wraig, a daeth hi’n feichiog a rhoi genedigaeth i Enoch. Yna aeth ati i adeiladu dinas ac enwi’r ddinas ar ôl ei fab Enoch. 18 Yn hwyrach ymlaen daeth Enoch yn dad i Irad. A daeth Irad yn dad i Mehwiael, a daeth Mehwiael yn dad i Methwsael, a daeth Methwsael yn dad i Lamech.
19 Cymerodd Lamech ddwy wraig iddo’i hun. Enw’r gyntaf oedd Ada, ac enw’r ail oedd Sila. 20 Rhoddodd Ada enedigaeth i Jabal. Ef oedd sylfaenydd y rhai sy’n byw mewn pebyll ac sy’n cadw anifeiliaid. 21 Enw ei frawd oedd Jubal. Ef oedd sylfaenydd yr holl rai sy’n canu’r delyn a’r ffliwt.* 22 Hefyd, rhoddodd Sila enedigaeth i Tubal-cain, a oedd yn ffurfio pob math o offer o gopr a haearn. A chwaer Tubal-cain oedd Naama. 23 Yna cyfansoddodd Lamech y geiriau hyn ar gyfer ei wragedd Ada a Sila:
“Gwrandewch ar fy llais, chi wragedd Lamech;
Rhowch sylw i fy ngeiriau:
Dyn rydw i wedi ei ladd am fy anafu i,
Ie, dyn ifanc am fy nharo i.
24 Os bydd dial 7 gwaith am Cain,
Yna 77 gwaith am Lamech.”
25 Unwaith eto cafodd Adda gyfathrach rywiol gyda’i wraig, a rhoddodd hi enedigaeth i fab. Dyma hi’n ei alw’n Seth* oherwydd, fel dywedodd hi, “Mae Duw wedi penodi disgynnydd* arall imi yn lle Abel, oherwydd bod Cain wedi ei ladd.” 26 Hefyd cafodd Seth fab, a’i alw’n Enos. Yr adeg honno dechreuodd pobl alw ar enw Jehofa.