Genesis
7 Ar ôl hynny dywedodd Jehofa wrth Noa: “Dos i mewn i’r arch, ti a dy holl deulu, oherwydd fy mod i wedi gweld mai ti ydy’r un mwyaf cyfiawn ymhlith y genhedlaeth hon. 2 Mae’n rhaid iti gymryd gyda ti bob math o anifail glân bob yn saith,* y gwryw a’i gymar; a dim ond dau o bob anifail sydd ddim yn lân, y gwryw a’i gymar; 3 hefyd o bob creadur sy’n hedfan yn yr awyr bob yn saith,* yn wryw ac yn fenyw, er mwyn i’r creaduriaid hyn barhau i fyw ar wyneb yr holl ddaear. 4 Oherwydd mewn dim ond saith diwrnod, rydw i am wneud iddi lawio ar y ddaear am 40 diwrnod a 40 nos, a bydda i’n dileu oddi ar wyneb y ddaear bopeth byw rydw i wedi ei wneud.” 5 Yna fe wnaeth Noa bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn iddo.
6 Roedd Noa’n 600 mlwydd oed pan ddaeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear. 7 Felly aeth Noa, ynghyd â’i feibion, ei wraig, a gwragedd ei feibion, i mewn i’r arch cyn i ddyfroedd y dilyw ddod. 8 O bob anifail glân ac o bob anifail sydd ddim yn lân ac o bob creadur sy’n hedfan ac o bopeth sy’n symud ar y ddaear, 9 aethon nhw i mewn i’r arch at Noa bob yn ddau, yn wryw ac yn fenyw, yn union fel roedd Duw wedi gorchymyn i Noa. 10 A saith diwrnod yn ddiweddarach daeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear.
11 Yn y 600fed flwyddyn o fywyd Noa, yn yr ail fis, ar yr ail ar bymtheg* o’r mis, ar y diwrnod hwnnw dyma holl ffynhonnau’r dyfnder dŵr enfawr yn byrstio a llifddorau’r nefoedd yn agor. 12 A gwnaeth hi fwrw glaw ar y ddaear am 40 diwrnod a 40 nos. 13 Ar yr union ddiwrnod hwnnw, aeth Noa i mewn i’r arch ynghyd â’i feibion, Sem, Ham, a Jaffeth, a hefyd ei wraig a thair gwraig ei feibion. 14 Aethon nhw i mewn gyda phob anifail gwyllt yn ôl ei fath, a phob anifail domestig yn ôl ei fath, a phob anifail sy’n ymlusgo ar y ddaear yn ôl ei fath, a phob creadur sy’n hedfan yn ôl ei fath, pob aderyn, pob creadur ag adenydd. 15 Roedden nhw’n parhau i fynd at Noa y tu mewn i’r arch, bob yn ddau, o bob creadur sy’n anadlu.* 16 Felly aethon nhw i mewn, yn wryw ac yn fenyw o bob creadur, yn union fel roedd Duw wedi gorchymyn iddo. Ar ôl hynny fe gaeodd Jehofa’r drws.
17 Gwnaeth y llifogydd barhau* am 40 diwrnod ar y ddaear, a gwnaeth y dyfroedd barhau i godi, nes i’r arch ddechrau nofio yn uchel uwchben y ddaear. 18 Roedd y dyfroedd yn cryfhau ac yn cryfhau ac yn dal i gynyddu’n fawr ar y ddaear, ond roedd yr arch yn nofio ar wyneb y dyfroedd. 19 Gwnaeth y dyfroedd gryfhau gymaint ar y ddaear nes i’r holl fynyddoedd uchel o dan yr holl nefoedd gael eu gorchuddio. 20 Cododd y dyfroedd 15 cufydd* uwchben y mynyddoedd.
21 Felly gwnaeth pob creadur byw* a oedd yn symud ar y ddaear farw—y creaduriaid sy’n hedfan, yr anifeiliaid domestig, yr anifeiliaid gwyllt, y creaduriaid sy’n heidio, a holl ddynolryw. 22 Gwnaeth popeth ar dir sych a oedd ag anadl bywyd* yn eu ffroenau farw. 23 Felly fe wnaeth Duw ddileu pob peth byw oddi ar wyneb y ddaear, yn cynnwys dyn, anifeiliaid, anifeiliaid sy’n ymlusgo, a’r creaduriaid sy’n hedfan yn yr awyr. Fe gawson nhw i gyd eu dileu o’r ddaear; dim ond Noa a’r rhai a oedd gydag ef yn yr arch a wnaeth oroesi. 24 A gwnaeth y dyfroedd barhau i orchuddio’r ddaear am 150 o ddyddiau.