LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Genesis 10
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Genesis

      • Rhestr o’r cenhedloedd (1-32)

        • Disgynyddion Jaffeth (2-5)

        • Disgynyddion Ham (6-20)

          • Nimrod yn erbyn Jehofa (8-12)

        • Disgynyddion Sem (21-31)

Genesis 10:21

Troednodiadau

  • *

    Neu efallai, “brawd hŷn.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Genesis 10:1-32

Genesis

10 Dyma hanes meibion Noa, sef Sem, Ham, a Jaffeth.

Cawson nhw feibion ar ôl y Dilyw. 2 Meibion Jaffeth oedd Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, a Tiras.

3 Meibion Gomer oedd Ascenas, Riffath, a Togarma.

4 Meibion Jafan oedd Elisa, Tarsis, Cittim, a Dodanim.

5 Ohonyn nhw y daeth trigolion yr ynysoedd, a wnaeth setlo yn eu gwledydd yn ôl eu hieithoedd a’u teuluoedd a’u cenhedloedd.

6 Meibion Ham oedd Cus, Misraim, Put, a Canaan.

7 Meibion Cus oedd Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabteca.

Meibion Raama oedd Seba a Dedan.

8 Daeth Cus yn dad i Nimrod. Ef oedd y rhyfelwr pwerus cyntaf ar y ddaear. 9 Daeth ef yn heliwr cryf yn erbyn Jehofa. Dyna pam mae ’na ddywediad: “Yn union fel Nimrod, heliwr cryf yn erbyn Jehofa.” 10 Dinasoedd cyntaf ei deyrnas oedd Babel, Erech, Accad a Calne, yng ngwlad Sinar. 11 O’r wlad honno fe aeth i mewn i Asyria ac adeiladu Ninefe, Rehoboth-Ir, Cala, 12 a Resen, rhwng Ninefe a Cala: Hon yw’r ddinas fawr.

13 Daeth Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim, 14 Pathrusim, Casluhim (cyndad y Philistiaid), a Cafftorim.

15 Daeth Canaan yn dad i Sidon, ei gyntaf-anedig, a Heth, 16 ynghyd â’r Jebusiaid, yr Amoriaid, y Girgasiaid, 17 yr Hefiaid, yr Arciaid, y Siniaid, 18 yr Arfadiaid, y Semariaid, a’r Hamathiaid. Ar ôl hynny, cafodd teuluoedd Canaan eu gwasgaru. 19 Felly roedd tiriogaeth y Canaaneaid yn ymestyn o Sidon mor bell â Gerar, sy’n agos at Gasa, mor bell â Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, sy’n agos at Lesa. 20 Rhain oedd meibion Ham yn ôl eu teuluoedd a’u hieithoedd, eu gwledydd a’u cenhedloedd.

21 Hefyd cafodd Sem, brawd iau* Jaffeth, blant. Roedd Eber a’i holl feibion yn ddisgynyddion i Sem. 22 Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffacsad, Lud, ac Aram.

23 Meibion Aram oedd Us, Hul, Gether, a Mas.

24 Daeth Arffacsad yn dad i Sela, a daeth Sela yn dad i Eber.

25 Cafodd Eber ddau fab. Enw un ohonyn nhw oedd Peleg, oherwydd yn ystod ei fywyd ef cafodd poblogaeth y ddaear ei gwahanu. Enw ei frawd oedd Joctan.

26 Daeth Joctan yn dad i Almodad, Seleff, Hasarmafeth, Jera, 27 Hadoram, Usal, Dicla, 28 Obal, Abimael, Seba, 29 Offir, Hafila, a Jobab; y rhain i gyd oedd meibion Joctan.

30 Roedd y diriogaeth lle roedden nhw’n byw yn ymestyn o Mesa mor bell â Seffar, ardal fynyddig y Dwyrain.

31 Y rhain oedd meibion Sem yn ôl eu teuluoedd a’u hieithoedd, eu gwledydd a’u cenhedloedd.

32 Y rhain oedd teuluoedd meibion Noa yn ôl llinach eu teuluoedd ac yn ôl eu cenhedloedd. O’r rhain y lledaenodd y cenhedloedd drwy’r ddaear ar ôl y Dilyw.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu