LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Genesis 35
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Genesis

      • Jacob yn cael gwared ar dduwiau estron (1-4)

      • Jacob yn mynd yn ôl i Bethel (5-15)

      • Genedigaeth Benjamin; marwolaeth Rachel (16-20)

      • 12 mab Israel (21-26)

      • Marwolaeth Isaac (27-29)

Genesis 35:4

Troednodiadau

  • *

    Neu “cuddio.”

Genesis 35:7

Troednodiadau

  • *

    Sy’n golygu “Duw Bethel.”

Genesis 35:8

Troednodiadau

  • *

    Sy’n golygu “Derwen yr Wylo.”

Genesis 35:12

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “had.”

Genesis 35:14

Troednodiadau

  • *

    Neu “arllwys.”

Genesis 35:18

Troednodiadau

  • *

    Neu “ei henaid yn mynd allan.”

  • *

    Sy’n golygu “Mab fy Ngalar.”

  • *

    Sy’n golygu “Mab y Llaw Dde.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 71

    Pan ’Rydym yn Marw?, tt. 22-23

Genesis 35:22

Troednodiadau

  • *

    Neu “o wragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.

Genesis 35:29

Troednodiadau

  • *

    Ymadrodd barddonol am farwolaeth yw hwn.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Genesis 35:1-29

Genesis

35 Ar ôl hynny, dywedodd Duw wrth Jacob: “Cod, dos i fyny i Fethel i fyw, a gwna allor yno i’r gwir Dduw, a ymddangosodd o dy flaen di pan oeddet ti’n rhedeg i ffwrdd oddi wrth Esau dy frawd.”

2 Yna dywedodd Jacob wrth ei deulu a phawb oedd gydag ef: “Dylech chi gael gwared ar y duwiau estron sydd yn eich plith a glanhau eich hunain a newid eich dillad, 3 a dewch inni godi a mynd i fyny i Fethel. Yno, bydda i’n gwneud allor i’r gwir Dduw a wnaeth fy ateb i yn y dydd pan oeddwn i’n dioddef, y Duw sydd wedi bod gyda mi ble bynnag rydw i wedi mynd.” 4 Felly rhoddon nhw’r holl dduwiau estron oedd ganddyn nhw i Jacob yn ogystal â’r clustlysau oedd yn eu clustiau, a gwnaeth Jacob eu claddu* nhw o dan goeden fawr oedd yn agos i Sechem.

5 Pan aethon nhw ymlaen ar eu taith, cafodd y dinasoedd o’u cwmpas eu taro gan ofn Duw, felly aethon nhw ddim ar ôl meibion Jacob. 6 Yn y pen draw, daeth Jacob i Lus, hynny yw, Bethel, yng ngwlad Canaan, ef a’r holl bobl gydag ef. 7 Adeiladodd allor yno a galw’r lle yn El-bethel,* oherwydd yn y fan honno roedd y gwir Dduw wedi ymddangos iddo pan oedd wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei frawd. 8 Yn hwyrach ymlaen bu farw Debora, y forwyn wnaeth fagu Rebeca, a chafodd hi ei chladdu o dan dderwen wrth ymyl Bethel. Felly rhoddodd Jacob yr enw Alon-bacuth* ar y goeden.

9 Ymddangosodd Duw i Jacob unwaith eto tra oedd yn dod o Padan-aram, a’i fendithio. 10 Dywedodd Duw wrtho: “Dy enw di yw Jacob, ond fyddi di ddim yn cael dy alw’n Jacob bellach, ond Israel fydd dy enw.” A dechreuodd ei alw’n Israel. 11 Aeth Duw ymlaen i ddweud wrtho: “Fi ydy Duw Hollalluog. Bydda i’n achosi iti gael llawer o ddisgynyddion. Bydd cenhedloedd a thyrfaoedd o bobl yn dod ohonot ti, a bydd rhai o dy ddisgynyddion yn frenhinoedd. 12 Ynglŷn â’r wlad rydw i wedi ei rhoi i Abraham ac i Isaac, bydda i’n ei rhoi i ti ac i dy ddisgynyddion* ar dy ôl di.” 13 Yna, dyma Duw yn mynd i fyny oddi wrtho o’r lle roedd ef wedi siarad ag ef.

14 Felly gosododd Jacob golofn yn y fan lle roedd wedi siarad ag ef, colofn o garreg, a thywallt* offrwm diod arni, a thywallt olew arni. 15 A pharhaodd Jacob i alw’r fan lle roedd Duw wedi siarad ag ef yn Bethel.

16 Yna, dyma nhw’n gadael Bethel. A thra oedden nhw’n dal yn eithaf pell o Effrath, dechreuodd Rachel gael ei phlentyn, ac roedd ei phoenau geni yn ddifrifol iawn. 17 Ond tra oedd hi’n cael trafferthion yn geni’r plentyn, dywedodd y fydwraig wrthi: “Paid ag ofni, oherwydd byddi di’n cael y plentyn hwn hefyd.” 18 Fel roedd hi’n tynnu ei hanadl olaf* (oherwydd roedd hi’n marw), rhoddodd hi’r enw Ben-oni* arno, ond dyma ei dad yn ei alw’n Benjamin.* 19 Felly bu farw Rachel a chafodd hi ei chladdu ar y ffordd i Effrath, hynny yw, Bethlehem. 20 Cododd Jacob golofn dros ei bedd; colofn bedd Rachel ydy hi hyd heddiw.

21 Ar ôl hynny, teithiodd Israel yn ei flaen a chodi ei babell y tu hwnt i dŵr Eder. 22 Un tro, pan oedd Israel yn byw yn y wlad honno, cysgodd Reuben gyda Bilha, un o wragedd eraill* ei dad, a chlywodd Israel am y peth.

Felly roedd gan Jacob 12 mab. 23 Meibion Lea oedd Reuben, sef cyntaf-anedig Jacob, yna Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon. 24 Meibion Rachel oedd Joseff a Benjamin. 25 A meibion Bilha, morwyn Rachel, oedd Dan a Nafftali. 26 A meibion Silpa, morwyn Lea, oedd Gad ac Aser. Dyma feibion Jacob a gafodd eu geni iddo yn Padan-aram.

27 Yn y pen draw, daeth Jacob at ei dad Isaac ym Mamre, yn Ciriath-arba, hynny yw, Hebron, lle roedd Abraham a hefyd Isaac wedi byw fel estronwyr. 28 Gwnaeth Isaac fyw nes oedd yn 180 mlwydd oed. 29 Yna tynnodd Isaac ei anadl olaf a bu farw a chafodd ei gasglu at ei bobl* ar ôl bywyd hir a bodlon; a chafodd ei gladdu gan ei feibion Esau a Jacob.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu