LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Genesis 38
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Genesis

      • Jwda a Tamar (1-30)

Genesis 38:5

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “ef.” Hynny yw, Jwda.

  • *

    Neu “Chesib.”

Genesis 38:9

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, semen.

Genesis 38:20

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

Genesis 38:29

Troednodiadau

  • *

    Sy’n golygu “Rhwyg,” yn cyfeirio mae’n debyg at rwyg perineol.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Genesis 38:1-30

Genesis

38 Tua’r adeg honno, gadawodd Jwda ei frodyr a chodi ei babell yn agos at ddyn o’r enw Hira a oedd yn dod o Adulam. 2 Yno, gwelodd Jwda ferch un o’r Canaaneaid o’r enw Sua. Felly cymerodd hi a chysgu gyda hi, 3 a daeth hi’n feichiog. Yn nes ymlaen, cafodd hi fab, a rhoddodd ef yr enw Er arno. 4 A daeth hi’n feichiog eto a chafodd hi fab a’i alw’n Onan. 5 Cafodd hi fab unwaith eto a’i alw’n Sela. Roedden nhw* yn Achsib* pan roddodd hi enedigaeth iddo.

6 Ymhen amser, cymerodd Jwda wraig ar gyfer Er, ei gyntaf-anedig, a’i henw hi oedd Tamar. 7 Ond doedd Er, cyntaf-anedig Jwda, ddim yn plesio Jehofa; felly dyma Jehofa yn ei roi i farwolaeth. 8 Oherwydd hynny, dywedodd Jwda wrth Onan: “Prioda wraig dy frawd a gwna dy ddyletswydd fel brawd-yng-nghyfraith. Cysga gyda hi a magu plant ar gyfer dy frawd.” 9 Ond roedd Onan yn gwybod na fyddai’r plant yn cael eu hystyried yn blant iddo ef, felly pan fyddai’n cysgu gyda gwraig ei frawd, byddai’n gwastraffu ei had* ar y llawr er mwyn peidio â rhoi plant i’w frawd. 10 Roedd hynny’n ddrwg yng ngolwg Jehofa, felly dyma’n ei roi ef hefyd i farwolaeth. 11 Dywedodd Jwda wrth Tamar, ei ferch-yng-nghyfraith: “Dylet ti fyw fel gweddw yn nhŷ dy dad nes i fy mab Sela dyfu i fyny,” oherwydd dywedodd wrtho ef ei hun: ‘Efallai bydd yntau hefyd yn marw fel ei frodyr.’ Felly aeth Tamar i aros yn nhŷ ei thad ei hun.

12 Aeth amser heibio, a bu farw gwraig Jwda, merch Sua. Pan oedd Jwda wedi gorffen ei gyfnod o alaru, aeth at gneifwyr ei ddefaid yn Timnath gyda’i ffrind Hira o Adulam. 13 Dywedodd rhywun wrth Tamar: “Mae dy dad-yng-nghyfraith yn mynd i fyny i Timnath i gneifio ei ddefaid.” 14 Ar hynny, dyma hi’n tynnu ei gwisg a oedd yn dangos ei bod hi’n wraig weddw ac yn cuddio ei hwyneb â fêl ac yn ei gorchuddio ei hun â siôl ac yn eistedd wrth fynedfa Enaim, sydd ar y ffordd i Timnath, oherwydd roedd hi wedi gweld bod Sela wedi tyfu i fyny ond eto doedd hi ddim wedi cael ei rhoi yn wraig iddo.

15 Pan wnaeth Jwda ei gweld hi, meddyliodd ar unwaith mai putain oedd hi, oherwydd ei bod hi wedi gorchuddio ei hwyneb. 16 Felly aeth draw ati hi ar ochr y ffordd a dywedodd: “Plîs, gad imi gysgu gyda ti,” oherwydd nad oedd yn gwybod mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi. Ond dywedodd hi: “Beth gwnei di ei roi imi er mwyn cysgu gyda mi?” 17 Atebodd yntau: “Fe wna i anfon gafr ifanc o fy mhraidd.” Ond dywedodd hithau: “A wnei di roi gwarant imi nes iti ei anfon?” 18 Dywedodd ef: “Pa warant dylwn i ei roi iti?” Atebodd hi: “Dy sêl-fodrwy a’r llinyn ar ei chyfer hi a dy ffon sydd yn dy law.” Yna, dyma’n eu rhoi nhw iddi hi ac yn cysgu gyda hi, a daeth hi’n feichiog ohono ef. 19 Ar ôl hynny, cododd hi ac aeth i ffwrdd a thynnu ei siôl a rhoi ei gwisg weddw amdani.

20 Ac anfonodd Jwda ei ffrind o Adulam gyda’r gafr ifanc i gael y gwarant yn ôl oddi wrth y ddynes,* ond ni ddaeth o hyd iddi. 21 Dyma’n holi dynion y lle gan ddweud: “Ble mae putain y deml a oedd yn arfer bod yn Enaim wrth ochr y ffordd?” Ond dywedon nhw: “Does dim putain y deml erioed wedi bod yn y lle hwn.” 22 Yn y diwedd, aeth yn ôl at Jwda a dywedodd: “Wnes i ddim dod o hyd iddi, a beth bynnag, dywedodd dynion y lle, ‘Does dim putain y deml erioed wedi bod yn y lle hwn.’” 23 Felly dywedodd Jwda: “Fe gaiff hi eu cadw nhw, fel na fyddwn ni’n dod â gwarth arnon ni’n hunain. Beth bynnag, rydw i wedi anfon y gafr ifanc hwn, ond wnest ti ddim dod o hyd iddi.”

24 Fodd bynnag, ar ôl tua thri mis, dywedodd rhywun wrth Jwda: “Mae Tamar dy ferch-yng-nghyfraith wedi ymddwyn fel putain, ac o ganlyniad mae hi’n feichiog.” Ar hynny, dywedodd Jwda: “Dewch â hi allan a llosgwch hi!” 25 Tra oedden nhw’n dod â hi allan, anfonodd hi neges at ei thad-yng-nghyfraith: “Rydw i’n feichiog o’r dyn sydd biau’r rhain.” Yna ychwanegodd hi: “Plîs edrycha arnyn nhw i weld pwy sydd biau nhw, y sêl-fodrwy, y llinyn, a’r ffon.” 26 Yna edrychodd Jwda arnyn nhw a dywedodd: “Mae hi’n fwy cyfiawn na fi, oherwydd wnes i ddim ei rhoi hi i Sela fy mab.” Ac ni wnaeth ef gysgu gyda hi eto ar ôl hynny.

27 Pan ddaeth yr amser iddi hi roi genedigaeth, roedd ’na efeilliaid yn ei chroth. 28 Tra oedd hi’n rhoi genedigaeth, gwnaeth un ohonyn nhw estyn ei law, a dyma’r fydwraig yn cymryd edau ysgarlad ar unwaith a’i rhwymo am ei law gan ddweud: “Daeth hwn allan yn gyntaf.” 29 Ond unwaith iddo dynnu ei law yn ôl, daeth ei frawd allan, a dyma hi’n gweiddi: “Edrycha ar sut rwyt ti wedi torri allan o’r groth!” Felly cafodd ef ei alw’n Peres.* 30 Wedyn daeth ei frawd allan, yr un â’r llinyn ysgarlad am ei law, ac fe gafodd ef ei alw’n Sera.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu