Exodus
29 “Dyma beth mae’n rhaid iti ei wneud i’w sancteiddio nhw er mwyn iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid imi: Cymera darw ifanc, dau hwrdd* di-nam, 2 bara croyw, torthau siâp modrwy heb furum sydd wedi eu cymysgu ag olew, a bara croyw tenau sydd ag olew arno. Dylet ti eu gwneud nhw â’r blawd* gwenith gorau 3 a’u rhoi nhw mewn basged a’u cyflwyno nhw yn y fasged. Dylet ti hefyd offrymu’r tarw a’r ddau hwrdd.*
4 “Byddi di’n cyflwyno Aaron a’i feibion wrth fynedfa pabell y cyfarfod ac yn eu golchi nhw â dŵr. 5 Yna dylet ti gymryd y dillad a rhoi’r fantell am Aaron yn ogystal â’r gôt heb lewys sy’n mynd o dan yr effod, yr effod, a’r darn o wisg wedi ei brodio, a dylet ti glymu belt* yr effod sydd wedi ei weu yn dynn am ei ganol. 6 Byddi di’n rhoi’r tyrban ar ei ben ac yn rhoi’r arwydd sanctaidd o gysegriad i Dduw* ar y tyrban; 7 a byddi di’n cymryd yr olew eneinio ac yn ei dywallt* ar ei ben ac yn ei eneinio.
8 “Yna tyrd â’i feibion yn agos ata i a’u gwisgo nhw â’r mentyll 9 a lapio’r sashiau o’u cwmpas nhw, Aaron ynghyd â’i feibion, a rho’r penwisgoedd arnyn nhw; a bydd y dynion hyn a’u disgynyddion yn offeiriaid a bydd hyn yn ddeddf barhaol. Dyma sut dylet ti benodi Aaron a’i feibion i wasanaethu fel offeiriaid.
10 “Nawr dylet ti gyflwyno’r tarw o flaen pabell y cyfarfod, a bydd Aaron a’i feibion yn gosod eu dwylo ar ben y tarw. 11 Dylet ti ladd y tarw o flaen Jehofa, wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 12 Cymera ychydig o waed y tarw ar dy fys a’i roi ar gyrn yr allor, a thywallt* gweddill y gwaed wrth droed yr allor. 13 Yna cymera’r holl fraster sy’n gorchuddio’r perfeddion, y braster sydd ar yr iau, a’r ddwy aren ynghyd â’u braster, a llosga nhw fel bod mwg yn codi oddi arnyn nhw ar yr allor. 14 Ond llosga gig y tarw â thân y tu allan i’r gwersyll, ynghyd â’i groen a’i garthion.* Mae’n offrwm dros bechod.
15 “Yna cymera un o’r hyrddod,* a bydd Aaron a’i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr hwrdd.* 16 Dylet ti ladd yr hwrdd* a chymryd ei waed a’i daenellu ar bob ochr i’r allor. 17 Torra’r hwrdd* yn ddarnau, a golcha ei berfeddion a’i goesau, a threfna’r darnau hyn, gan gynnwys y pen, ar yr allor. 18 Mae’n rhaid iti losgi’r hwrdd* cyfan, gan wneud i fwg godi oddi arno ar yr allor. Mae’n offrwm llosg i Jehofa, yn arogl sy’n ei blesio. Mae’n offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa.
19 “Nesaf mae’n rhaid iti gymryd yr hwrdd* arall, a bydd Aaron a’i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr hwrdd.* 20 Dylet ti ladd yr hwrdd* a chymryd ychydig o’i waed a’i roi ar waelod clust dde Aaron ac ar waelod clust dde bob un o’i feibion ac ar fawd llaw dde pob un ac ar fawd troed dde pob un, a thaenella’r gwaed ar bob ochr i’r allor. 21 Yna cymera ychydig o’r gwaed sydd ar yr allor ac ychydig o’r olew eneinio a’u taenellu ar Aaron ac ar ei ddillad a hefyd ar ei feibion ac ar ddillad ei feibion, er mwyn iddo ef a’i ddillad a hefyd ei feibion a’u dillad nhw fod yn sanctaidd.
22 “Yna tynna’r braster oddi ar yr hwrdd,* hynny yw, y braster sydd ar y cynffon, y braster sy’n gorchuddio’r perfeddion, y braster sydd ar yr iau, y ddwy aren ynghyd â’u braster, a’r goes dde, oherwydd mae’n hwrdd* sy’n cael ei offrymu er mwyn penodi’r offeiriaid, hwrdd* y penodi. 23 Cymera hefyd dorth gron o fara, torth siâp modrwy sydd wedi ei chymysgu ag olew, a bara tenau allan o’r fasged o fara croyw sydd o flaen Jehofa. 24 Mae’n rhaid iti roi’r cwbl yn nwylo Aaron ac yn nwylo ei feibion, ac mae’n rhaid i’r pethau hyn gael eu chwifio yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa. 25 Yna byddi di’n eu cymryd nhw allan o’u dwylo ac yn eu llosgi nhw ar yr allor, ar ben yr offrwm llosg, fel arogl sy’n plesio Jehofa. Mae’n offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa.
26 “Yna cymera frest hwrdd* y penodi, sy’n cael ei offrymu ar ran Aaron, a’i chwifio yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa, a dyna fydd dy ran di. 27 Dylet ti sancteiddio coes a brest hwrdd* y penodi, sy’n cael ei offrymu ar ran Aaron a’i feibion, y rhannau a gafodd eu chwifio o flaen Duw. 28 Bydd y rhannau hynny yn mynd i Aaron a’i feibion fel deddf barhaol, a dylai’r Israeliaid gadw at y ddeddf honno oherwydd mae’n offrwm sanctaidd y mae’n rhaid i’r Israeliaid ei gyflwyno. Dyna yw offrwm sanctaidd yr Israeliaid i Jehofa sy’n dod o’u haberthau heddwch.
29 “Bydd y dillad sanctaidd sy’n perthyn i Aaron yn cael eu defnyddio gan ei feibion ar ei ôl pan fyddan nhw’n cael eu heneinio a’u penodi’n offeiriaid. 30 Bydd yr offeiriad sy’n cymryd ei le o blith ei feibion, ac sy’n dod i mewn i babell y cyfarfod i wasanaethu yn y lle sanctaidd, yn eu gwisgo nhw am saith diwrnod.
31 “Byddi di’n cymryd hwrdd* y penodi ac yn berwi ei gig mewn lle sanctaidd. 32 Bydd Aaron a’i feibion yn bwyta cig yr hwrdd* a’r bara sydd yn y fasged wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 33 Dylen nhw fwyta’r pethau a gafodd eu haberthu ar gyfer maddeuant pechodau ac ar gyfer eu penodi nhw’n offeiriaid a’u sancteiddio nhw. Ond ni all unrhyw un eu bwyta os nad oes ganddo’r hawl,* gan eu bod nhw’n rhywbeth sanctaidd. 34 Ar ôl ichi offrymu aberth y penodi, os oes ’na unrhyw gig neu fara dros ben y bore wedyn, yna mae’n rhaid iti losgi beth sydd ar ôl â thân. Ni ddylai gael ei fwyta, gan ei fod yn rhywbeth sanctaidd.
35 “Dylet ti wneud hyn i Aaron a’i feibion, yn ôl popeth rydw i wedi ei orchymyn iti. Bydd yn cymryd saith diwrnod iti eu penodi nhw’n offeiriaid. 36 Byddi di’n offrymu tarw yr offrwm dros bechod bob dydd ar gyfer maddeuant pechodau, a dylet ti buro’r allor rhag pechod drwy offrymu’r aberth hwn ar gyfer maddeuant pechodau, ac mae’n rhaid iti ei heneinio er mwyn ei sancteiddio. 37 Bydd yn cymryd saith diwrnod iti buro’r allor, ac mae’n rhaid iti ei sancteiddio er mwyn iddi fod yn allor sanctaidd iawn. Dylai unrhyw un sy’n cyffwrdd â’r allor fod yn sanctaidd.
38 “Dyma beth byddi di’n ei offrymu ar yr allor: dau hwrdd* blwydd oed, bob diwrnod, yn barhaol. 39 Offryma un hwrdd* ifanc yn y bore a’r hwrdd* arall yn y gwyll.* 40 Gyda’r hwrdd* ifanc cyntaf offryma ddegfed ran o fesur effa* o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu â chwarter hin* o olew olewydd, a chwarter hin o win fel offrwm diod. 41 Offryma’r ail hwrdd* ifanc yn y gwyll,* ynghyd â’r un offrymau grawn ac offrymau diod ag y cafodd eu haberthu yn y bore. Bydd hyn yn offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, a bydd yr arogl yn ei blesio. 42 Dylai’r offrwm llosg hwn gael ei gyflwyno’n rheolaidd wrth fynedfa pabell y cyfarfod o flaen Jehofa, dyna lle bydda i’n fy nghyflwyno fy hun iti er mwyn siarad â ti yno. O hyn ymlaen byddwch chi a’ch disgynyddion yn gwneud hyn drwy eich holl genedlaethau.
43 “Bydda i’n fy nghyflwyno fy hun yno i’r Israeliaid, a bydd y lle hwnnw’n cael ei sancteiddio gan fy ngogoniant. 44 Bydda i’n sancteiddio pabell y cyfarfod a’r allor, a bydda i’n sancteiddio Aaron a’i feibion er mwyn iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid imi. 45 Bydda i’n byw ymysg pobl Israel, a bydda i’n Dduw iddyn nhw. 46 A byddan nhw’n bendant yn gwybod mai fi yw Jehofa eu Duw, yr un a wnaeth eu harwain nhw allan o wlad yr Aifft er mwyn imi fyw yn eu plith nhw. Fi yw Jehofa eu Duw.