Lefiticus
4 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Os ydy unrhyw un yn pechu’n anfwriadol drwy wneud rhywbeth mae Jehofa wedi ei wahardd, dyma beth ddylai ddigwydd:
3 “‘Os bydd yr offeiriad sydd wedi cael ei eneinio yn pechu ac yn dod ag euogrwydd ar y bobl, yna bydd rhaid iddo gyflwyno tarw ifanc di-nam i Jehofa fel offrwm dros bechod. 4 Bydd rhaid iddo fynd â’r tarw at fynedfa pabell y cyfarfod o flaen Jehofa a rhoi ei law ar ben y tarw, a dylai ladd y tarw o flaen Jehofa. 5 Yna bydd yr offeiriad sydd wedi cael ei eneinio yn cymryd ychydig o waed y tarw i mewn i babell y cyfarfod; 6 a bydd yr offeiriad yn rhoi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu ychydig o’r gwaed saith gwaith gerbron Jehofa, o flaen llen y lle sanctaidd. 7 Hefyd bydd yr offeiriad yn rhoi ychydig o’r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth persawrus, sydd o flaen Jehofa ym mhabell y cyfarfod; ac fe fydd yn tywallt* gweddill gwaed y tarw wrth droed allor yr offrymau llosg, sydd wrth fynedfa pabell y cyfarfod.
8 “‘Yna fe fydd yn tynnu holl fraster tarw yr offrwm dros bechod, gan gynnwys y braster sy’n gorchuddio’r perfeddion a’r braster o amgylch y perfeddion, 9 a’r ddwy aren ynghyd â’u braster sy’n agos at y lwynau. Ac fe fydd yn tynnu’r braster sydd ar yr iau ynghyd â’r arennau, 10 fel mae’n gwneud â tharw yr aberth heddwch. A bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar allor yr offrymau llosg.
11 “‘Ond ynglŷn â chroen y tarw a’i holl gig, gan gynnwys ei ben, ei goesau, ei berfeddion, a’i garthion*— 12 gweddill y tarw—fe fydd yn ei gymryd y tu allan i’r gwersyll i le glân lle mae’r lludw* yn cael ei daflu, ac fe fydd yn ei losgi ar goed tân. Dylai gael ei losgi lle mae’r lludw yn cael ei daflu.
13 “‘Nawr os bydd holl gynulleidfa Israel yn euog o bechu’n anfwriadol, a hynny heb i’r gynulleidfa wybod eu bod nhw wedi pechu yn erbyn Jehofa, 14 yna pan fydd y bobl yn dod i wybod am y pechod, bydd rhaid i’r gynulleidfa gyflwyno tarw ifanc fel offrwm dros bechod, a’i gymryd o flaen pabell y cyfarfod. 15 Bydd rhaid i henuriaid y gynulleidfa roi eu dwylo ar ben y tarw o flaen Jehofa, a bydd y tarw yn cael ei ladd o flaen Jehofa.
16 “‘Yna bydd yr offeiriad sydd wedi cael ei eneinio yn mynd ag ychydig o waed y tarw i mewn i babell y cyfarfod. 17 Dylai’r offeiriad roi ei fys yn y gwaed a thaenellu ychydig ohono saith gwaith gerbron Jehofa, o flaen y llen. 18 Yna fe fydd yn rhoi ychydig o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd o flaen Jehofa, sydd ym mhabell y cyfarfod; a bydd yn tywallt* gweddill y gwaed wrth droed allor yr offrymau llosg, sydd wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 19 Yna fe fydd yn tynnu holl fraster y tarw ac yn gwneud i fwg godi oddi arno ar yr allor. 20 Dylai drin y tarw yn union fel gwnaeth ef drin y tarw arall, yr un a gafodd ei ddefnyddio fel offrwm dros bechod. Dyna sut bydd ef yn ei drin, a bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r bobl gael maddeuant am eu pechodau. 21 Fe fydd yn gofyn i eraill gymryd y tarw ifanc y tu allan i’r gwersyll, ac fe fydd yn ei losgi yn union fel y gwnaeth â’r tarw cyntaf. Mae’n offrwm dros bechod ar gyfer y gynulleidfa.
22 “‘Pan fydd pennaeth yn pechu’n anfwriadol, ac yn euog o wneud rhywbeth roedd Jehofa ei Dduw wedi gorchymyn iddo beidio â’i wneud, 23 neu os bydd ef yn dod i wybod ei fod wedi pechu drwy fynd yn groes i orchymyn, yna bydd rhaid iddo ddod â bwch gafr ifanc di-nam fel offrwm. 24 Bydd rhaid iddo roi ei law ar ben y bwch gafr ifanc a’i ladd yn yr un lle ag y mae’r offrwm llosg yn cael ei ladd o flaen Jehofa. Mae’n offrwm dros bechod. 25 Bydd yr offeiriad yn cymryd ychydig o waed yr offrwm dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor yr offrymau llosg, ac fe fydd yn tywallt* gweddill y gwaed wrth droed allor yr offrymau llosg. 26 Fe fydd yn gwneud i fwg godi oddi ar yr holl fraster ar yr allor, yn union fel mae’n gwneud â braster yr aberth heddwch; a bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r pennaeth gael maddeuant am ei bechod, a bydd Duw yn maddau iddo.
27 “‘Os bydd un o bobl y wlad yn pechu’n anfwriadol ac yn euog am ei fod wedi dorri un o orchmynion Jehofa, 28 neu os bydd ef yn dod i wybod ei fod wedi pechu, yna bydd rhaid iddo fynd â gafr ifanc ddi-nam fel offrwm dros ei bechod. 29 Bydd rhaid iddo roi ei law ar ben yr offrwm dros bechod a’i ladd yn yr un lle â’r offrwm llosg. 30 Bydd yr offeiriad yn cymryd ychydig o waed yr afr ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor yr offrymau llosg, a bydd yn tywallt* gweddill y gwaed wrth droed yr allor. 31 Fe fydd yn tynnu holl fraster yr afr, yn union fel mae’n gwneud â’r aberth heddwch, a bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi arni ar yr allor fel arogl sy’n plesio Jehofa; a bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechod, a bydd Duw yn maddau iddo.
32 “‘Ond os bydd y person hwnnw yn aberthu oen fel offrwm dros bechod, yna dylai gyflwyno oen fenyw ddi-nam. 33 Bydd rhaid iddo roi ei law ar ben yr offrwm dros bechod a’i ladd yn yr un lle y cafodd yr offrwm llosg ei ladd. 34 Bydd yr offeiriad yn cymryd ychydig o waed yr offrwm dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor yr offrymau llosg, ac fe fydd yn tywallt* gweddill y gwaed wrth droed yr allor. 35 Fe fydd yn tynnu holl fraster yr oen, yn union fel mae’n gwneud â hwrdd* ifanc yr aberth heddwch, a bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi arni ar yr allor, ar ben offrymau Jehofa sydd wedi cael eu gwneud drwy dân; a bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechod, a bydd Duw yn maddau iddo.