Lefiticus
9 Ar yr wythfed diwrnod, dyma Moses yn galw am Aaron a’i feibion a henuriaid Israel. 2 Dywedodd wrth Aaron: “Cymera lo ifanc i ti dy hun fel offrwm dros bechod a hwrdd* fel offrwm llosg, rhai di-nam, a chyflwyna nhw o flaen Jehofa. 3 Ond dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Cymerwch fwch gafr fel offrwm dros bechod yn ogystal â llo a hwrdd* ifanc fel offrwm llosg, pob un yn flwydd oed ac yn ddi-nam. 4 Cymerwch hefyd darw a hwrdd* fel aberthau heddwch, er mwyn eu haberthu o flaen Jehofa, ac offrwm grawn wedi ei gymysgu ag olew, oherwydd bydd Jehofa yn ymddangos ichi heddiw.’”
5 Felly daethon nhw â’r pethau hyn o flaen pabell y cyfarfod yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn. Daeth y gynulleidfa gyfan ymlaen a sefyll o flaen Jehofa. 6 A dywedodd Moses: “Dyma beth mae Jehofa wedi gorchymyn i chi ei wneud, er mwyn ichi weld gogoniant Jehofa.” 7 Yna dywedodd Moses wrth Aaron: “Tyrd at yr allor a chyflwyna dy offrwm dros bechod a dy offrwm llosg, ac abertha er mwyn i ti a dy dŷ gael maddeuant am eich pechodau; a chyflwyna offrwm y bobl, ac abertha er mwyn iddyn nhw gael maddeuant am eu pechodau, yn union fel mae Jehofa wedi gorchymyn.”
8 Ar unwaith aeth Aaron at yr allor a lladd llo yr offrwm dros bechod a oedd ar ei gyfer ef. 9 Yna aeth meibion Aaron ymlaen i gyflwyno’r gwaed iddo, a rhoddodd ei fys yn y gwaed a’i roi ar gyrn yr allor, ac yna tywallt* gweddill y gwaed wrth droed yr allor. 10 Yna, ar yr allor, gwnaeth i fwg godi oddi ar y braster a’r arennau, ac oddi ar fraster iau yr offrwm dros bechod, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses. 11 Yna llosgodd y cig a’r croen â thân y tu allan i’r gwersyll.
12 Yna lladdodd yr offrwm llosg, a rhoddodd meibion Aaron y gwaed iddo, ac aeth ymlaen i’w daenellu ar bob ochr i’r allor. 13 Yna rhoddon nhw ddarnau yr offrwm llosg iddo ynghyd â’r pen, a gwnaeth i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor. 14 Yna, aeth ymlaen i olchi’r perfeddion a’r coesau a gwneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor ynghyd â gweddill yr offrwm llosg.
15 Yna cyflwynodd offrwm y bobl, gan gymryd bwch gafr yr offrwm dros bechod a oedd ar gyfer y bobl a’i ladd. Fe wnaeth ei gyflwyno fel offrwm dros bechod yn debyg i’r un cyntaf. 16 Yna cyflwynodd yr offrwm llosg a’i drin yn ôl y drefn arferol.
17 Nesaf cyflwynodd yr offrwm grawn gan lenwi ei law ag ychydig ohono a gwneud i fwg godi oddi arno ar yr allor, yn ogystal ag offrwm llosg y bore.
18 Ar ôl hynny, aeth ymlaen i ladd y tarw a hwrdd* yr aberth heddwch a oedd ar gyfer y bobl. Yna rhoddodd meibion Aaron y gwaed iddo, ac aeth Aaron ymlaen i daenellu’r gwaed ar bob ochr i’r allor. 19 Ynglŷn â’r darnau o fraster oddi ar y tarw, y braster sydd ar gynffon yr hwrdd,* y braster sy’n gorchuddio’r organau mewnol, yr arennau, a’r braster sydd ar yr iau, 20 rhoddodd meibion Aaron y darnau hynny o fraster ar y ddwy frest, a dyma Aaron yn gwneud i fwg godi oddi ar y darnau hynny o fraster ar yr allor. 21 Yna aeth Aaron ymlaen i chwifio’r ddwy frest a’r goes dde yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa, yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn.
22 Yna cododd Aaron ei ddwylo i gyfeiriad y bobl a’u bendithio nhw, a daeth i lawr o’r allor ar ôl cyflwyno’r offrwm dros bechod a’r offrwm llosg a’r aberthau heddwch. 23 Yn olaf aeth Moses ac Aaron i mewn i babell y cyfarfod a dod allan a bendithio’r bobl.
Yna ymddangosodd gogoniant Jehofa o flaen yr holl bobl, 24 ac anfonodd Jehofa dân a llosgi’r offrwm llosg a’r darnau o fraster ar yr allor. Pan welodd y bobl hyn, dechreuon nhw weiddi ac ymgrymu â’u hwynebau at y llawr.