Lefiticus
23 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 2 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Mae gwyliau tymhorol Jehofa, y rhai y dylech chi eu cyhoeddi, yn gynadleddau sanctaidd. Dyma fy ngwyliau tymhorol:
3 “‘Cewch chi wneud chwe diwrnod o waith, ond mae’r seithfed diwrnod yn saboth, diwrnod o orffwys llwyr, cynhadledd sanctaidd. Ni chewch chi wneud unrhyw fath o waith. Mae’n saboth i Jehofa ble bynnag rydych chi.
4 “‘Dyma wyliau tymhorol Jehofa, cynadleddau sanctaidd y dylech chi eu cyhoeddi ar eu hadegau penodol: 5 Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis, yn y gwyll,* dyna pryd mae Pasg Jehofa yn dechrau.
6 “‘Mae Gŵyl y Bara Croyw i Jehofa yn dechrau ar bymthegfed* diwrnod y mis. Dylech chi fwyta bara croyw am saith diwrnod. 7 Ar y diwrnod cyntaf, dylech chi gynnal cynhadledd sanctaidd. Ni ddylech chi wneud unrhyw waith caled. 8 Ond bydd rhaid ichi gyflwyno offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa bob dydd am y saith diwrnod hynny. Fe fydd ’na gynhadledd sanctaidd ar y seithfed diwrnod. Ni ddylech chi wneud unrhyw waith caled.’”
9 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 10 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Unwaith ichi ddod i mewn i’r wlad rydw i’n ei rhoi ichi, ac unwaith ichi fedi’r cynhaeaf, bydd rhaid ichi ddod ag ysgub o flaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad. 11 Ac fe fydd yn chwifio’r ysgub yn ôl ac ymlaen o flaen Jehofa er mwyn ennill cymeradwyaeth ichi. Dylai’r offeiriad ei chwifio ar y diwrnod ar ôl y Saboth. 12 Ar y diwrnod mae’r offeiriad yn chwifio’r ysgub ichi, dylech chi gyflwyno hwrdd* ifanc di-nam sy’n flwydd oed neu’n llai, fel offrwm llosg i Jehofa. 13 Ynghyd â’r hwrdd,* dylech chi gyflwyno dwy ddegfed ran o effa* o flawd* mân wedi ei gymysgu ag olew fel offrwm grawn, fel offrwm wedi ei wneud drwy dân i Jehofa, arogl sy’n ei blesio. Hefyd, dylech chi ddod â chwarter hin* o win fel offrwm diod. 14 Peidiwch â bwyta unrhyw fara, unrhyw rawn wedi ei rostio,* nac unrhyw rawn newydd tan y diwrnod hwnnw, tan y diwrnod byddwch chi’n cyflwyno offrwm eich Duw. Mae hyn yn ddeddf barhaol i chi a’ch disgynyddion ble bynnag rydych chi.
15 “‘Dylech chi gyfri saith saboth o’r diwrnod ar ôl y Saboth, o’r diwrnod rydych chi’n dod ag ysgub yr offrwm chwifio. Dylen nhw fod yn wythnosau llawn. 16 Dylech chi gyfri 50 diwrnod tan y diwrnod ar ôl y seithfed Saboth, ac yna dylech chi gyflwyno offrwm o rawn newydd i Jehofa. 17 Dylech chi ddod â dwy dorth o’ch cartrefi fel offrwm chwifio. Dylen nhw gael eu gwneud o ddwy ddegfed ran o effa* o flawd* mân. Dylen nhw gael eu pobi â burum, fel ffrwyth cyntaf y cynhaeaf i Jehofa. 18 Ynghyd â’r torthau, dylech chi gyflwyno saith oen gwryw di-nam, pob un yn flwydd oed, ac un tarw ifanc a dau hwrdd.* Byddan nhw’n offrwm llosg i Jehofa ynghyd â’r offrwm grawn a’r offrymau diod cyfatebol, byddan nhw’n offrwm wedi ei wneud drwy dân, arogl sy’n plesio Jehofa. 19 Ac mae’n rhaid ichi gyflwyno gafr ifanc fel offrwm dros bechod, a dau oen gwryw blwydd oed fel aberth heddwch. 20 Bydd yr offeiriad yn eu chwifio nhw yn ôl ac ymlaen, ynghyd â’r torthau o ffrwyth cyntaf y cynhaeaf fel offrwm chwifio o flaen Jehofa, ynghyd â’r ddau oen gwryw. Dylen nhw fod yn rhywbeth sanctaidd i Jehofa ar gyfer yr offeiriad. 21 Ar y diwrnod hwn, byddwch chi’n cyhoeddi cynhadledd sanctaidd i chi’ch hunain. Peidiwch â gwneud unrhyw waith caled. Mae hyn yn ddeddf barhaol ble bynnag rydych chi’n byw, ar eich cyfer chi a’ch disgynyddion.
22 “‘Pan fyddwch chi’n medi cynhaeaf eich tir, peidiwch â medi ymylon y cae yn gyfan gwbl, a pheidiwch â chasglu beth sydd wedi ei adael ar ôl o’r cynhaeaf. Dylech chi ei adael ar gyfer y rhai tlawd a’r estroniaid sy’n byw yn eich plith. Fi yw Jehofa eich Duw.’”
23 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 24 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Ar ddiwrnod cyntaf y seithfed mis, dylech chi orffwys rhag eich holl waith, bydd y diwrnod hwn yn cael ei gyhoeddi drwy ganu trwmped, er mwyn ichi gofio ei fod yn gynhadledd sanctaidd. 25 Ni ddylech chi wneud unrhyw waith caled; dylech chi gyflwyno offrwm wedi ei wneud drwy dân i Jehofa.’”
26 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 27 “Degfed diwrnod y seithfed mis yw Dydd y Cymod. Dylech chi gynnal cynhadledd sanctaidd a dangos eich bod chi’n drist oherwydd eich pechodau,* a dylech chi gyflwyno offrwm sydd wedi ei wneud drwy dân i Jehofa. 28 Peidiwch â gwneud unrhyw fath o waith ar y diwrnod hwnnw, oherwydd mae’n ddiwrnod sydd wedi ei benodi i’r offeiriad offrymu aberth o flaen Jehofa eich Duw er mwyn ichi gael maddeuant am eich pechodau. 29 Bydd unrhyw un sydd ddim yn dangos ei fod yn drist oherwydd ei bechodau* ar y diwrnod hwnnw yn cael ei ladd.* 30 A bydda i’n dinistrio pawb o blith y bobl sy’n gwneud unrhyw fath o waith ar y diwrnod hwnnw. 31 Peidiwch â gwneud unrhyw fath o waith. Mae hyn yn ddeddf barhaol i chi a’ch disgynyddion ble bynnag rydych chi’n byw. 32 Mae’n saboth ichi, diwrnod o orffwys llwyr, a byddwch chi’n dangos eich bod chi’n drist oherwydd eich pechodau ar ôl i’r haul fachlud ar nawfed diwrnod y mis. Dylech chi gadw’r Saboth o un machlud i’r nesaf.”
33 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 34 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Ar bymthegfed* diwrnod y seithfed mis bydd Gŵyl y Pebyll i Jehofa yn dechrau a bydd yn para am saith diwrnod. 35 Fe fydd ’na gynhadledd sanctaidd ar y diwrnod cyntaf, ac ni ddylech chi wneud unrhyw waith caled. 36 Bob dydd am saith diwrnod, dylech chi gyflwyno offrwm sydd wedi ei wneud drwy dân i Jehofa. Ar yr wythfed diwrnod, dylech chi gynnal cynhadledd sanctaidd a dylech chi gyflwyno offrwm sydd wedi ei wneud drwy dân i Jehofa. Mae hi’n gynulliad sanctaidd. Ni ddylech chi wneud unrhyw waith caled.
37 “‘Dyna wyliau tymhorol Jehofa y dylech chi eu cyhoeddi yn gynadleddau sanctaidd ar gyfer cyflwyno offrwm sydd wedi ei wneud drwy dân i Jehofa: yr offrwm llosg, yr offrwm grawn ynghyd â’r aberth, a’r offrymau diod, yn ôl yr hyn sydd wedi ei drefnu ar gyfer pob dydd. 38 Mae’r rhain yn ychwanegol i’r hyn sy’n cael ei offrymu ar sabothau Jehofa, eich rhoddion, eich offrymau adduned, a’ch offrymau gwirfoddol, y pethau dylech chi eu rhoi i Jehofa. 39 Ond, ar bymthegfed* diwrnod y seithfed mis, ar ôl ichi gasglu cynnyrch y tir, dylech chi ddathlu gŵyl Jehofa am saith diwrnod. Ar y diwrnod cyntaf dylech chi orffwys yn llwyr, ac ar yr wythfed diwrnod dylech chi orffwys yn llwyr. 40 Ar y diwrnod cyntaf, byddwch chi’n cymryd ffrwyth y coed hardd, canghennau coed palmwydd, coed deiliog, a choed* sy’n tyfu yn y dyffryn,* a byddwch chi’n llawenhau o flaen Jehofa eich Duw am saith diwrnod. 41 Mae’n rhaid ichi ddathlu gŵyl Jehofa am saith diwrnod bob blwyddyn. Dylech chi ei dathlu yn y seithfed mis fel deddf barhaol yn ystod eich holl genedlaethau. 42 Dylech chi fyw yn y pebyll am saith diwrnod. Dylai’r holl Israeliaid fyw yn y pebyll, 43 er mwyn i’r cenedlaethau nesaf wybod fy mod i wedi gwneud i’r Israeliaid fyw mewn pebyll pan oeddwn i’n eu harwain nhw allan o wlad yr Aifft. Fi yw Jehofa eich Duw.’”
44 Felly dyma Moses yn sôn wrth yr Israeliaid am wyliau tymhorol Jehofa.