Lefiticus
24 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 2 “Gorchmynna i’r Israeliaid ddod ag olew olewydd pur atat ti ar gyfer y goleuadau, fel bydd y lampau’n parhau i losgi drwy’r adeg. 3 Y tu allan i len y Dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod, dylai Aaron sicrhau bod y lampau’n parhau i losgi o flaen Jehofa o fachlud yr haul tan y bore. Mae hyn yn ddeddf barhaol ar gyfer eich holl genedlaethau. 4 Fe ddylai osod y lampau mewn trefn ar y canhwyllbren o aur pur, fel eu bod nhw o flaen Jehofa drwy’r adeg.
5 “Byddi di’n cymryd y blawd* gorau ac yn ei ddefnyddio i bobi 12 torth siâp modrwy. Dylai dwy ddegfed ran o effa* o flawd* fynd i mewn i bob torth. 6 Byddi di’n eu gosod nhw ar y bwrdd o aur pur o flaen Jehofa mewn dau bentwr, chwech ym mhob pentwr. 7 Dylet ti roi thus pur ar bob pentwr, a bydd yn cael ei offrymu i gynrychioli’r bara, fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa. 8 Ar bob Saboth, dylai’r bara gael ei drefnu o flaen Jehofa. Mae hyn yn gyfamod parhaol â’r Israeliaid. 9 Bydd y bara yn perthyn i Aaron a’i feibion, a byddan nhw’n ei fwyta mewn lle sanctaidd, am ei fod yn rhywbeth sanctaidd iawn iddo ymhlith offrymau Jehofa sydd wedi cael eu gwneud drwy dân, fel deddf barhaol.”
10 Nawr roedd ’na ddyn ymhlith yr Israeliaid, roedd ei fam o Israel a’i dad yn Eifftiwr, a dyma’n dechrau ymladd gyda dyn o Israel yn y gwersyll. 11 Dechreuodd mab y ddynes* o Israel amharchu’r Enw* a’i felltithio. Felly dyma nhw’n dod ag ef at Moses. (Enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri o lwyth Dan.) 12 Fe wnaethon nhw ei roi o dan warchodaeth nes i benderfyniad Jehofa gael ei wneud yn glir iddyn nhw.
13 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 14 “Dos â’r un sydd wedi melltithio enw Duw y tu allan i’r gwersyll, ac mae’n rhaid i bob un a wnaeth ei glywed roi ei ddwylo ar ei ben, ac yna mae’n rhaid i’r gynulleidfa gyfan ei labyddio. 15 A dylet ti ddweud wrth yr Israeliaid, ‘Os bydd unrhyw ddyn yn melltithio ei Dduw, fe fydd yn atebol am ei bechod. 16 Felly dylai’r un sydd wedi amharchu enw Jehofa gael ei roi i farwolaeth heb os. Dylai’r gynulleidfa gyfan ei labyddio heb os. Dylai estronwr sy’n byw yn eich plith gael ei roi i farwolaeth yr un fath ag Israeliad, oherwydd iddo amharchu’r Enw.
17 “‘Os bydd unrhyw ddyn yn cymryd bywyd rhywun arall, dylai gael ei ladd heb os. 18 Os bydd unrhyw un yn taro anifail domestig ac yn ei ladd, dylai dalu amdano, bywyd am fywyd.* 19 Os bydd dyn yn anafu rhywun arall, yna dylai’r un peth gael ei wneud iddo ef. 20 Asgwrn am asgwrn,* llygad am lygad, dant am ddant, dylai ddioddef yr un niwed a wnaeth ef i’r person arall. 21 Dylai’r dyn sy’n taro anifail ac yn ei ladd dalu amdano, ond dylai’r un sy’n taro dyn ac yn ei ladd gael ei roi i farwolaeth.
22 “‘Bydd yr un farnedigaeth yn berthnasol i chi ac i’r estroniaid sy’n byw yn eich plith, oherwydd fi yw Jehofa eich Duw.’”
23 Yna siaradodd Moses â’r Israeliaid, a daethon nhw â’r un a oedd wedi melltithio enw Duw y tu allan i’r gwersyll, a’i labyddio. Felly gwnaeth yr Israeliaid yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.