Numeri
2 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: 2 “Dylai pob Israeliad wersylla lle mae ei grŵp o dri llwyth wedi cael ei aseinio, pob dyn wrth ymyl baner* ei deulu estynedig. Dylen nhw i gyd wersylla o amgylch pabell y cyfarfod, a’i hwynebu.
3 “Bydd llwyth Jwda a dau lwyth arall yn gwersylla i’r dwyrain, i gyfeiriad y wawr, yn ôl eu grwpiau milwrol. Pennaeth meibion Jwda ydy Naason fab Aminadab. 4 Mae 74,600 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 5 Bydd llwyth Issachar yn gwersylla ar un ochr i lwyth Jwda; pennaeth meibion Issachar ydy Nethanel fab Suar. 6 Mae 54,400 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 7 Ar yr ochr arall i lwyth Jwda bydd llwyth Sabulon; pennaeth meibion Sabulon ydy Eliab fab Helon. 8 Mae 57,400 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin.
9 “Cyfanswm y rhai sydd wedi eu cofrestru ym myddinoedd gwersyll Jwda ydy 186,400. Dylen nhw adael y gwersyll yn gyntaf.
10 “Bydd llwyth Reuben a dau lwyth arall yn gwersylla i’r de yn ôl eu grwpiau milwrol; pennaeth meibion Reuben ydy Elisur fab Sedeur. 11 Mae 46,500 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 12 Bydd llwyth Simeon yn gwersylla ar un ochr i lwyth Reuben; pennaeth meibion Simeon ydy Selumiel fab Surisadai. 13 Mae 59,300 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 14 Ar yr ochr arall i lwyth Reuben bydd llwyth Gad; pennaeth meibion Gad ydy Eliasaff fab Reuel. 15 Mae 45,650 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin.
16 “Cyfanswm y rhai sydd wedi eu cofrestru ym myddinoedd gwersyll Reuben ydy 151,450, a dylen nhw adael y gwersyll yn ail.
17 “Pan fydd pabell y cyfarfod yn cael ei symud, dylai gwersyll y Lefiaid fod yng nghanol y gwersylloedd eraill.
“Dylen nhw ddilyn trefn eu gwersylloedd wrth iddyn nhw deithio, gyda phob person yn ei le, yn ôl ei grŵp o dri llwyth.
18 “Bydd llwyth Effraim a dau lwyth arall yn gwersylla i’r gorllewin yn ôl eu grwpiau milwrol; pennaeth meibion Effraim ydy Elisama fab Ammihud. 19 Mae 40,500 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 20 Bydd llwyth Manasse yn gwersylla ar un ochr i lwyth Effraim; pennaeth meibion Manasse ydy Gamaliel fab Pedasur. 21 Mae 32,200 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 22 Ar yr ochr arall i lwyth Effraim bydd llwyth Benjamin; pennaeth meibion Benjamin ydy Abidan fab Gideoni. 23 Mae 35,400 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin.
24 “Cyfanswm y rhai sydd wedi eu cofrestru ym myddinoedd gwersyll Effraim ydy 108,100, a dylen nhw adael y gwersyll yn drydydd.
25 “Bydd llwyth Dan a dau lwyth arall yn gwersylla i’r gogledd yn ôl eu grwpiau milwrol; pennaeth meibion Dan ydy Ahieser fab Ammisadai. 26 Mae 62,700 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 27 Bydd llwyth Aser yn gwersylla ar un ochr i lwyth Dan; pennaeth meibion Aser ydy Pagiel fab Ocran. 28 Mae 41,500 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 29 Ar yr ochr arall i lwyth Dan bydd llwyth Nafftali; pennaeth meibion Nafftali ydy Ahira fab Enan. 30 Mae 53,400 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin.
31 “Cyfanswm y rhai sydd wedi eu cofrestru ym myddinoedd gwersyll Dan ydy 157,600. Dylen nhw adael y gwersyll yn olaf, yn ôl eu grwpiau o dri llwyth.”
32 Dyma oedd yr Israeliaid a gafodd eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd estynedig; cafodd cyfanswm o 603,550 o ddynion o’r gwersylloedd eu cofrestru ar gyfer y fyddin. 33 Ond ni chafodd y Lefiaid eu cofrestru gyda’r Israeliaid eraill, yn unol â beth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. 34 Gwnaeth yr Israeliaid bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. Dyna sut roedden nhw’n gwersylla ac yn gadael y gwersyll, yn ôl eu grwpiau o dri llwyth, pob person yn ôl ei deulu a’i deulu estynedig.