Numeri
4 Nawr siaradodd Jehofa â Moses ac Aaron, gan ddweud: 2 “Dylech chi wneud cyfrifiad o feibion Cohath o blith meibion Lefi, yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd, 3 pawb o 30 i 50 oed yn y grŵp sydd wedi ei aseinio i weithio ym mhabell y cyfarfod.
4 “Dyma ydy gwasanaeth meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod. Mae’n rhywbeth hynod o sanctaidd: 5 Bydd Aaron a’i feibion yn dod i mewn tra bod y gwersyll yn gadael ac yn tynnu i lawr y llen sy’n hongian wrth arch y Dystiolaeth ac yn ei defnyddio i’w gorchuddio. 6 Byddan nhw’n ei gorchuddio â chrwyn morloi, yn rhoi defnydd sy’n las i gyd arni, ac yn rhoi’r polion sy’n cael eu defnyddio i’w chario yn eu llefydd.
7 “Byddan nhw hefyd yn rhoi defnydd glas dros y bwrdd ar gyfer y bara oedd wedi ei gyflwyno i Dduw,* a byddan nhw’n rhoi’r llestri, y cwpanau, y powlenni, a’r jygiau ar gyfer yr offrwm diod arno, a dylai’r bara sy’n cael ei offrymu’n gyson aros arno. 8 Byddan nhw’n rhoi defnydd ysgarlad drostyn nhw, yn eu gorchuddio â chrwyn morloi, ac yn rhoi’r polion sy’n cael eu defnyddio i gario’r bwrdd yn eu llefydd. 9 Byddan nhw wedyn yn cymryd defnydd glas ac yn ei ddefnyddio i orchuddio’r canhwyllbren ar gyfer y golau, yn ogystal â’i lampau, ei offer i ddal y wic,* ei lestri i ddal tân, a’r holl lestri sy’n dal yr olew ar gyfer y lampau. 10 Byddan nhw’n lapio’r canhwyllbren a’i offer i gyd mewn crwyn morloi ac yna’n ei roi ar bolyn er mwyn ei gario. 11 Byddan nhw’n rhoi defnydd glas dros yr allor aur, yn ei gorchuddio â chrwyn morloi, ac yn rhoi’r polion sy’n cael eu defnyddio i’w chario yn eu llefydd. 12 Yna gan ddefnyddio defnydd glas, byddan nhw’n lapio’r holl offer sy’n cael eu defnyddio yn rheolaidd i wasanaethu yn y lle sanctaidd, yn eu gorchuddio â chrwyn morloi, ac yn eu rhoi nhw ar bolyn er mwyn eu cario.
13 “Dylen nhw glirio’r lludw* o’r allor a rhoi defnydd o wlân porffor drosti. 14 Byddan nhw’n rhoi arni’r holl offer sy’n cael eu defnyddio pan maen nhw’n gwasanaethu wrth yr allor, y llestri i ddal tân, y ffyrc, y rhawiau, a’r powlenni, holl offer yr allor; a dylen nhw ei gorchuddio â chrwyn morloi a rhoi’r polion sy’n cael eu defnyddio i’w chario yn eu llefydd.
15 “Mae’n rhaid i Aaron a’i feibion orffen gorchuddio’r lle sanctaidd ac offer y lle sanctaidd pan mae’r gwersyll yn gadael. Yna bydd meibion Cohath yn dod i mewn i’w cario nhw, ond ddylen nhw ddim cyffwrdd â’r lle sanctaidd neu fe fyddan nhw’n marw. Dyma gyfrifoldebau meibion Cohath ynglŷn â phabell y cyfarfod.
16 “Mae Eleasar fab Aaron yr offeiriad yn gyfrifol am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth persawrus, yr offrwm grawn rheolaidd, a’r olew eneinio. Mae’n gyfrifol am y tabernacl i gyd a phopeth sydd ynddo, gan gynnwys y lle sanctaidd a’i offer.”
17 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses ac Aaron: 18 “Peidiwch â gadael i deuluoedd y Cohathiaid gael eu dinistrio o blith y Lefiaid. 19 Ond gwnewch hyn ar eu cyfer nhw, fel eu bod nhw’n aros yn fyw yn hytrach nag yn marw o ganlyniad i fynd yn agos at y pethau mwyaf sanctaidd. Bydd Aaron a’i feibion yn mynd i mewn ac yn rhoi aseiniad i bob un ohonyn nhw ac yn dangos iddo beth bydd ef yn ei gario. 20 Pan fydd y Cohathiaid yn dod i mewn, ddylen nhw ddim gweld y pethau sanctaidd hyd yn oed am eiliad, neu fe fyddan nhw’n marw.”
21 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 22 “Dylet ti wneud cyfrifiad o feibion Gerson yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd. 23 Cofrestra bawb o 30 i 50 oed yn y grŵp sydd wedi ei aseinio i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod. 24 Dyma’r pethau bydd teuluoedd y Gersoniaid yn gofalu amdanyn nhw ac yn eu cario: 25 Byddan nhw’n cario gorchudd mewnol* y tabernacl, yn ogystal â phabell y cyfarfod, ei orchudd a’r crwyn morloi sydd ar ei ben, y sgrin* ar gyfer mynedfa pabell y cyfarfod, 26 llenni’r cwrt, sgrin* mynedfa’r cwrt sy’n mynd o amgylch y tabernacl a’r allor, rhaffau’r* babell a’i holl offer a phopeth sy’n cael ei ddefnyddio yng ngwasanaeth y babell. Dyma ydy eu haseiniad. 27 Dylai Aaron a’i feibion arolygu gwasanaeth y Gersoniaid a’r hyn y byddan nhw’n ei gario. Byddwch chi’n aseinio’r cyfrifoldebau hyn iddyn nhw. 28 Dyma’r gwasanaeth bydd teuluoedd y Gersoniaid yn ei gyflawni ym mhabell y cyfarfod, a byddan nhw’n gwneud hynny o dan arweiniad Ithamar fab Aaron yr offeiriad.
29 “Ynglŷn â meibion Merari, cofrestra nhw yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd. 30 Cofrestra bawb rhwng 30 a 50 oed yn y grŵp sydd wedi ei aseinio i wneud y gwaith sy’n gysylltiedig â phabell y cyfarfod. 31 Dyma’r pethau maen nhw’n gyfrifol am eu cario tra eu bod nhw’n gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod: fframiau’r tabernacl, ei bolion, ei golofnau, ei sylfeini,* 32 colofnau’r cwrt, eu sylfeini,* eu pegiau a’u rhaffau,* yn ogystal â’r holl offer a phopeth arall sy’n cael ei ddefnyddio yn y gwasanaeth sy’n gysylltiedig â’r rhain. Byddwch chi’n aseinio i bob un yr hyn mae’n gyfrifol am ei gario. 33 Dyma sut bydd teuluoedd meibion Merari yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod, o dan arweiniad Ithamar fab Aaron yr offeiriad.”
34 Yna, dyma Moses, Aaron, a phenaethiaid y bobl yn cofrestru meibion Cohath yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd, 35 pawb o 30 i 50 oed yn y grŵp oedd wedi ei aseinio i wneud y gwaith sy’n gysylltiedig â phabell y cyfarfod. 36 Cafodd cyfanswm o 2,750 eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd. 37 Cafodd y rhain eu cofrestru o deuluoedd y Cohathiaid, pawb oedd yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod. Gwnaeth Moses ac Aaron eu cofrestru nhw yn ôl gorchymyn Jehofa a ddaeth trwy Moses.
38 Cafodd meibion Gerson eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd, 39 pawb o 30 i 50 oed yn y grŵp oedd wedi ei aseinio i wneud y gwaith sy’n gysylltiedig â phabell y cyfarfod. 40 Cafodd cyfanswm o 2,630 eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd. 41 Dyma’r rhai a gafodd eu cofrestru o deuluoedd meibion Gerson, pawb a oedd yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod. Gwnaeth Moses ac Aaron eu cofrestru nhw yn ôl gorchymyn Jehofa.
42 Cafodd meibion Merari eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd, 43 pawb o 30 i 50 oed yn y grŵp oedd wedi ei aseinio i wneud y gwaith sy’n gysylltiedig â phabell y cyfarfod. 44 Cafodd cyfanswm o 3,200 eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd. 45 Dyma’r rhai a gafodd eu cofrestru o deuluoedd meibion Merari gan Moses ac Aaron yn ôl gorchymyn Jehofa a ddaeth trwy Moses.
46 Gwnaeth Moses, Aaron, a phenaethiaid Israel gofrestru’r Lefiaid hyn i gyd yn ôl eu teuluoedd ac yn ôl eu grwpiau o deuluoedd. 47 Roedden nhw rhwng 30 a 50 oed, ac fe gawson nhw i gyd eu haseinio i wasanaethu ac i gario pethau a oedd yn ymwneud â phabell y cyfarfod. 48 Cafodd cyfanswm o 8,580 eu cofrestru. 49 Cawson nhw eu cofrestru yn ôl gorchymyn Jehofa a ddaeth trwy Moses, pob un yn ôl ei aseiniad ac yn ôl yr hyn roedd ef i fod i’w gario; cawson nhw eu cofrestru yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.