Numeri
16 Yna dyma Cora fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, Dathan ac Abiram meibion Eliab, ac On fab Peleth, o blith meibion Reuben, yn ochri gyda’i gilydd. 2 Gwnaethon nhw godi yn erbyn Moses ynghyd â 250 o ddynion Israel, penaethiaid y bobl, cynrychiolwyr y gynulleidfa, dynion pwysig. 3 Felly casglon nhw at ei gilydd a dod at Moses ac Aaron a dweud wrthyn nhw: “Rydyn ni wedi cael digon ohonoch chi! Mae pawb yn y gynulleidfa gyfan yn sanctaidd, ac mae Jehofa yn eu mysg. Felly pam dylech chi eich dyrchafu eich hunain uwchben cynulleidfa Jehofa?”
4 Unwaith i Moses glywed hyn, syrthiodd â’i wyneb ar y llawr. 5 Yna dywedodd wrth Cora a’i holl gefnogwyr: “Yn y bore bydd Jehofa yn ei gwneud hi’n glir pwy sy’n perthyn iddo a phwy sy’n sanctaidd a phwy sy’n cael dod yn agos ato, a bydd pwy bynnag mae’n ei ddewis yn dod yn agos ato. 6 Cora a dy holl gefnogwyr, dyma beth dylech chi ei wneud: Cymerwch lestri i ddal tân 7 a rhowch dân ac arogldarth ynddyn nhw o flaen Jehofa yfory, a’r dyn y bydd Jehofa’n ei ddewis yw’r un sanctaidd. Rydych chi feibion Lefi wedi mynd yn rhy bell!”
8 Yna dywedodd Moses wrth Cora: “Gwrandewch plîs, chi feibion Lefi. 9 Ydy hi’n beth bach ichi fod Duw Israel wedi eich neilltuo chi o blith cynulleidfa Israel ac wedi gadael ichi fynd yn agos ato er mwyn cyflawni gwasanaeth tabernacl Jehofa ac er mwyn sefyll o flaen y gynulleidfa i’w gwasanaethu nhw? 10 Ydy hi hefyd yn beth bach ichi ei fod wedi dod â chi’n agos ato, ynghyd â’ch holl frodyr, meibion Lefi? Ydych chi hefyd yn ceisio bod yn offeiriaid? 11 Am y rheswm hwnnw, rwyt ti a dy holl gefnogwyr sydd wedi casglu at ei gilydd yn gwrthryfela yn erbyn Jehofa. Ac ynglŷn ag Aaron, beth mae ef wedi ei wneud, fel eich bod chi’n cwyno yn ei erbyn?”
12 Yn nes ymlaen, dyma Moses yn galw am Dathan ac Abiram, meibion Eliab, ond dywedon nhw: “Dydyn ni ddim am ddod! 13 Ydy hi’n beth bach iti, dy fod ti wedi dod â ni allan o wlad lle roedd llaeth a mêl yn llifo, er mwyn ein rhoi ni i farwolaeth yn yr anialwch? A wyt ti nawr eisiau rheoli droston ni yn llwyr hefyd?* 14 Fel mae hi, dwyt ti ddim wedi dod â ni i mewn i unrhyw wlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, nac wedi rhoi unrhyw gae na gwinllan inni fel etifeddiaeth. Wyt ti hefyd eisiau i’r dynion hyn dy ddilyn di yn ddall?* Dydyn ni ddim am ddod!”
15 Felly digiodd Moses yn fawr iawn, a dywedodd wrth Jehofa: “Paid ag edrych ar eu hoffrwm grawn. Dydw i ddim wedi cymryd un asyn oddi wrthyn nhw, nac wedi brifo’r un ohonyn nhw.”
16 Nawr dywedodd Moses wrth Cora: “Tyrd o flaen Jehofa yfory, ti, dy gefnogwyr, ac Aaron. 17 Dylai pob un ohonoch chi gymryd ei lestr i ddal tân a rhoi arogldarth ynddo a’i gyflwyno o flaen Jehofa, 250 o lestri i ddal tân, a dylet ti ac Aaron wneud yr un peth gyda’ch llestri i ddal tân.” 18 Felly dyma bob un ohonyn nhw yn cymryd ei lestr i ddal tân, yn rhoi tân ac arogldarth ynddyn nhw, ac yn sefyll o flaen mynedfa pabell y cyfarfod gyda Moses ac Aaron. 19 Pan oedd Cora wedi casglu ei gefnogwyr at ei gilydd er mwyn eu hwynebu nhw wrth fynedfa pabell y cyfarfod, ymddangosodd gogoniant Jehofa i’r gynulleidfa gyfan.
20 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: 21 “Gwahanwch eich hunain oddi wrth y grŵp yma, er mwyn imi eu dinistrio nhw ar unwaith.” 22 Gyda hynny, syrthion nhw â’u hwynebau i’r llawr a dweud: “O Dduw, Duw ysbryd pob person, a wyt ti am ddigio â’r gynulleidfa gyfan oherwydd pechod un dyn?”
23 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 24 “Siarada â’r gynulleidfa a dyweda wrthyn nhw, ‘Symudwch i ffwrdd oddi wrth bebyll Cora, Dathan, ac Abiram!’”
25 Yna cododd Moses a mynd at Dathan ac Abiram, ac aeth henuriaid Israel gydag ef. 26 Dywedodd wrth y bobl: “Symudwch i ffwrdd, plîs, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, a pheidiwch â chyffwrdd ag unrhyw beth sy’n perthyn iddyn nhw, er mwyn ichi beidio â chael eich ysgubo i ffwrdd am eu pechod nhw.” 27 Yn syth, dyma nhw’n symud i ffwrdd oddi wrth bebyll Cora, Dathan, ac Abiram, o bob ochr, a daeth Dathan ac Abiram allan gan sefyll wrth fynedfa eu pebyll gyda’u gwragedd, eu meibion, a’u plant bach.
28 Yna dywedodd Moses: “Drwy’r hyn sy’n mynd i ddigwydd, byddwch chi’n gwybod mai Jehofa sydd wedi fy anfon i i wneud yr holl bethau hyn, a dydyn nhw ddim wedi dod o fy nghalon fy hun.* 29 Os bydd y bobl hyn yn marw yn naturiol, fel sy’n arferol i bobl, ac os ydy eu cosb nhw yr un fath â gweddill dynolryw, yna dydy Jehofa ddim wedi fy anfon i. 30 Ond os bydd Jehofa’n gwneud rhywbeth anhygoel iddyn nhw, ac os bydd y ddaear yn agor ac yn eu llyncu nhw a phopeth sy’n perthyn iddyn nhw, ac maen nhw’n mynd yn fyw i lawr i’r Bedd,* yna yn bendant byddwch chi’n gwybod bod y dynion hyn wedi trin Jehofa yn amharchus.”
31 Unwaith iddo orffen dweud y geiriau hyn i gyd, dyma’r ddaear oddi tanyn nhw yn hollti. 32 Agorodd y ddaear a’u llyncu nhw a’u teuluoedd a phawb a oedd wedi ochri â Cora, yn ogystal â’u holl eiddo. 33 Felly dyma nhw a phawb a oedd wedi ochri â nhw yn mynd i lawr yn fyw i’r Bedd,* a chaeodd y ddaear amdanyn nhw fel eu bod nhw’n diflannu o blith y gynulleidfa. 34 Wrth iddyn nhw sgrechian, gwnaeth yr holl Israeliaid a oedd o’u cwmpas nhw redeg i ffwrdd mewn ofn, gan ddweud: “Efallai bydd y ddaear yn ein llyncu ni hefyd!” 35 Yna anfonodd Jehofa dân a lladd y 250 o ddynion a oedd yn offrymu arogldarth.
36 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 37 “Dyweda wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad i gymryd y llestri i ddal tân allan o’r tân, oherwydd maen nhw’n sanctaidd. Dyweda wrtho ef hefyd i wasgaru’r tân rhywle yn bell i ffwrdd. 38 Mae’n rhaid i’r llestri i ddal tân a oedd yn perthyn i’r dynion a fu farw o ganlyniad i’w pechod gael eu troi i mewn i blatiau metel tenau i orchuddio’r allor, am eu bod nhw wedi eu cyflwyno nhw o flaen Jehofa, a daethon nhw’n sanctaidd. Dylen nhw fod yn arwydd i’r Israeliaid.” 39 Felly dyma Eleasar yr offeiriad yn cymryd y llestri copr i ddal tân a oedd wedi cael eu cyflwyno gan y bobl a gafodd eu llosgi, a gwnaeth ef eu curo nhw er mwyn gorchuddio’r allor, 40 fel roedd Jehofa wedi dweud wrtho drwy Moses. Roedd hyn i atgoffa’r Israeliaid na ddylai unrhyw un sydd heb yr hawl, hynny yw, sydd ddim yn un o ddisgynyddion Aaron, ddod o flaen Jehofa i losgi arogldarth, ac na ddylai unrhyw un efelychu Cora a’i gefnogwyr.
41 Ac ar yr union ddiwrnod wedyn, dechreuodd holl bobl Israel gwyno yn erbyn Moses ac Aaron, gan ddweud: “Rydych chi’ch dau wedi lladd pobl Jehofa.” 42 Unwaith i’r bobl gasglu at ei gilydd yn erbyn Moses ac Aaron, dyma nhw’n troi i edrych tuag at babell y cyfarfod, ac edrycha! dyma gwmwl yn ei gorchuddio, a dechreuodd gogoniant Jehofa ymddangos.
43 Aeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod, 44 a dywedodd Jehofa wrth Moses: 45 “Gwahanwch eich hunain oddi wrth y bobl hyn er mwyn imi eu dinistrio nhw ar unwaith.” Gyda hynny, syrthion nhw â’u hwynebau i’r llawr. 46 Yna dywedodd Moses wrth Aaron: “Cymera’r llestr i ddal tân a rho dân o’r allor ynddo, a rho arogldarth ynddo, a dos allan yn gyflym at y bobl er mwyn i’w pechodau gael eu maddau, oherwydd mae Jehofa wedi gwylltio’n lân. Mae’r pla wedi dechrau!” 47 Dyma Aaron yn ei gymryd yn syth, fel roedd Moses wedi dweud, a rhedodd i ganol y bobl, ac edrycha! roedd y pla wedi dechrau taro’r bobl. Felly rhoddodd yr arogldarth yn y llestr i ddal tân er mwyn cael maddeuant am bechodau’r bobl. 48 Parhaodd i sefyll rhwng y meirw a’r byw, ac yn y pen draw stopiodd y pla. 49 Bu farw 14,700 o bobl o achos y pla, ar wahân i’r rhai a fu farw o achos Cora. 50 Aeth Aaron yn ôl at Moses wrth fynedfa pabell y cyfarfod ar ôl i’r pla stopio.