Josua
1 Ar ôl i Moses gwas Jehofa* farw, dywedodd Jehofa wrth Josua* fab Nun, a gwas Moses: 2 “Mae Moses fy ngwas wedi marw. Nawr cod, croesa’r Iorddonen, ti a’r holl bobl yma, a dos i mewn i’r wlad rydw i’n ei rhoi iddyn nhw, i bobl Israel. 3 Bob man rydych chi’n mynd, bydda i’n ei roi ichi, yn union fel gwnes i addo i Moses. 4 Bydd eich tiriogaeth yn ymestyn o’r anialwch i fyny at Lebanon ac at afon Ewffrates, yr afon fawr—holl wlad yr Hethiaid—ac at y Môr Mawr* yn y gorllewin.* 5 Byddi di’n trechu unrhyw un sy’n dy wrthwynebu di* tra byddi di’n fyw. Yn union fel roeddwn i gyda Moses, bydda i gyda ti. Fydda i ddim yn dy adael di ar dy ben dy hun, nac yn cefnu arnat ti. 6 Bydda’n ddewr ac yn gryf, oherwydd ti yw’r un fydd yn arwain y bobl hyn wrth iddyn nhw etifeddu’r wlad gwnes i addo ar lw y byddwn i’n ei rhoi i’w cyndadau.
7 “Ie, bydda’n ddewr ac yn gryf iawn, a bydda’n ofalus i gadw at yr holl Gyfraith gwnaeth Moses fy ngwas ei gorchymyn iti. Paid â chrwydro oddi wrthi, i’r dde nac i’r chwith. Yna, byddi di’n ymddwyn yn ddoeth ble bynnag byddi di’n mynd. 8 Dylet ti gadw geiriau’r Gyfraith hon ar dy dafod, a myfyrio arni* ddydd a nos, er mwyn iti gadw’n agos at bopeth sydd wedi ei ysgrifennu ynddi. Yna, byddi di’n llwyddo ac yn ymddwyn yn ddoeth. 9 Onid ydw i wedi gorchymyn iti fod yn ddewr ac yn gryf? Paid ag ofni na dychryn, oherwydd bydda i, Jehofa dy Dduw, gyda ti ble bynnag byddi di’n mynd.”
10 Yna rhoddodd Josua y gorchymyn hwn i swyddogion y bobl: 11 “Ewch drwy’r gwersyll a gorchymyn i’r bobl, ‘Casglwch ddigon o fwyd i chi’ch hunain, oherwydd mewn tri diwrnod byddwch chi’n croesi’r Iorddonen ac yn mynd i mewn i’r wlad mae Jehofa eich Duw yn ei rhoi ichi, a byddwch chi’n ei meddiannu.’”
12 A dywedodd Josua wrth lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse: 13 “Cofiwch beth gwnaeth Moses gwas Jehofa ei orchymyn ichi: ‘Mae Jehofa eich Duw yn rhoi gorffwys ichi, ac mae wedi rhoi’r wlad hon ichi. 14 Bydd eich gwragedd, eich plant, a’ch anifeiliaid yn aros yn y wlad mae Moses wedi ei rhoi ichi ar ochr yma’r* Iorddonen. Ond dylech chi filwyr cryf groesi drosodd cyn eich brodyr, yn barod i frwydro. Rhaid ichi eu helpu nhw 15 nes i Jehofa roi gorffwys i’ch brodyr, fel mae wedi ei roi i chi, ac nes iddyn nhwthau hefyd feddiannu’r wlad mae Jehofa eich Duw yn ei rhoi iddyn nhw. Yna ewch yn ôl i’r wlad gafodd ei rhoi ichi i fyw ynddi, a’i meddiannu, y wlad gwnaeth Moses gwas Jehofa ei rhoi ichi ar ochr ddwyreiniol yr Iorddonen.’”
16 Dyma nhw’n ateb Josua: “Byddwn ni’n gwneud popeth rwyt ti wedi ei orchymyn, a byddwn ni’n mynd ble bynnag rwyt ti’n ein hanfon ni. 17 Gwnawn ni wrando arnat ti, fel gwnaethon ni wrando ar bopeth ddywedodd Moses. Rydyn ni’n wir yn dymuno y bydd Jehofa dy Dduw gyda ti, fel roedd gyda Moses. 18 Bydd unrhyw un sy’n gwrthryfela yn dy erbyn ac sydd ddim yn dilyn pob gorchymyn rwyt ti wedi ei roi iddo yn cael ei ladd. Felly bydda’n ddewr ac yn gryf.”