Josua
3 Yna cododd Josua yn gynnar yn y bore, a gwnaeth ef a’r holl Israeliaid* adael Sittim a chyrraedd yr Iorddonen. Arhoson nhw yno dros nos cyn croesi drosodd.
2 Ar ôl tri diwrnod, dyma’r swyddogion yn mynd drwy’r gwersyll 3 ac yn rhoi’r gorchymyn hwn i’r bobl: “Cyn gynted ag yr ydych chi’n gweld arch cyfamod Jehofa eich Duw yn cael ei chario gan yr offeiriaid sy’n Lefiaid, dylech chi adael lle rydych chi a’i dilyn. 4 Ond cadwch bellter o tua 2,000 cufydd* oddi wrthi; peidiwch â dod fymryn yn agosach ati, er mwyn ichi wybod pa ffordd i fynd, oherwydd dydych chi ddim wedi teithio’r ffordd hon o’r blaen.”
5 Nawr dywedodd Josua wrth y bobl: “Sancteiddiwch eich hunain, oherwydd yfory bydd Jehofa yn gwneud pethau rhyfeddol yn eich mysg.”
6 Yna dywedodd Josua wrth yr offeiriaid: “Codwch arch y cyfamod ac arwain y bobl.” Felly dyma nhw’n codi arch y cyfamod ac yn mynd i’r tu blaen.
7 Yna dywedodd Jehofa wrth Josua: “Heddiw bydda i’n dechrau dy ddyrchafu di yng ngolwg Israel i gyd, er mwyn iddyn nhw wybod y bydda i gyda ti yn union fel roeddwn i gyda Moses. 8 Dylet ti roi’r gorchymyn hwn i’r offeiriaid sy’n cario arch y cyfamod: ‘Pan fyddwch chi’n cyrraedd glan yr Iorddonen, dylech chi fynd i mewn i’r dŵr a sefyll yn llonydd yn yr afon.’”
9 A dywedodd Josua wrth yr Israeliaid: “Dewch yma a gwrandewch ar eiriau Jehofa eich Duw.” 10 Yna dywedodd Josua: “Dyma sut byddwch chi’n gwybod bod ’na Dduw byw yn eich mysg, ac y bydd yn sicr o yrru allan o’ch blaenau y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Hefiaid, y Peresiaid, y Girgasiaid, yr Amoriaid, a’r Jebusiaid. 11 Edrychwch! Mae arch cyfamod Arglwydd y ddaear gyfan yn mynd o’ch blaenau i mewn i’r Iorddonen. 12 Nawr cymerwch 12 dyn o lwythau Israel, un dyn ar gyfer pob llwyth, 13 a chyn gynted ag y mae traed yr offeiriaid sy’n cario Arch Jehofa, Arglwydd y ddaear gyfan, yn cyffwrdd â* dŵr yr Iorddonen, bydd y dyfroedd sy’n llifo i lawr yr Iorddonen yn stopio ac yn sefyll yn llonydd fel wal.”*
14 Felly pan wnaeth y bobl adael eu gwersyll yn fuan cyn croesi’r Iorddonen, aeth yr offeiriaid a oedd yn cario arch y cyfamod o flaen y bobl. 15 (Mae’r Iorddonen yn gorlifo ei glannau holl ddyddiau’r cynhaeaf.) Ond cyn gynted ag y gwnaeth yr offeiriaid a oedd yn cario’r Arch gyrraedd yr Iorddonen a chamu i mewn i’r dŵr, 16 safodd y dyfroedd a oedd yn dod i lawr yr afon yn llonydd. Dyma nhw’n codi fel wal* yn bell i ffwrdd wrth Adam, y ddinas sy’n agos i Sarethan, wrth i’r dyfroedd a oedd yn mynd tuag at Fôr yr Araba, y Môr Marw, ddiflannu. Cafodd y dyfroedd eu stopio, a dyma’r bobl yn croesi gyferbyn â Jericho. 17 Tra oedd yr offeiriaid a oedd yn cario arch cyfamod Jehofa yn dal i sefyll yn stond ar dir sych yng nghanol yr Iorddonen, croesodd Israel i gyd drosodd ar dir sych nes bod y genedl gyfan wedi gorffen croesi’r Iorddonen.