Josua
19 Yr ail lwyth i gael eu tir wrth daflu coelbren oedd llwyth Simeon. Ac roedd eu hetifeddiaeth y tu mewn i etifeddiaeth Jwda. 2 Eu hetifeddiaeth oedd Beer-seba gyda Seba, Molada, 3 Hasar-sual, Bala, Esem, 4 Eltolad, Bethul, Horma, 5 Siclag, Beth-marcaboth, Hasar-usa, 6 Beth-lebaoth, a Saruhen—13 dinas a’u pentrefi; 7 Ain, Rimmon, Ether, ac Asan—pedair dinas a’u pentrefi; 8 a’r holl bentrefi oedd o gwmpas y dinasoedd hyn mor bell â Baalath-beer, sef Ramath y de. Dyma oedd etifeddiaeth llwyth Simeon yn ôl eu teuluoedd. 9 Cafodd etifeddiaeth disgynyddion Simeon ei chymryd allan o dir Jwda, oherwydd roedd rhan Jwda yn rhy fawr iddyn nhw. Felly cafodd disgynyddion Simeon ddarnau o dir o fewn eu hetifeddiaeth.
10 Nesaf disgynnodd y trydydd coelbren i ddisgynyddion Sabulon yn ôl eu teuluoedd, ac roedd ffin eu hetifeddiaeth yn mynd mor bell â Sarid. 11 Roedd eu ffin yn mynd i fyny i’r gorllewin i Marala ac yn ymestyn at Dabbeseth ac yna i’r dyffryn* sydd o flaen Jocneam. 12 Ac roedd yn mynd o Sarid i’r dwyrain i gyfeiriad y wawr, at ffin Cisloth-tabor ac allan i Daberath ac yna i fyny i Jaffia. 13 Ac roedd yn parhau o fan ’na i’r gorllewin i gyfeiriad y wawr i Gath-heffer, i Eth-casin, ac allan i Rimmon, ac roedd yn ymestyn at Nea. 14 Ac yn y gogledd trodd y ffin at Hannathon, a gorffen yn Nyffryn Ifftahel, 15 a Cattath, Nahalal, Simron, Idala, a Bethlehem—12 dinas a’u pentrefi. 16 Dyma oedd etifeddiaeth disgynyddion Sabulon yn ôl eu teuluoedd. Dyma oedd y dinasoedd a’u pentrefi.
17 Disgynnodd y pedwerydd coelbren i ddisgynyddion Issachar yn ôl eu teuluoedd. 18 Ac roedd eu ffin yn mynd i Jesreel, Cesuloth, Sunem, 19 Haffraim, Sihon, Anaharath, 20 Rabbith, Cision, Ebes, 21 Remeth, En-gannim, En-hada, a Beth-passes. 22 Ac roedd y ffin yn cyrraedd Tabor a Sahasima a Beth-semes, ac roedd y ffin yn gorffen wrth yr Iorddonen—16 dinas a’u pentrefi. 23 Dyma oedd etifeddiaeth llwyth Issachar yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd a’u pentrefi.
24 Yna disgynnodd y pumed coelbren i lwyth Aser yn ôl eu teuluoedd. 25 A’u ffin oedd Helcath, Hali, Beten, Achsaff, 26 Alammelech, Amad, a Misal. Roedd yn ymestyn i’r gorllewin i Garmel ac i Sihor-libnath, 27 ac yna roedd yn troi yn ôl i’r dwyrain at Beth-dagon ac yn cyrraedd Sabulon a Dyffryn Ifftahel i’r gogledd, i Beth-emec a Neiel, ac roedd yn ymestyn i Cabwl ar y chwith, 28 ac i Ebron, Rehob, Hammon, a Cana hyd at Sidon Fawr. 29 Ac roedd y ffin yn mynd yn ôl i Rama ac mor bell â dinas gaerog Tyrus. Yna roedd y ffin yn mynd yn ôl i Hosa, ac roedd yn gorffen wrth y môr yn ardal Achsib, 30 Umma, Affec, a Rehob—22 dinas a’u pentrefi. 31 Dyma oedd etifeddiaeth llwyth Aser yn ôl eu teuluoedd. Dyma oedd y dinasoedd a’u pentrefi.
32 Disgynnodd y chweched coelbren i ddisgynyddion Nafftali yn ôl eu teuluoedd. 33 Roedd eu ffin yn mynd o Heleff, o’r goeden fawr yn Saanannim, ac Adami-neceb, a Jabneel mor bell â Laccum; ac roedd yn gorffen wrth yr Iorddonen. 34 Roedd y ffin yn mynd yn ôl i’r gorllewin i Asnoth-tabor ac yn ymestyn o fan ’na i Huccoc ac yn cyrraedd Sabulon i’r de ac Aser i’r gorllewin a Jwda wrth yr Iorddonen i gyfeiriad y dwyrain. 35 A’r dinasoedd caerog oedd Sidim, Ser, Hammath, Raccath, Cinnereth, 36 Adama, Rama, Hasor, 37 Cedes, Edrei, En-hasor, 38 Iron, Migdal-el, Horem, Beth-anath, a Beth-semes—19 dinas a’u pentrefi. 39 Dyma oedd etifeddiaeth llwyth Nafftali yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd a’u pentrefi.
40 Disgynnodd y seithfed coelbren i lwyth Dan yn ôl eu teuluoedd. 41 A ffin eu hetifeddiaeth oedd Sora, Estaol, Ir-semes, 42 Saalabbin, Ajalon, Ithla, 43 Elon, Timna, Ecron, 44 Eltece, Gibbethon, Baalath, 45 Jehud, Bene-berac, Gath-rimmon, 46 Meiarcon, a Raccon, gyda’r ffin yn wynebu Jopa. 47 Ond roedd tiriogaeth Dan yn rhy gyfyng iddyn nhw. Felly aethon nhw i fyny a brwydro yn erbyn Lesem a’i chipio a’i tharo â’r cleddyf. Yna gwnaethon nhw ei meddiannu a setlo ynddi, a newid enw Lesem i Dan, ar ôl enw Dan eu cyndad. 48 Dyma oedd etifeddiaeth llwyth Dan yn ôl eu teuluoedd. Dyma oedd y dinasoedd a’u pentrefi.
49 Felly gorffennon nhw rannu tiriogaethau’r wlad er mwyn i bob llwyth gael ei etifeddiaeth. Yna rhoddodd yr Israeliaid etifeddiaeth yn eu mysg i Josua fab Nun. 50 Yn unol â gorchymyn Jehofa, rhoddon nhw i Josua y ddinas roedd ef wedi gofyn amdani, sef Timnath-sera, yn ardal fynyddig Effraim, a gwnaeth ef ailadeiladu’r ddinas a setlo ynddi.
51 Dyma oedd y tir gwnaeth Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nun, a phennau teuluoedd llwythau Israel ei ddosbarthu i’r llwythau fel etifeddiaeth drwy daflu coelbren yn Seilo o flaen Jehofa, wrth fynedfa pabell y cyfarfod. Felly gorffennon nhw rannu’r wlad.