Ruth
4 Nawr, aeth Boas i fyny at borth y ddinas ac eistedd yno. Ac edrycha! roedd y perthynas agos y soniodd Boas amdano yn pasio heibio. Ar hynny, dywedodd Boas: “Tyrd yma Hwn-a-hwn ac eistedda i lawr.” Felly aeth draw ac eistedd i lawr. 2 Yna cymerodd Boas ddeg o henuriaid y ddinas a dweud: “Eisteddwch i lawr yma.” Felly eisteddon nhw i lawr.
3 Yna dywedodd Boas wrth y perthynas agos: “Mae Naomi, sydd wedi dod yn ôl o ardal Moab, yn gorfod gwerthu’r darn o dir oedd yn perthyn i’n brawd ni, Elimelech. 4 Felly roeddwn i’n meddwl y dylwn i roi gwybod i ti a dweud, ‘Pryna’r tir o flaen y bobl sy’n byw yma a henuriaid fy mhobl. Os wyt ti am ei brynu, gwna hynny. Ond os nad wyt ti am ei brynu, dyweda wrtho i er mwyn imi wybod, oherwydd ti sydd â’r hawl i’w brynu, a fi sydd â’r hawl ar dy ôl di.’” Atebodd: “Rydw i’n fodlon ei brynu.” 5 Yna dywedodd Boas: “Ar y diwrnod rwyt ti’n prynu’r cae oddi wrth Naomi, mae’n rhaid iti hefyd ei brynu oddi wrth Ruth y Foabes, gwraig y dyn a wnaeth farw, er mwyn adfer enw’r dyn hwnnw i’w etifeddiaeth.” 6 Atebodd y perthynas agos: “Alla i ddim ei brynu oherwydd efallai bydda i’n difetha fy etifeddiaeth fy hun. Pryna di y tir drostot ti dy hun, gan ddefnyddio fy hawl i i’w brynu, oherwydd alla i ddim ei brynu.”
7 Nawr, dyma oedd yr arfer yn Israel yn y dyddiau a fu ynglŷn â’r hawl i ailbrynu a chyfnewid eiddo er mwyn cadarnhau pob math o gytundebau: Roedd rhaid i ddyn dynnu ei sandal a’i rhoi i’r llall, a dyna oedd y ffordd o gadarnhau cytundeb yn Israel. 8 Felly, pan ddywedodd y perthynas agos wrth Boas, “Pryna’r tir i ti dy hun,” tynnodd ei sandal. 9 Yna dywedodd Boas wrth yr henuriaid a’r holl bobl: “Rydych chi’n dystion heddiw fy mod i’n prynu oddi wrth Naomi bopeth oedd yn perthyn i Elimelech a phopeth oedd yn perthyn i Cilion a Mahlon. 10 Rydw i hefyd yn cymryd Ruth y Foabes, gwraig Mahlon, yn wraig imi er mwyn i enw’r dyn a wnaeth farw gael ei adfer i’w etifeddiaeth, fel na fydd ei frodyr na phobl y ddinas yn anghofio ei enw. Rydych chi’n dystion i hyn heddiw.”
11 Ar hynny, dyma’r holl bobl ym mhorth y ddinas a’r henuriaid yn dweud: “Rydyn ni’n dystion i hyn! Rydyn ni’n dymuno y bydd Jehofa yn bendithio’r wraig sy’n dod i mewn i dy dŷ er mwyn iddi fod fel Rachel ac fel Lea a wnaeth adeiladu tŷ Israel. Rydyn ni’n dymuno iti lwyddo yn Effratha, a chael enw da ym Methlehem. 12 Rydyn ni’n dymuno i dy dŷ fod fel tŷ Peres, mab Tamar a Jwda, drwy’r disgynyddion y bydd Jehofa yn eu rhoi iti drwy’r ddynes* ifanc hon.”
13 Felly dyma Boas yn cymryd Ruth a daeth hi’n wraig iddo. Cysgodd ef gyda hi, a gwnaeth Jehofa adael iddi feichiogi a dyma hi’n geni mab. 14 Yna dywedodd y merched* wrth Naomi: “Clod i Jehofa, sydd ddim wedi dy adael di heb berthynas agos heddiw. Rydyn ni’n gweddïo y bydd ei enw yn cael ei gyhoeddi yn Israel! 15 Mae ef* wedi adfer dy fywyd ac fe fydd yn dy gynnal di yn dy henaint, oherwydd mae wedi cael ei eni i dy ferch-yng-nghyfraith sy’n dy garu di ac sy’n well i ti na saith o feibion.” 16 Cymerodd Naomi y plentyn yn ei breichiau,* a gofalodd amdano. 17 Yna rhoddodd y merched lleol* enw arno. Dywedon nhw, “Mae mab wedi cael ei eni i Naomi,” a dyma nhw’n ei alw’n Obed. Ef ydy tad Jesse, tad Dafydd.
18 Nawr, dyma linach deuluol* Peres: Daeth Peres yn dad i Hesron; 19 daeth Hesron yn dad i Ram; daeth Ram yn dad i Amminadab; 20 daeth Amminadab yn dad i Nahson; daeth Nahson yn dad i Salmon; 21 daeth Salmon yn dad i Boas; daeth Boas yn dad i Obed; 22 daeth Obed yn dad i Jesse; a daeth Jesse yn dad i Dafydd.