Cyntaf Samuel
3 Yn y cyfamser roedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu Jehofa o dan ofal Eli, ond roedd negeseuon gan Jehofa yn brin yn y dyddiau hynny; doedd gweledigaethau ddim yn gyffredin.
2 Un diwrnod, roedd Eli yn gorwedd yn ei wely, ac roedd ei lygaid wedi pylu; doedd ef ddim yn gallu gweld. 3 Doedd lamp Duw ddim wedi cael ei diffodd eto, ac roedd Samuel yn gorwedd yn nheml* Jehofa, lle roedd Arch Duw. 4 Yna dyma Jehofa yn galw ar Samuel, ac atebodd yntau: “Dyma fi.” 5 Rhedodd at Eli a dweud: “Dyma fi, wnest ti fy ngalw i?” Ond dywedodd Eli: “Naddo, wnes i ddim dy alw di. Dos yn ôl i gysgu.” Felly aeth yn ôl a mynd i gysgu. 6 Galwodd Jehofa unwaith eto: “Samuel!” Ar hynny cododd Samuel a mynd at Eli a dweud: “Dyma fi, wnest ti fy ngalw i?” Ond atebodd Eli: “Naddo, wnes i ddim dy alw di, fy mab. Dos yn ôl i gysgu.” 7 (Nawr doedd Samuel ddim wedi dod i adnabod Jehofa eto, a doedd Jehofa ddim wedi anfon neges ato o’r blaen.) 8 Felly galwodd Jehofa arno am y drydedd waith: “Samuel!” Ar hynny, cododd a mynd at Eli a dweud: “Dyma fi, wnest ti fy ngalw i?”
Dyna pryd sylweddolodd Eli mai Jehofa oedd yn galw’r bachgen. 9 Felly dywedodd Eli wrth Samuel: “Dos yn ôl i gysgu, ac os ydy ef yn galw arnat ti eto, dylet ti ddweud, ‘Siarada, Jehofa, oherwydd mae dy was yn gwrando.’” Ac aeth Samuel yn ôl i orwedd.
10 Daeth Jehofa a sefyll yno, a galwodd fel o’r blaen: “Samuel, Samuel!” Ar hynny dywedodd Samuel: “Siarada, oherwydd mae dy was yn gwrando.” 11 Dywedodd Jehofa wrth Samuel: “Edrycha! Rydw i am wneud rhywbeth yn Israel a fydd yn dychryn pwy bynnag sy’n clywed am y peth.* 12 Ar y diwrnod hwnnw, bydda i’n gwneud popeth a ddywedais i y byddwn i’n ei wneud i Eli a’i dŷ, o’r dechrau i’r diwedd. 13 Rhaid iti ddweud wrtho fy mod i am ddod â chosb a fydd yn sefyll am byth ar ei dŷ oherwydd y pechod hwn. Mae’n gwybod bod ei feibion yn melltithio Duw, ond dydy ef ddim wedi eu ceryddu nhw. 14 Dyna pam rydw i wedi addo ar lw i dŷ Eli na fydd aberthau nac offrymau byth yn gallu gwneud yn iawn am bechodau ei dŷ.”
15 Cysgodd Samuel tan y bore; yna agorodd ddrysau tŷ Jehofa. Roedd Samuel yn ofni dweud wrth Eli am y weledigaeth. 16 Ond galwodd Eli ar Samuel: “Samuel, fy mab!” Ar hynny dywedodd: “Dyma fi.” 17 Gofynnodd: “Beth ddywedodd ef wrthot ti? Plîs paid â’i guddio oddi wrtho i. Gad i Dduw dy gosbi di’n llym os byddi di’n cuddio hyd yn oed gair oddi wrtho i.” 18 Felly dywedodd Samuel bopeth wrtho, heb guddio unrhyw beth. Dywedodd Eli: “Jehofa sydd wedi dweud hyn. Gad iddo wneud beth sy’n dda yn ei olwg.”
19 Parhaodd Samuel i dyfu, ac roedd Jehofa ei hun gydag ef a wnaeth ef ddim gadael i unrhyw un o’i eiriau fethu. 20 Daeth Israel i gyd, o Dan i Beer-seba, i wybod bod Jehofa wedi dewis Samuel fel ei broffwyd. 21 A pharhaodd Jehofa i ymddangos yn Seilo, oherwydd datgelodd Jehofa ei hun i Samuel yn Seilo drwy air Jehofa.