LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Samuel 8
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Samuel

      • Israel yn mynnu cael brenin (1-9)

      • Samuel yn rhybuddio’r bobl (10-18)

      • Jehofa yn caniatáu iddyn nhw gael brenin (19-22)

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Samuel 8:1-22

Cyntaf Samuel

8 Pan oedd Samuel wedi heneiddio, penododd ei feibion i fod yn farnwyr dros Israel. 2 Enw ei fab cyntaf-anedig oedd Joel, ac enw ei ail fab oedd Abeia; roedden nhw’n farnwyr yn Beer-seba. 3 Ond wnaeth ei feibion ddim dilyn esiampl eu tad; roedden nhw’n anonest er mwyn cael arian, roedden nhw’n derbyn breibiau, ac yn barnu’n annheg.

4 Ymhen amser, daeth holl henuriaid Israel at ei gilydd a dod at Samuel yn Rama. 5 Dywedon nhw wrtho: “Edrycha! Rwyt ti wedi heneiddio, ond dydy dy feibion ddim yn dilyn dy esiampl di. Nawr penoda frenin arnon ni i’n barnu ni fel sydd gan yr holl genhedloedd eraill.” 6 Ond doedd Samuel ddim yn hapus pan ddywedon nhw: “Rho frenin inni er mwyn iddo ein barnu ni.” Felly gweddïodd Samuel ar Jehofa, 7 a dywedodd Jehofa wrth Samuel: “Gwranda ar bopeth mae’r bobl yn ei ddweud wrthot ti; oherwydd nid ti maen nhw wedi ei wrthod, ond y fi maen nhw wedi ei wrthod fel eu brenin. 8 Maen nhw’n gwneud yn union beth maen nhw wedi bod yn ei wneud o’r diwrnod des i â nhw allan o’r Aifft hyd heddiw; maen nhw wedi fy ngadael i dro ar ôl tro ac maen nhw’n gwasanaethu duwiau eraill, a dyna sut maen nhw’n dy drin dithau hefyd. 9 Nawr gwranda arnyn nhw. Ond dylet ti eu rhybuddio nhw o ddifri; dyweda wrthyn nhw beth bydd gan y brenin yr hawl i’w wneud pan fydd yn rheoli drostyn nhw.”

10 Felly dywedodd Samuel holl eiriau Jehofa wrth y bobl oedd yn gofyn iddo am frenin. 11 Dywedodd: “Dyma beth bydd gan y brenin yr hawl i’w wneud pan fydd yn rheoli drostoch chi: Bydd yn cymryd eich meibion ac yn eu rhoi nhw yn ei gerbydau ac yn eu gwneud nhw’n farchogion, a bydd rhaid i rai ohonyn nhw redeg o flaen ei gerbydau. 12 A bydd ef yn penodi iddo’i hun benaethiaid ar filoedd a phenaethiaid ar bumdegau, a bydd rhai yn aredig iddo, yn medi ei gynhaeaf, ac yn gwneud arfau rhyfel iddo ac offer ar gyfer ei gerbydau. 13 Bydd ef yn cymryd eich merched i gymysgu persawr, i goginio, ac i bobi iddo. 14 Bydd ef yn cymryd y gorau o’ch caeau, eich gwinllannoedd, a’ch coed olewydd, a bydd yn eu rhoi nhw i’w weision. 15 Bydd ef yn cymryd un rhan o ddeg o gynnyrch eich caeau a’ch gwinllannoedd; ac yn eu rhoi i’w swyddogion llys a’i weision. 16 A bydd ef yn cymryd eich gweision a’ch morynion, eich gwartheg gorau, a’ch asynnod, ac yn eu defnyddio nhw ar gyfer ei waith ei hun. 17 Bydd yn cymryd un rhan o ddeg o’ch preiddiau, a byddwch chi’n dod yn weision iddo. 18 Bydd y diwrnod yn dod pan fyddwch chi’n galaru oherwydd y brenin rydych chi wedi ei ddewis drostoch chi’ch hunain, ond fydd Jehofa ddim yn eich ateb chi ar y diwrnod hwnnw.”

19 Ond gwrthododd y bobl wrando ar beth ddywedodd Samuel wrthyn nhw, a dywedon nhw: “Na, rydyn ni’n benderfynol o gael brenin. 20 Wedyn byddwn ni fel yr holl genhedloedd eraill, a bydd ein brenin yn ein barnu ni ac yn ein harwain ni ac yn brwydro yn erbyn ein gelynion.” 21 Ar ôl i Samuel glywed holl eiriau’r bobl, gwnaeth ef eu hailadrodd nhw i Jehofa. 22 Dywedodd Jehofa wrth Samuel: “Gwranda arnyn nhw, a phenoda frenin i deyrnasu drostyn nhw.” Yna dywedodd Samuel wrth ddynion Israel: “Dylai pob un ohonoch chi fynd yn ôl i’w ddinas.”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu