LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Samuel 10
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Samuel

      • Saul yn cael ei eneinio’n frenin (1-16)

      • Saul yn cael ei gyflwyno i’r bobl (17-27)

1 Samuel 10:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “a’i arllwys.”

1 Samuel 10:12

Troednodiadau

  • *

    Neu “y ddihareb.”

1 Samuel 10:19

Troednodiadau

  • *

    Neu “claniau.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Samuel 10:1-27

Cyntaf Samuel

10 Yna cymerodd Samuel y botel o olew a’i dywallt* ar ben Saul. Gwnaeth ef ei gusanu a dweud: “Onid ydy Jehofa wedi dy eneinio di yn arweinydd dros ei etifeddiaeth? 2 Pan fyddi di’n fy ngadael i heddiw, byddi di’n dod ar draws dau ddyn yn agos i feddrod Rachel yn nhiriogaeth Benjamin yn Selsach, a byddan nhw’n dweud wrthot ti, ‘Mae rhywun wedi dod o hyd i’r asennod roeddet ti’n edrych amdanyn nhw, ond nawr mae dy dad wedi anghofio am yr asennod ac mae’n poeni amdanat ti. Mae’n dweud: “Dydy fy mab ddim wedi dod yn ôl, beth dylwn i ei wneud?”’ 3 Dos yn dy flaen o fan ’na nes iti ddod at goeden fawr Tabor, ble byddi di’n cyfarfod tri dyn yn mynd i fyny at y gwir Dduw ym Methel, bydd un yn cario tair gafr ifanc, bydd un yn cario tair torth o fara, a bydd un yn cario jar fawr o win. 4 Byddan nhw’n gofyn sut wyt ti ac yn rhoi dwy dorth iti, ac mae’n rhaid iti dderbyn y torthau oddi wrthyn nhw. 5 Ar ôl hynny byddi di’n dod at fryn y gwir Dduw, lle mae ’na garsiwn o Philistiaid. Pan fyddi di’n dod at y ddinas, byddi di’n cwrdd â grŵp o broffwydi yn dod i lawr o’r uchelfan, a bydd offeryn llinynnol, tambwrîn, ffliwt, a thelyn yn cael eu chwarae o’u blaenau nhw wrth iddyn nhw broffwydo. 6 Bydd ysbryd Jehofa yn rhoi nerth iti, a byddi di’n proffwydo gyda nhw a bydd fel petaset ti’n berson gwahanol. 7 Pan fydd y pethau hyn i gyd yn dod yn wir, gwna beth bynnag gelli di, oherwydd mae’r gwir Dduw gyda ti. 8 Yna dos i lawr i Gilgal o fy mlaen i, a bydda i’n mynd i lawr atat ti yno i offrymu aberthau llosg ac aberthau heddwch. Dylet ti aros yno am saith diwrnod nes imi ddod atat ti. Yna bydda i’n rhoi gwybod iti beth dylet ti ei wneud.”

9 Unwaith i Saul droi i adael Samuel, dechreuodd Duw newid ei galon, a daeth popeth a ddywedodd Samuel yn wir ar y diwrnod hwnnw. 10 Felly aethon nhw o fan ’na i’r bryn, a daeth grŵp o broffwydi i’w gyfarfod. Ar unwaith rhoddodd ysbryd Duw nerth iddo, a dechreuodd broffwydo gyda nhw. 11 Pan wnaeth pawb oedd yn ei adnabod ei weld yn proffwydo gyda’r proffwydi, dywedon nhw wrth ei gilydd: “Beth sydd wedi digwydd i fab Cis? Ydy Saul hefyd yn un o’r proffwydi?” 12 Yna dywedodd dyn o’r ardal honno: “Ond pwy yw eu tad?” Felly dyna sut dechreuodd y dywediad:* “Ydy Saul hefyd yn un o’r proffwydi?”

13 Pan oedd Saul wedi gorffen proffwydo, aeth i’r uchelfan. 14 Yn nes ymlaen dywedodd brawd tad Saul wrtho ef a’i was: “Ble aethoch chi?” Gyda hynny dywedodd: “I edrych am yr asennod, ond ddaethon ni ddim o hyd iddyn nhw, felly aethon ni at Samuel.” 15 Gofynnodd ewythr Saul: “Dyweda wrtho i plîs, beth ddywedodd Samuel wrthoch chi?” 16 Atebodd Saul ei ewythr: “Dywedodd wrthon ni fod rhywun eisoes wedi dod o hyd i’r asennod.” Ond wnaeth Saul ddim sôn wrtho am beth ddywedodd Samuel ynglŷn â’r frenhiniaeth.

17 Yna galwodd Samuel y bobl at ei gilydd o flaen Jehofa ym Mispa 18 a dywedodd wrth yr Israeliaid: “Dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Fi wnaeth ddod ag Israel i fyny allan o’r Aifft a’ch achub chi o law yr Aifft ac o law yr holl deyrnasoedd oedd yn eich gormesu chi. 19 Ond heddiw rydych chi wedi gwrthod eich Duw, yr Un wnaeth eich achub chi rhag eich holl anawsterau a’ch dioddefaint, a dywedoch chi: “Na, dylet ti benodi brenin arnon ni.” Nawr safwch o flaen Jehofa yn ôl eich llwythau ac yn ôl eich miloedd.’”*

20 Felly gorchmynnodd Samuel i holl lwythau Israel gamu ymlaen, a chafodd llwyth Benjamin ei ddewis. 21 Yna gorchmynnodd i lwyth Benjamin gamu ymlaen yn ôl ei deuluoedd, a chafodd teulu Matri ei ddewis. Yn y pen draw cafodd Saul fab Cis ei ddewis. Ond pan aethon nhw i edrych amdano, doedd dim golwg ohono. 22 Felly gofynnon nhw i Jehofa: “Ydy’r dyn wedi dod yma eto?” Atebodd Jehofa: “Mae’n cuddio ymysg eich bagiau a’ch offer.” 23 Felly rhedon nhw draw i ddod ag ef allan o fan ’na. Pan safodd ef yng nghanol y bobl, roedd yn llawer talach na phawb arall. 24 Dywedodd Samuel wrth y bobl i gyd: “Ydych chi’n gweld yr un mae Jehofa wedi ei ddewis? Does ’na neb tebyg iddo ymhlith yr holl bobl.” A dechreuodd y bobl weiddi: “Hir oes i’r brenin!”

25 Dywedodd Samuel wrth y bobl am yr hyn byddai’r brenin yn ei ofyn ganddyn nhw, ac ysgrifennodd hynny mewn llyfr a’i osod o flaen Jehofa. Yna anfonodd Samuel y bobl i gyd i ffwrdd, pob un i’w dŷ. 26 Hefyd aeth Saul yn ôl i’w gartref yn Gibea, ac aeth y milwyr dewr gydag ef am fod Jehofa wedi cyffwrdd â’u calonnau. 27 Ond dywedodd rhai dynion diwerth: “Sut bydd hwn yn ein hachub ni?” Felly roedden nhw’n ei ddirmygu, a wnaethon nhw ddim dod ag unrhyw anrheg ato. Ond ddywedodd ef ddim byd am y peth.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu