Cyntaf Samuel
11 Yna daeth Nahas yr Ammoniad i fyny a gwersylla yn erbyn Jabes yn Gilead. Dywedodd holl ddynion Jabes wrth Nahas: “Gwna gyfamod* â ni a gwnawn ni dy wasanaethu di.” 2 Dywedodd Nahas yr Ammoniad wrthyn nhw: “Bydda i’n gwneud cyfamod â chi ar yr amod fod llygad dde pob un ohonoch chi yn cael ei thynnu allan. Bydda i’n gwneud hyn i godi cywilydd ar Israel i gyd.” 3 Atebodd henuriaid Jabes: “Rho saith diwrnod inni er mwyn inni allu anfon negeswyr i holl diriogaeth Israel. Yna, os nad oes ’na neb i’n hachub ni, byddwn ni’n ildio i ti.” 4 Ymhen amser, daeth y negeswyr i Gibea, dinas Saul, a dweud y geiriau hyn yng nghlyw’r bobl, a dyma’r bobl i gyd yn wylo’n uchel.
5 Ond roedd Saul yn dod o’r cae yn gyrru’r gwartheg, a dywedodd: “Beth sy’n bod ar y bobl? Pam maen nhw’n wylo?” Felly dyma nhw’n dweud wrtho beth ddywedodd dynion Jabes. 6 Pan glywodd Saul y geiriau hyn, rhoddodd ysbryd Duw nerth iddo, a gwylltiodd yn lân. 7 Felly cymerodd ddau darw a’u torri nhw’n ddarnau, a defnyddiodd negeswyr i’w hanfon nhw i holl diriogaeth Israel gan ddweud: “Dylai pwy bynnag sydd ddim yn dilyn Saul a Samuel ddisgwyl i hyn gael ei wneud i’w wartheg!” A daeth ofn Jehofa dros y bobl, fel eu bod nhw’n dod allan yn unedig. 8 Yna gwnaeth ef eu rhifo nhw yn Besec, ac roedd ’na 300,000 o Israeliaid a 30,000 o ddynion Jwda. 9 Nawr dywedon nhw wrth y negeswyr oedd wedi dod: “Dyma beth dylech chi ei ddweud wrth ddynion Jabes yn Gilead, ‘Yfory, pan fydd yr haul yn boeth, byddwch chi’n cael eich achub.’” Felly aeth y negeswyr i ddweud hynny wrth ddynion Jabes, ac roedden nhw wrth eu boddau. 10 Felly dywedodd dynion Jabes: “Yfory byddwn ni’n ildio i chi, a chewch chi wneud i ni beth bynnag sy’n dda yn eich golwg.”
11 Y diwrnod wedyn, rhannodd Saul y bobl yn dri grŵp, a dyma nhw’n sleifio i mewn i ganol y gwersyll yn ystod gwylfa’r bore* ac yn taro’r Ammoniaid i lawr nes bod yr haul yn boeth. Cafodd y rhai wnaeth oroesi eu gwasgaru fel bod pob un ohonyn nhw ar ei ben ei hun. 12 Yna dywedodd y bobl wrth Samuel: “Lle mae’r holl bobl oedd yn dweud, ‘Oes rhaid inni gael Saul yn frenin arnon ni?’ Dewch â’r dynion yma, a gwnawn ni eu lladd nhw.” 13 Ond dywedodd Saul: “Ni ddylai’r un dyn gael ei ladd ar y diwrnod hwn, oherwydd heddiw mae Jehofa wedi achub Israel.”
14 Yn hwyrach ymlaen, dywedodd Samuel wrth y bobl: “Gadewch inni fynd i Gilgal i gadarnhau mai Saul ydy’r brenin.” 15 Felly aeth y bobl i gyd i Gilgal, ac yn Gilgal dyma nhw’n gwneud Saul yn frenin o flaen Jehofa. Yna dyma nhw’n cyflwyno aberthau heddwch o flaen Jehofa, a dathlodd Saul a holl ddynion Israel gyda llawenydd mawr.