Cyntaf Samuel
24 Unwaith i Saul ddychwelyd o fynd ar ôl y Philistiaid, dywedon nhw wrtho: “Edrycha! Mae Dafydd yn anialwch En-gedi.”
2 Felly cymerodd Saul 3,000 o ddynion wedi eu dewis allan o Israel gyfan, ac aeth i edrych am Dafydd a’i ddynion ar glogwyni creigiog y geifr mynydd. 3 Daeth Saul at y corlannau carreg ar hyd y ffordd, lle roedd ’na ogof, ac aeth i mewn i’r ogof i wneud ei fusnes.* Yn y cyfamser, roedd Dafydd a’i ddynion yn eistedd mewn cilfachau yng nghefn yr ogof. 4 Dywedodd dynion Dafydd wrtho: “Edrycha! Mae Jehofa wedi rhoi dy elyn yn dy law, ac mae’n caniatáu iti wneud iddo beth bynnag sy’n dda yn dy olwg di.” Felly cododd Dafydd, ac yn ddistaw bach, torrodd ymyl côt ddilewys Saul i ffwrdd. 5 Ond wedyn roedd calon* Dafydd yn ei boeni, am ei fod wedi torri ymyl côt ddilewys Saul i ffwrdd. 6 Dywedodd wrth ei ddynion: “O ystyried safbwynt Jehofa, alla i ddim hyd yn oed meddwl am niweidio fy arglwydd, un eneiniog Jehofa, drwy godi fy llaw yn ei erbyn, oherwydd ef yw’r un mae Jehofa wedi ei eneinio.” 7 Felly gwnaeth Dafydd dawelu ei ddynion gyda’r geiriau hyn, a wnaeth ef ddim gadael iddyn nhw ymosod ar Saul. Ynglŷn â Saul, cododd o’r ogof a mynd ar ei ffordd.
8 Yna cododd Dafydd a mynd allan o’r ogof a galw ar ôl Saul: “Fy arglwydd, y brenin!” Pan edrychodd Saul y tu ôl iddo, plygodd Dafydd yn isel â’i wyneb ar y llawr ac ymgrymu. 9 Dywedodd Dafydd wrth Saul: “Pam rwyt ti’n gwrando ar eiriau dynion sy’n dweud: ‘Edrycha! Mae Dafydd yn ceisio dy niweidio di’? 10 Heddiw, gwelaist ti â dy lygaid dy hun sut gwnaeth Jehofa dy roi di yn fy llaw yn yr ogof. Ond pan ddywedodd rhywun y dylwn i dy ladd di, roeddwn i’n teimlo trueni drostot ti, a dywedais, ‘Wna i ddim codi fy llaw yn erbyn fy arglwydd, oherwydd ef yw’r un mae Jehofa wedi ei eneinio.’ 11 Ac edrycha, fy nhad, ie, edrycha ar ymyl dy gôt ddilewys sydd yn fy llaw; oherwydd pan wnes i dorri ymyl dy gôt ddilewys i ffwrdd, wnes i ddim dy ladd di. Nawr gelli di weld a deall dydw i ddim yn bwriadu gwneud niwed iti na gwrthryfela, a dydw i ddim wedi pechu yn dy erbyn di, ond eto rwyt ti’n dod ar fy ôl i er mwyn fy lladd i. 12 Gad i Jehofa farnu rhyngot ti a fi, a gad i Jehofa ddial arnat ti drosto i, ond fydda i ddim yn codi fy llaw yn dy erbyn di. 13 Yn union fel mae’r hen ddihareb yn dweud, ‘O’r drygionus y daw drygioni,’ ond fydd fy llaw i ddim yn dod yn dy erbyn di. 14 Ydy brenin Israel yn dod ar fy ôl i? Ond pwy ydw i? Ci marw? Chwannen? 15 Gad i Jehofa farnu, a bydd yn barnu rhyngot ti a fi, bydd ef yn cymryd sylw ac yn amddiffyn fy achos ac yn fy marnu i ac yn fy achub i o dy law.”
16 Unwaith i Dafydd orffen dweud y geiriau hyn wrtho, dywedodd Saul: “Ai dy lais di rydw i’n ei glywed, fy mab Dafydd?” A dechreuodd Saul wylo’n uchel. 17 Dywedodd wrth Dafydd: “Rwyt ti’n fwy cyfiawn na fi, oherwydd rwyt ti wedi fy nhrin i’n dda, ac rydw i ond wedi dy dalu di yn ôl gyda drygioni. 18 A heddiw hefyd, rwyt ti wedi bod yn dda â mi, fel rwyt ti newydd ddweud, drwy beidio â fy lladd i pan wnaeth Jehofa fy rhoi i yn dy ddwylo. 19 Oherwydd pwy fyddai’n dod ar draws ei elyn ac yn ei anfon ar ei ffordd heb niwed? Bydd Jehofa yn dy wobrwyo di â da oherwydd beth rwyt ti wedi ei wneud i mi heddiw. 20 Ac nawr, edrycha! rydw i’n gwybod y byddi di’n bendant yn rheoli fel brenin ac y bydd teyrnas Israel yn parhau yn gadarn yn dy law. 21 Nawr tynga lw imi yn enw Jehofa na fyddi di’n cael gwared ar fy nisgynyddion* ar fy ôl i, ac na fyddi di’n dileu fy enw i o deulu fy nhad.” 22 Felly addawodd Dafydd hynny ar lw i Saul. Ar ôl hynny, aeth Saul adref. Ond aeth Dafydd a’i ddynion i fyny i’r lloches.