Cyntaf Samuel
30 Ar y trydydd diwrnod, daeth Dafydd a’i ddynion i Siclag, a darganfod bod y ddinas wedi cael ei dinistrio a’i llosgi â thân, oherwydd roedd yr Amaleciaid wedi ymosod ar y de* ac ar Siclag. 2 Roedden nhw wedi cipio’r merched* a phawb oedd ynddi, hen ac ifanc. Doedden nhw ddim wedi lladd neb, ond roedden nhw wedi eu cymryd nhw a mynd ar eu ffordd. 3 Roedd y ddinas wedi ei llosgi’n ulw pan gyrhaeddodd Dafydd a’i ddynion, ac roedd eu gwragedd a’u meibion a’u merched wedi cael eu cymryd i ffwrdd fel caethion. 4 Felly dyma Dafydd a’i ddynion yn dechrau wylo’n uchel nes iddyn nhw golli’r nerth i wylo rhagor. 5 Roedd dwy wraig Dafydd hefyd wedi cael eu cymryd yn gaeth, Ahinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Garmel. 6 Roedd Dafydd yn poeni’n arw, oherwydd roedd y dynion yn sôn am ei labyddio am eu bod nhw mor chwerw dros golli eu meibion a’u merched. Ond cafodd Dafydd nerth drwy droi at Jehofa ei Dduw.
7 Yna dywedodd Dafydd wrth Abiathar yr offeiriad, mab Ahimelech: “Plîs tyrd â’r effod yma.” Felly aeth Abiathar â’r effod at Dafydd. 8 Gofynnodd Dafydd i Jehofa: “A ddylwn i fynd ar ôl y grŵp o ladron wnaeth ymosod ar y ddinas? A fydda i’n eu dal nhw?” I hynny, atebodd: “Dos ar eu holau nhw, oherwydd byddi di’n sicr o’u dal nhw, a byddi di’n achub pawb a phopeth.”
9 Aeth Dafydd allan ar unwaith gyda’r 600 o ddynion oedd gydag ef, ac aethon nhw ymlaen mor bell â Wadi Besor, ac arhosodd rhai o’r dynion yno. 10 Yna, gyda 400 o ddynion, parhaodd Dafydd i fynd ar ôl y lladron. Ond roedd 200 o’r dynion yn rhy flinedig i groesi Wadi Besor, felly arhoson nhw ar ôl.
11 Daethon nhw o hyd i Eifftiwr yng nghefn gwlad a mynd ag ef at Dafydd. Rhoddon nhw fwyd iddo ei fwyta, a dŵr i’w yfed, 12 yn ogystal â darn o gacen o ffigys wedi eu gwasgu, a dwy gacen o resins. Ar ôl iddo fwyta, cafodd ei nerth yn ôl, oherwydd doedd ef ddim wedi bwyta nac yfed am dri diwrnod a thair nos. 13 Nawr gofynnodd Dafydd iddo: “I bwy rwyt ti’n perthyn, ac o le rwyt ti’n dod?” ac atebodd: “Rydw i’n Eifftiwr, yn was i ddyn o Amalec, ond gwnaeth fy meistr fy ngadael i oherwydd es i’n sâl dri diwrnod yn ôl. 14 Gwnaethon ni ymosod ar ran ddeheuol* tiriogaeth y Cerethiaid ac ar ran ddeheuol* tiriogaeth Caleb. Gwnaethon ni hefyd ymosod ar Jwda, a llosgi Siclag â thân.” 15 Gyda hynny dywedodd Dafydd: “A wnei di fy arwain i lawr at y lladron hyn?” Atebodd: “Os gwnei di addo imi yn enw Duw na fyddi di’n fy lladd i, nac yn fy rhoi i yn nwylo fy meistr, gwna i dy arwain di i lawr at y lladron.”
16 Felly dyma’n ei arwain i lawr i le roedden nhw i gyd yn eistedd o gwmpas yn bwyta ac yn yfed ac yn dathlu oherwydd yr holl ysbail roedden nhw wedi ei chymryd o wlad y Philistiaid ac o wlad Jwda. 17 Yna dyma Dafydd yn eu taro nhw i lawr o fore gwyn* tan nos; ni wnaeth yr un dyn ddianc, oni bai am 400 o ddynion wnaeth ffoi ar gefn camelod. 18 Achubodd Dafydd bopeth roedd yr Amaleciaid wedi ei gymryd, gan gynnwys ei ddwy wraig. 19 Doedd dim byd na neb ar goll, yn hen neu’n ifanc; achubon nhw eu meibion, eu merched, a’r ysbail. Achubodd Dafydd bopeth roedden nhw wedi ei gymryd. 20 Felly cymerodd Dafydd holl ddefaid a gwartheg yr Amaleciaid, a’u gyrru nhw o flaen ei anifeiliaid ei hun. Dywedon nhw: “Dyma ysbail Dafydd.”
21 Yna aeth Dafydd at y 200 o ddynion a oedd wedi bod yn rhy flinedig i fynd gydag ef, ac a oedd wedi aros wrth Wadi Besor, a daethon nhw allan i gyfarfod Dafydd a’r bobl oedd gydag ef. Pan ddaeth Dafydd yn agos at y dynion, gofynnodd iddyn nhw sut roedden nhw. 22 Ond dywedodd pob dyn drwg a da i ddim a oedd wedi mynd gyda Dafydd: “Am eu bod nhw heb fynd gyda ni, wnawn ni ddim rhannu ein hysbail â nhw, ond gall pob un gymryd ei wraig a’i feibion a mynd i ffwrdd.” 23 Ond dywedodd Dafydd: “Peidiwch â gwneud hynny, fy mrodyr, ddim ar ôl beth mae Jehofa wedi ei wneud droston ni. Gwnaeth ef ein hamddiffyn ni a rhoi’r lladron ddaeth yn ein herbyn ni yn ein dwylo. 24 Sut gallai unrhyw un gytuno â chi ar hyn? Bydd y rhai aeth i lawr i’r frwydr yn derbyn yr un faint â’r rhai wnaeth aros gyda’r offer. Bydd pawb yn cael rhan gyfartal.” 25 Ac o’r diwrnod hwnnw ymlaen, daeth hyn yn rheol ac yn ddeddf yn Israel sy’n para hyd heddiw.
26 Pan aeth Dafydd yn ôl i Siclag, anfonodd ychydig o’r ysbail at henuriaid Jwda a oedd yn ffrindiau iddo, gan ddweud: “Dyma anrheg ichi o ysbail gelynion Jehofa.” 27 Anfonodd yr anrheg at y rhai oedd ym Methel, y rhai yn Ramoth yn y Negef,* y rhai yn Jattir, 28 y rhai yn Aroer, y rhai yn Siffmoth, y rhai yn Estemoa, 29 y rhai yn Rachal, y rhai yn ninasoedd y Jerahmeeliaid, y rhai yn ninasoedd y Ceneaid, 30 y rhai yn Horma, y rhai yn Borasan, y rhai yn Athac, 31 y rhai yn Hebron, ac i’r holl lefydd roedd Dafydd a’i ddynion wedi bod yn mynd iddyn nhw yn aml.