Numeri
35 Aeth Jehofa ymlaen i siarad â Moses yn anialwch Moab wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho, gan ddweud: 2 “Gorchmynna i’r Israeliaid fod rhaid iddyn nhw roi i’r Lefiaid ddinasoedd i fyw ynddyn nhw allan o’r etifeddiaeth y byddan nhw’n ei chael, a dylen nhw roi i’r Lefiaid y tiroedd pori o gwmpas y dinasoedd. 3 Bydd y Lefiaid yn byw yn y dinasoedd, a bydd y tiroedd pori ar gyfer eu hanifeiliaid domestig, eu heiddo, a’u holl anifeiliaid eraill. 4 Bydd tiroedd pori’r dinasoedd y byddwch chi’n eu rhoi i’r Lefiaid yn ymestyn 1,000 cufydd* o’r wal, yr holl ffordd o gwmpas y ddinas. 5 Y tu allan i’r ddinas, dylech chi fesur 2,000 cufydd ar yr ochr ddwyreiniol, 2,000 cufydd ar yr ochr ddeheuol, 2,000 cufydd ar yr ochr orllewinol, a 2,000 cufydd ar yr ochr ogleddol, gyda’r ddinas yn y canol. Y rhain fydd tiroedd pori’r dinasoedd.
6 “Ymhlith y dinasoedd y byddwch chi’n eu rhoi i’r Lefiaid, bydd ’na chwe dinas loches. Byddwch chi’n rhoi’r rhain er mwyn i’r lladdwr ffoi iddyn nhw, yn ogystal â 42 o ddinasoedd eraill. 7 Mae’n rhaid ichi roi 48 o ddinasoedd i’r Lefiaid yn gyfan gwbl, yn ogystal â’u tiroedd pori. 8 Bydd y dinasoedd y byddwch chi’n eu rhoi iddyn nhw yn dod o eiddo’r Israeliaid. Oddi wrth y grŵp mawr byddwch chi’n cymryd llawer o ddinasoedd, ac oddi wrth y grŵp bach byddwch chi’n cymryd ychydig. Bydd pob grŵp yn rhoi rhai o’i ddinasoedd i’r Lefiaid yn ôl yr etifeddiaeth mae’n ei derbyn.”
9 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 10 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Rydych chi’n croesi’r Iorddonen ac yn mynd i mewn i wlad Canaan. 11 Dylech chi ddewis dinasoedd sydd mewn lleoliadau cyfleus i fod yn ddinasoedd lloches, fel bod yr un sy’n lladd rhywun yn anfwriadol yn gallu ffoi yno. 12 Bydd y dinasoedd hyn yn lloches ichi rhag yr un sy’n dial gwaed, fel na fydd y lladdwr yn marw nes iddo sefyll ei brawf o flaen y gynulleidfa. 13 Dyma fydd pwrpas y chwe dinas loches y byddwch chi’n eu darparu. 14 Byddwch chi’n darparu tair dinas ar yr ochr yma o’r Iorddonen, a thair dinas yng ngwlad Canaan i fod yn ddinasoedd lloches. 15 Bydd y chwe dinas hyn yn lloches ar gyfer yr Israeliaid ac ar gyfer yr estroniaid a’r mewnfudwyr yn eu plith, er mwyn i unrhyw un sy’n lladd rhywun yn anfwriadol ffoi yno.
16 “‘Ond os gwnaeth dyn daro rhywun â rhywbeth wedi ei wneud o haearn ac mae’n marw, mae’n llofrudd. Heb os, dylai’r llofrudd gael ei roi i farwolaeth. 17 Ac os gwnaeth ef ei daro â charreg a all achosi marwolaeth ac mae’n marw, mae’n llofrudd. Heb os, dylai’r llofrudd gael ei roi i farwolaeth. 18 Ac os gwnaeth ef ei daro â rhywbeth wedi ei wneud o bren a all achosi marwolaeth ac mae’n marw, mae’n llofrudd. Heb os, dylai’r llofrudd gael ei roi i farwolaeth.
19 “‘Bydd yr un sy’n dial gwaed yn rhoi’r llofrudd i farwolaeth. Pan fydd ef yn dod o hyd iddo, bydd yn rhoi’r llofrudd i farwolaeth. 20 Os cafodd person ei ladd am fod rhywun wedi ei wthio mewn casineb neu wedi taflu rhywbeth ato â bwriad maleisus,* 21 neu wedi ei daro â’i law mewn casineb ac mae’n marw, heb os bydd yr un a wnaeth ei daro yn cael ei roi i farwolaeth. Mae ef yn llofrudd. Bydd yr un sy’n dial gwaed yn rhoi’r llofrudd i farwolaeth pan mae’n dod o hyd iddo.
22 “‘Ond os gwnaeth ef ei wthio neu daflu rhywbeth ato yn ddamweiniol ac nid mewn casineb a heb unrhyw fwriad maleisus,* 23 neu os na wnaeth ef ei weld ac achosodd i garreg gwympo arno a doedd ef ddim yn elyn iddo nac yn ceisio ei niweidio, a bu farw’r person, 24 yna dylai’r barnwyr farnu rhwng yr un a wnaeth ei daro a’r un sy’n dial gwaed, yn unol â’r barnedigaethau hyn. 25 Wedyn dylai’r barnwyr achub y lladdwr rhag yr un sy’n dial gwaed, a mynd ag ef yn ôl i’r ddinas loches y gwnaeth ef ffoi iddi, a bydd rhaid iddo fyw ynddi tan farwolaeth yr archoffeiriad a gafodd ei eneinio â’r olew sanctaidd.
26 “‘Ond os bydd y lladdwr yn mynd y tu allan i ffiniau’r ddinas loches y mae wedi ffoi iddi 27 ac mae’r un sy’n dial gwaed yn dod o hyd iddo y tu allan i ffiniau ei ddinas loches ac yn lladd y lladdwr, dydy ef ddim yn waed-euog. 28 Oherwydd mae’n rhaid iddo fyw yn ei ddinas loches nes bod yr archoffeiriad yn marw, ond ar ôl i’r archoffeiriad farw, caiff y lladdwr fynd yn ôl i’w dir ei hun. 29 Bydd y pethau hyn yn ddeddf i chi ar gyfer barnu drwy eich holl genedlaethau ble bynnag rydych chi’n byw.
30 “‘Dylai pwy bynnag sy’n lladd rhywun arall gael ei roi i farwolaeth fel llofrudd ar sail geiriau tystion, ond ni fydd neb yn cael ei roi i farwolaeth ar sail geiriau un tyst yn unig. 31 Mae’n rhaid ichi beidio â derbyn unrhyw daliad ar gyfer bywyd llofrudd sy’n haeddu marw, oherwydd dylai ef gael ei roi i farwolaeth heb os. 32 Ac mae’n rhaid ichi beidio â derbyn taliad ar gyfer rhywun sydd wedi ffoi i’w ddinas loches, gan ganiatáu iddo fynd yn ôl i fyw ar ei dir ei hun cyn i’r archoffeiriad farw.
33 “‘Mae’n rhaid ichi beidio â llygru’r wlad rydych chi’n byw ynddi, oherwydd mae gwaed yn llygru’r wlad, a’r unig ffordd i wneud yn iawn am y gwaed sydd wedi cael ei dywallt* ar y wlad yw drwy dywallt* gwaed y llofrudd. 34 Mae’n rhaid ichi beidio â halogi’r wlad rydych chi’n byw ynddi, y wlad rydw i’n byw ynddi, oherwydd rydw i, Jehofa, yn byw ymysg pobl Israel.’”