Cyntaf Brenhinoedd
22 Doedd ’na ddim rhyfel rhwng Syria ac Israel am dair blynedd. 2 Yn y drydedd flwyddyn, aeth Jehosaffat brenin Jwda i lawr at frenin Israel. 3 Yna dywedodd brenin Israel wrth ei weision: “Ydych chi’n gwybod mai ni sydd biau Ramoth-gilead? Ond eto, rydyn ni’n oedi rhag ei chymryd yn ôl oddi wrth frenin Syria.” 4 Yna dywedodd wrth Jehosaffat: “A fyddi di’n mynd gyda mi i frwydro yn Ramoth-gilead?” Atebodd Jehosaffat: “Rwyt ti a fi yn un. Mae dy bobl di a fy mhobl i hefyd yn un, gan gynnwys dy geffylau di a fy ngheffylau innau.”
5 Ond dywedodd Jehosaffat wrth frenin Israel: “Yn gyntaf, plîs gofynna am arweiniad Jehofa.” 6 Felly dyma frenin Israel yn casglu’r proffwydi at ei gilydd, tua 400 o ddynion, a dweud wrthyn nhw: “A ddylwn i fynd i ryfela yn erbyn Ramoth-gilead neu beidio?” Dywedon nhw: “Dos i fyny, bydd Jehofa yn ei rhoi yn nwylo’r brenin.”
7 Yna dywedodd Jehosaffat: “Onid oes ’na un o broffwydi Jehofa yma? Gad inni fynd i ofyn am arweiniad Duw drwyddo ef hefyd.” 8 Gyda hynny, dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat: “Mae ’na un dyn arall y gallwn ni ofyn am arweiniad Jehofa drwyddo; ond rydw i’n ei gasáu oherwydd dydy ef byth yn proffwydo pethau da ynglŷn â fi, dim ond pethau drwg. Ei enw yw Michea fab Imla.” Ond dywedodd Jehosaffat: “Ddylai’r brenin ddim dweud y fath beth.”
9 Felly galwodd brenin Israel un o swyddogion y llys a dweud: “Tyrd â Michea fab Imla yma yn gyflym.” 10 Nawr roedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eistedd ar eu gorseddau yn gwisgo eu dillad brenhinol wrth y llawr dyrnu a oedd wrth fynedfa porth Samaria, ac roedd y proffwydi i gyd yn proffwydo o’u blaenau nhw. 11 Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn iddo’i hun ac yn dweud: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Byddi di’n defnyddio’r rhain i daro’r Syriaid* nes iti gael gwared arnyn nhw yn gyfan gwbl.’” 12 Roedd y proffwydi eraill i gyd yn proffwydo yn yr un ffordd, gan ddweud: “Dos i fyny i Ramoth-gilead a byddi di’n llwyddiannus; bydd Jehofa yn ei rhoi yn nwylo’r brenin.”
13 Felly dyma’r negesydd a oedd wedi mynd i alw Michea yn dweud wrtho: “Edrycha! Mae’r proffwydi i gyd yn dweud pethau da wrth y brenin. Plîs gad i dy air di fod fel eu geiriau nhw, a dyweda bethau da.” 14 Ond dywedodd Michea: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, bydda i’n dweud beth bynnag mae Jehofa yn ei ddweud wrtho i.” 15 Yna aeth i mewn at y brenin, a gofynnodd y brenin iddo: “Michea, a ddylen ni fynd i ryfela yn erbyn Ramoth-gilead, neu beidio?” Ar unwaith atebodd: “Dos i fyny a byddi di’n llwyddiannus; bydd Jehofa yn ei rhoi yn nwylo’r brenin.” 16 Gyda hynny, dywedodd y brenin wrtho: “Sawl gwaith sydd rhaid imi dy roi di o dan lw i beidio â dweud unrhyw beth wrtho i heblaw am y gwir yn enw Jehofa?” 17 Felly dywedodd: “Rydw i’n gweld yr Israeliaid i gyd wedi eu gwasgaru ar y mynyddoedd, fel defaid heb fugail. Dywedodd Jehofa: ‘Does gan y rhain ddim meistr. Gad i bob un fynd yn ôl i’w dŷ mewn heddwch.’”
18 Yna dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat: “Oni wnes i ddweud wrthot ti na fyddai’n proffwydo pethau da ynglŷn â fi, dim ond pethau drwg?”
19 Yna dywedodd Michea: “Felly gwranda ar air Jehofa: Gwelais Jehofa yn eistedd ar ei orsedd a holl fyddin y nefoedd yn sefyll wrth ei ymyl, ar ei ochr dde ac ar ei ochr chwith. 20 Yna dywedodd Jehofa, ‘Pwy fydd yn twyllo Ahab fel y bydd yn mynd i fyny ac yn syrthio yn Ramoth-gilead?’ Ac roedd un angel yn dweud un peth tra oedd angel arall yn dweud rhywbeth arall. 21 Yna daeth ysbryd* ymlaen a sefyll o flaen Jehofa a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo.’ Gofynnodd Jehofa iddo, ‘Sut byddi di’n gwneud hynny?’ 22 Atebodd, ‘Bydda i’n mynd allan ac yn gwneud i’r proffwydi i gyd ddweud celwyddau.’ Felly dywedodd ef, ‘Byddi di’n ei dwyllo, ac yn fwy na hynny, byddi di’n llwyddiannus. Dos allan a gwna hynny.’ 23 Dyna pam mae Jehofa wedi gadael i angel wneud i’r holl broffwydi hyn ddweud celwyddau wrthot ti, ond mae Jehofa wedi datgan y bydd rhywbeth ofnadwy yn digwydd iti.”
24 Yna, aeth Sedeceia fab Cenaana at Michea a’i daro ar ei foch a dweud: “A wyt ti’n dweud bod nerth Jehofa wedi fy ngadael i ac nawr yn siarad â ti?” 25 Atebodd Michea: “Edrycha! Cei di weld ar y diwrnod pan fyddi di’n mynd i mewn i’r ystafell fewnol i guddio.” 26 Yna dywedodd brenin Israel: “Cymera Michea a’i roi drosodd i Amon, pennaeth y ddinas, ac i Joas, mab y brenin. 27 Dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r brenin yn ei ddweud: “Rhowch y dyn hwn yn y carchar a rhowch ddim ond ychydig o fara a dŵr iddo nes imi ddod yn ôl mewn heddwch.”’” 28 Ond dywedodd Michea: “Os byddi di’n dod yn ôl mewn heddwch, dydy Jehofa ddim wedi siarad â fi.” Yna ychwanegodd: “Cymerwch sylw, chi bobl i gyd.”
29 Felly aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead. 30 Yna dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat: “Gwna i guddio pwy ydw i, a mynd i mewn i’r frwydr, ond dylet ti wisgo dy wisg frenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad fel na fyddai’n cael ei adnabod ac aeth i mewn i’r frwydr. 31 Nawr roedd brenin Syria wedi gorchymyn i’w 32 o arweinwyr cerbydau: “Peidiwch ag ymladd â neb, yn fach neu’n fawr, heblaw am frenin Israel.” 32 Ac unwaith i’r arweinwyr cerbydau weld Jehosaffat, dywedon nhw wrthyn nhw eu hunain: “Mae’n rhaid mai brenin Israel yw hwn.” Felly gwnaethon nhw droi i ymladd yn ei erbyn; a dechreuodd Jehosaffat weiddi am help. 33 Pan welodd yr arweinwyr cerbydau nad brenin Israel oedd ef, dyma nhw’n troi yn ôl ar unwaith rhag ei ddilyn.
34 Ond gwnaeth un dyn saethu ei fwa ar hap, a tharo brenin Israel mewn bwlch rhwng ei lurig a gweddill ei arfwisg. Felly dywedodd y brenin wrth yrrwr ei gerbyd: “Tro yn ôl a chymera fi allan o’r frwydr, oherwydd rydw i wedi cael fy anafu’n ddrwg.” 35 Roedd y frwydr yn ffyrnig drwy’r diwrnod hwnnw. Roedd y brenin yn ei gerbyd ac roedd rhaid iddyn nhw ei ddal ar ei draed er mwyn iddo allu gweld y Syriaid. Roedd y gwaed yn llifo allan o’r anaf ac yn mynd ar hyd llawr y cerbyd rhyfel, a bu farw gyda’r nos. 36 Pan oedd yr haul yn machlud, aeth cri drwy’r gwersyll yn dweud: “Pawb yn ôl i’w ddinas! Pawb yn ôl i’w wlad!” 37 Felly bu farw’r brenin ac aethon nhw ag ef i Samaria a’i gladdu yno. 38 Pan wnaethon nhw olchi’r cerbyd rhyfel wrth bwll Samaria, roedd y cŵn yn llyfu ei waed ac roedd y puteiniaid yn ymolchi yno* yn ôl beth roedd Jehofa wedi ei ddweud.
39 Ynglŷn â gweddill hanes Ahab, popeth a wnaeth, a’r tŷ* o ifori a’r holl ddinasoedd gwnaeth ef eu hadeiladu, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel? 40 Yna bu farw Ahab;* a daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le.
41 Roedd Jehosaffat, mab Asa, wedi dod yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Ahab brenin Israel. 42 Roedd Jehosaffat yn 35 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am 25 mlynedd. Enw ei fam oedd Aswba ferch Silhi. 43 Parhaodd i efelychu esiampl Asa ei dad heb wyro, a gwnaeth beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa. Ond, roedd yr uchelfannau yn dal i fod yno. Ac roedd y bobl yn dal i aberthu ac yn gwneud i fwg godi oddi ar eu haberthau ar yr uchelfannau. 44 Gwnaeth Jehosaffat gadw heddwch â brenin Israel. 45 Ynglŷn â gweddill hanes Jehosaffat, ei weithredoedd nerthol a’i ryfela, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? 46 Gwnaeth ef hefyd yrru allan o’r wlad weddill y dynion a oedd yn eu puteinio eu hunain yn y temlau, y rhai oedd yn dal ar ôl ers dyddiau ei dad Asa.
47 Bryd hynny, doedd ’na ddim brenin yn Edom; roedd ’na ddirprwy yn gweithredu fel brenin.
48 Hefyd, adeiladodd Jehosaffat longau Tarsis i nôl aur o Offir, ond ni aeth y llongau oherwydd cawson nhw eu llongddryllio yn Esion-geber. 49 Dyna pryd dywedodd Ahaseia fab Ahab wrth Jehosaffat: “Gad i fy ngweision i fynd gyda dy weision di yn y llongau,” ond gwrthododd Jehosaffat.
50 Yna bu farw Jehosaffat,* a chafodd ei gladdu gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd ei gyndad; a daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.
51 Daeth Ahaseia fab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria yn yr ail flwyddyn ar bymtheg* o deyrnasiad Jehosaffat brenin Jwda, a theyrnasodd dros Israel am ddwy flynedd. 52 Ac roedd yn parhau i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa a dilyn esiampl ei dad, ei fam, a Jeroboam fab Nebat, a oedd wedi achosi i Israel bechu. 53 Parhaodd i wasanaethu Baal ac ymgrymu iddo, a gwnaeth ef ddigio Jehofa, Duw Israel, dro ar ôl tro yn union fel roedd ei dad wedi gwneud.