LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Brenhinoedd 6
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Brenhinoedd

      • Eliseus yn gwneud i ben bwyell arnofio (1-7)

      • Eliseus yn erbyn y Syriaid (8-23)

        • Llygaid gwas Eliseus yn cael eu hagor (16, 17)

        • Syriaid yn cael eu dallu’n feddyliol (18, 19)

      • Newyn yn Samaria sydd o dan warchae (24-33)

2 Brenhinoedd 6:25

Troednodiadau

  • *

    Roedd un cab yn gyfartal ag 1.22 L.

2 Brenhinoedd 6:26

Troednodiadau

  • *

    Neu “menyw.”

2 Brenhinoedd 6:28

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

2 Brenhinoedd 6:30

Troednodiadau

  • *

    Neu “geiriau’r fenyw.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Brenhinoedd 6:1-33

Ail Brenhinoedd

6 Dywedodd meibion y proffwydi wrth Eliseus: “Edrycha! Mae’r lle hwn yn rhy fach inni fyw yma gyda ti. 2 Plîs gad inni fynd at yr Iorddonen. Gad i bob un ohonon ni dorri coed o fan ’na a gwneud rhywle inni gael byw.” Dywedodd: “Ewch.” 3 Dywedodd un ohonyn nhw: “Plîs wnei di ddod gyda ni?” I hynny, dywedodd: “Iawn.” 4 Felly aeth gyda nhw, a daethon nhw at yr Iorddonen a dechreuon nhw dorri coed. 5 Tra oedd un ohonyn nhw yn torri coeden i lawr, syrthiodd pen y fwyell i’r dŵr, a gwaeddodd: “O na, fy meistr, un fenthyg oedd hi!” 6 Dywedodd dyn y gwir Dduw: “Ble gwnaeth hi syrthio?” Felly dangosodd y fan iddo. Yna torrodd gangen oddi ar goeden a’i thaflu i’r fan honno a gwneud i ben y fwyell arnofio. 7 Dywedodd: “Gafael ynddi.” Felly estynnodd ei law a’i chodi.

8 Nawr dyma frenin Syria yn rhyfela yn erbyn Israel. Gwnaeth ef ymgynghori â’i weision a dweud wrthyn nhw ble i wersylla gydag ef. 9 Yna, anfonodd dyn y gwir Dduw neges at frenin Israel yn dweud: “Paid â mynd heibio’r lle hwn, oherwydd dyna lle mae’r Syriaid yn dod i lawr.” 10 Felly anfonodd brenin Israel neges at y bobl a oedd yn byw yn y lle hwnnw roedd dyn y gwir Dduw wedi ei rybuddio amdano. Parhaodd Eliseus i rybuddio’r brenin, a chadwodd draw o’r fan honno. Digwyddodd hyn sawl gwaith.

11 Gwnaeth hyn wylltio brenin Syria, felly galwodd am ei weision a dweud wrthyn nhw: “Dywedwch wrtho i! Pwy yn ein plith sydd ar ochr brenin Israel?” 12 Yna dywedodd un o’i weision: “Dim un ohonon ni, fy arglwydd y brenin! Eliseus y proffwyd yn Israel sy’n dweud wrth frenin Israel yr hyn rwyt ti’n ei ddweud yn dy ystafell wely dy hun.” 13 Dywedodd: “Ewch i ddarganfod lle mae ef, er mwyn imi allu anfon dynion i’w gipio.” Yn hwyrach ymlaen, cafodd wybod ei fod yn Dothan. 14 Ar unwaith, anfonodd geffylau a cherbydau rhyfel yno, yn ogystal â byddin fawr; daethon nhw yno yn ystod y nos ac amgylchynu’r ddinas.

15 Pan gododd gwas dyn y gwir Dduw yn gynnar a mynd y tu allan, gwelodd fod byddin gyda cheffylau a cherbydau rhyfel yn amgylchynu’r ddinas. Ar unwaith, dywedodd y gwas wrtho: “O na, fy meistr! Beth rydyn ni am ei wneud?” 16 Ond dywedodd: “Paid ag ofni! Oherwydd mae ’na fwy gyda ni nag sydd gyda nhw.” 17 Yna dechreuodd Eliseus weddïo a dweud: “O Jehofa, agora ei lygaid, plîs, er mwyn iddo gael gweld.” Ar unwaith, agorodd Jehofa lygaid y gwas a dyma’n gweld, ac edrycha! roedd yr ardal fynyddig yn llawn ceffylau a cherbydau rhyfel tanllyd yr holl ffordd o gwmpas Eliseus.

18 Pan ddaeth y Syriaid i lawr ato, gweddïodd Eliseus ar Jehofa a dweud: “Plîs, gwna’r genedl hon yn ddall.” Felly, dyma’n eu taro nhw’n ddall, yn union fel roedd Eliseus wedi gofyn. 19 Nawr dywedodd Eliseus wrthyn nhw: “Nid dyma’r ffordd, ac nid hon yw’r ddinas. Dilynwch fi, a gadewch imi eich arwain chi at y dyn rydych chi’n chwilio amdano.” Ond, dyma ef yn eu harwain nhw i Samaria.

20 Unwaith iddyn nhw gyrraedd Samaria, dywedodd Eliseus: “O Jehofa, agora eu llygaid iddyn nhw gael gweld.” Felly agorodd Jehofa eu llygaid, a gwelson nhw eu bod nhw ynghanol Samaria. 21 Unwaith i frenin Israel eu gweld nhw, dywedodd wrth Eliseus: “A ddylwn i eu taro nhw i lawr, a ddylwn i eu taro nhw i lawr, fy nhad?” 22 Ond dywedodd: “Paid â’u taro nhw i lawr. A wyt ti’n lladd y rhai rwyt ti wedi eu cipio â dy gleddyf ac â dy fwa? Rho fara a dŵr iddyn nhw fel eu bod nhw’n gallu bwyta ac yfed a mynd yn ôl at eu harglwydd.” 23 Felly dyma’n cynnal gwledd fawr iddyn nhw, a gwnaethon nhw fwyta ac yfed, yna anfonodd nhw i ffwrdd yn ôl at eu harglwydd. Ac ni ddaeth grwpiau o ladron y Syriaid i mewn i wlad Israel byth eto.

24 Ar ôl hynny, casglodd Ben-hadad, brenin Syria, ei fyddin gyfan at ei gilydd a mynd i fyny a gwarchae ar Samaria. 25 Felly, roedd ’na newyn mawr yn Samaria, a gwnaethon nhw warchae arni nes bod pen asyn yn werth 80 darn o arian, ac nes bod chwarter mesur cab* o dail colomennod yn werth 5 darn o arian. 26 Tra oedd brenin Israel yn cerdded ar hyd y wal, gwaeddodd dynes* arno: “Helpa ni, O fy arglwydd y brenin!” 27 I hynny dywedodd: “Os nad ydy Jehofa yn dy helpu di, sut galla i dy helpu di? Oes ’na unrhyw beth ar ôl ar y llawr dyrnu? Neu yn y cafnau olew neu win?” 28 Gofynnodd y brenin iddi: “Beth sy’n bod arnat ti?” Atebodd hi: “Dywedodd y ddynes* yma wrtho i, ‘Rho dy fab imi, a gwnawn ni ei fwyta heddiw, a gwnawn ni fwyta fy mab i yfory.’ 29 Felly dyma ni’n berwi fy mab i ac yn ei fwyta. Y diwrnod nesaf, dywedais wrthi, ‘Tyrd â dy fab yma inni ei fwyta.’ Ond gwnaeth hi guddio ei mab hi.”

30 Unwaith i’r brenin glywed geiriau’r ddynes,* rhwygodd ei ddillad. Pan oedd yn cerdded ar hyd y wal, gwelodd y bobl ei fod yn gwisgo sachliain o dan ei ddillad. 31 Yna dywedodd: “Gad i Dduw fy nghosbi i’n llym os ydy pen Eliseus fab Saffat yn dal i fod ar ei ysgwyddau erbyn diwedd y dydd!”

32 Roedd Eliseus yn eistedd yn ei dŷ, ac roedd yr henuriaid yn eistedd gydag ef. Anfonodd y brenin ddyn o’i flaen, ond cyn i’r negesydd gyrraedd, dywedodd Eliseus wrth yr henuriaid: “A ydych chi wedi gweld sut mae hwn, y mab i lofrudd, wedi gorchymyn imi gael fy nienyddio? Gwyliwch am y negesydd, caewch y drws, a daliwch y drws ar gau yn ei erbyn. Onid ydy sŵn traed ei arglwydd y tu ôl iddo?” 33 Tra oedd yn dal i siarad â nhw, daeth y negesydd ato, a dywedodd y brenin: “Mae’r trychineb hwn wedi dod oddi wrth Jehofa. Pam dylwn i barhau i ddisgwyl am Jehofa?”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu