LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Cronicl 10
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Cronicl

      • Marwolaeth Saul a’i feibion (1-14)

1 Cronicl 10:4

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “dynion heb eu henwaedu.”

1 Cronicl 10:7

Troednodiadau

  • *

    Neu “gwastatir isel.”

1 Cronicl 10:13

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, dynes sy’n honni ei bod hi’n gallu siarad â’r meirw.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Cronicl 10:1-14

Cyntaf Cronicl

10 Nawr roedd y Philistiaid yn brwydro yn erbyn Israel. A dyma ddynion Israel yn ffoi oddi wrth y Philistiaid, a chafodd llawer eu lladd ar Fynydd Gilboa. 2 Aeth y Philistiaid ar ôl Saul a’i feibion, a lladd Jonathan, Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul. 3 Trodd y frwydr yn ffyrnig yn erbyn Saul, a daeth y bwasaethwyr o hyd iddo, a chafodd ei anafu ganddyn nhw. 4 Yna dywedodd Saul wrth y gwas a oedd yn cario ei arfau: “Tynna dy gleddyf a thrywana fi, fel na fydda i’n cael fy nhrin yn greulon gan y paganiaid* hyn.” Ond doedd y gwas ddim yn fodlon gwneud hynny oherwydd roedd ganddo ofn. Felly cymerodd Saul y cleddyf a syrthio arno. 5 Pan welodd gwas Saul ei fod wedi marw, syrthiodd yntau hefyd ar ei gleddyf ei hun a marw. 6 Felly dyma Saul a’i dri mab yn marw, yn ogystal â phawb a oedd yn ei dŷ. 7 Pan welodd holl bobl Israel yn y dyffryn* fod pawb wedi ffoi, a bod Saul a’i feibion wedi marw, dechreuon nhw adael eu dinasoedd a ffoi; yna daeth y Philistiaid i fyw yn y dinasoedd hynny.

8 Y diwrnod wedyn, pan ddaeth y Philistiaid i ysbeilio’r meirw, daethon nhw o hyd i gyrff Saul a’i feibion ar Fynydd Gilboa. 9 Felly dyma nhw’n torri pen Saul i ffwrdd ac yn cymryd ei arfwisg, ac yn anfon neges drwy wlad y Philistiaid i ledaenu’r newyddion yn nhemlau eu heilunod ac ymysg y bobl. 10 Yna rhoddon nhw ei arfwisg yn nheml eu duw a hoelio ei benglog ar wal tŷ Dagon.

11 Pan glywodd pawb yn Jabes yn Gilead am bopeth roedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul, 12 cododd y milwyr i gyd a chario corff Saul a chyrff ei feibion i ffwrdd. Daethon nhw â’r esgyrn i Jabes a’u claddu nhw o dan y goeden fawr yn Jabes, ac ymprydio am saith diwrnod.

13 Felly bu farw Saul oherwydd roedd ef wedi bod yn anffyddlon i Jehofa drwy anufuddhau i air Jehofa, a hefyd am ei fod wedi ymgynghori â chyfrynges ysbrydion* 14 yn hytrach na gofyn i Jehofa am ei arweiniad. Felly rhoddodd ef i farwolaeth a rhoi’r frenhiniaeth i Dafydd fab Jesse.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu