Cyntaf Cronicl
11 Ymhen amser daeth yr Israeliaid i gyd at Dafydd yn Hebron a dweud: “Edrycha! Rydyn ni’n perthyn i ti drwy waed.* 2 Yn y gorffennol, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yr un a oedd yn arwain brwydrau Israel. A dywedodd Jehofa dy Dduw wrthot ti: ‘Byddi di’n bugeilio fy mhobl Israel, a byddi di’n dod yn arweinydd dros fy mhobl Israel.’” 3 Felly, daeth holl henuriaid Israel at y brenin yn Hebron, a gwnaeth Dafydd gyfamod â nhw yn Hebron o flaen Jehofa. Yna dyma nhw’n eneinio Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl beth ddywedodd Jehofa drwy Samuel.
4 Yn hwyrach ymlaen, aeth Dafydd ac Israel gyfan allan i Jerwsalem, hynny yw Jebus, lle roedd y Jebusiaid yn byw yn y wlad. 5 Roedd pobl Jebus yn herio Dafydd gan ddweud: “Fyddi di byth yn dod i mewn i fan hyn!” Ond dyma Dafydd yn cipio caer Seion, sydd bellach yn cael ei galw’n Ddinas Dafydd. 6 Felly dywedodd Dafydd: “Bydd y cyntaf i daro’r Jebusiaid yn dod yn bennaeth ac yn dywysog.” Ac aeth Joab fab Seruia i fyny yn gyntaf, a daeth ef yn bennaeth. 7 Yna aeth Dafydd i fyw yn y gaer. Dyna pam gwnaethon nhw ei galw’n Ddinas Dafydd. 8 Dechreuodd ef waith adeiladu mewn gwahanol rannau o’r ddinas, ar y Bryn* ac o’i amgylch, a Joab wnaeth adnewyddu gweddill y ddinas. 9 Felly daeth Dafydd yn fwy ac yn fwy pwerus, ac roedd Jehofa y lluoedd gydag ef.
10 Nawr dyma benaethiaid milwyr dewr Dafydd a oedd, ynghyd ag Israel gyfan, eisiau iddo reoli drostyn nhw. Gwnaethon nhw i gyd helpu i’w wneud yn frenin yn union fel roedd Jehofa wedi addo i Israel. 11 Dyma restr o filwyr dewr Dafydd: Jasobeam, mab un o’r Hachmoniaid, pennaeth y tri. Un tro defnyddiodd ei waywffon i ladd 300 o ddynion. 12 Nesaf ato roedd Eleasar, mab Dodo yr Ahohiad. Roedd ef ymhlith y tri milwr dewr. 13 Hefyd roedd ef gyda Dafydd yn Pas-dammim, lle roedd y Philistiaid wedi casglu ar gyfer rhyfel. Nawr roedd ’na ddarn o dir yn llawn haidd, ac roedd y bobl wedi ffoi oherwydd y Philistiaid. 14 Ond safodd ynghanol y cae a’i amddiffyn a pharhaodd i daro’r Philistiaid i lawr fel bod Jehofa yn ennill buddugoliaeth fawr.
15 Aeth tri o’r 30 pennaeth i lawr at y graig, at Dafydd wrth ogof Adulam, tra oedd byddin o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn* Reffaim. 16 Bryd hynny, roedd Dafydd yn y lloches ac roedd garsiwn o Philistiaid ym Methlehem. 17 A dywedodd Dafydd: “Byddwn i wrth fy modd yn cael yfed dŵr o’r ffynnon sydd wrth ymyl giât Bethlehem!” 18 Gyda hynny, dyma’r tri yn gwthio eu ffordd i mewn i wersyll y Philistiaid ac yn codi dŵr o’r ffynnon wrth ymyl giât Bethlehem, a daethon nhw â’r dŵr at Dafydd; ond gwrthododd Dafydd yfed y dŵr a dyma’n ei dywallt* ar y llawr o flaen Jehofa. 19 Dywedodd: “Alla i ddim hyd yn oed meddwl am wneud hyn o ystyried safbwynt fy Nuw! A ddylwn i yfed gwaed y dynion hyn a wnaeth fentro eu bywydau?* Oherwydd rhoddon nhw eu bywydau* yn y fantol er mwyn ei gael.” Felly gwrthododd ei yfed. Dyma’r pethau a wnaeth ei dri milwr dewr.
20 Daeth Abisai, brawd Joab, yn bennaeth ar dri arall; defnyddiodd ei gleddyf i ladd 300 o ddynion, ac roedd yn enwog fel y tri chyntaf. 21 Allan o’r tri milwr dewr, roedd ef yn fwy adnabyddus na’r ddau arall, ac ef oedd eu pennaeth; ond eto doedd ef ddim cystal â’r tri chyntaf.
22 Roedd Benaia fab Jehoiada yn ddyn dewr* a oedd wedi gwneud pethau mawr yn Cabseel. Tarodd ddau fab Ariel o Moab i lawr, ac aeth i mewn i bydew dŵr ar ddiwrnod o eira a lladd llew. 23 Gwnaeth ef hefyd daro i lawr Eifftiwr a oedd yn gawr o ddyn—pum cufydd* o daldra. Er bod gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law a oedd mor fawr â thrawst gwehydd, aeth yn ei erbyn â ffon a chipio’r waywffon o law yr Eifftiwr a’i ladd â’i waywffon ei hun. 24 Dyma beth wnaeth Benaia fab Jehoiada, ac roedd yn enwog fel y tri milwr dewr. 25 Er ei fod yn fwy adnabyddus na gweddill y tri deg, doedd ef ddim cystal â’r tri chyntaf. Ond gwnaeth Dafydd ei benodi i fod yn bennaeth ar ei warchodlu ei hun.
26 Y rhain oedd milwyr dewr y fyddin: Asahel brawd Joab, Elhanan fab Dodo o Fethlehem, 27 Sammoth yr Haroriad, Heles y Peloniad, 28 Ira fab Icces y Tecoiad, Abi-eser o Anathoth, 29 Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad, 30 Maharai o Netoffa, Heled fab Baana o Netoffa, 31 Ithai fab Ribai o Gibea yn Benjamin, Benaia o Pirathon, 32 Hurai o ddyffrynnoedd* Gaas, Abiel yr Arbathiad, 33 Asmafeth y Bahrumiad, Eliahba o Saalbim, 34 meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan fab Sage yr Harariad, 35 Ahiam fab Sachar yr Harariad, Eliffal fab Ur, 36 Heffer y Mecherathiad, Aheia y Peloniad, 37 Hesro o Garmel, Naarai fab Esbai, 38 Joel brawd Nathan, Mibhar fab Hagri, 39 Selec yr Ammoniad, Naharai o Beeroth, sef gwas arfau Joab fab Seruia; 40 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 41 Ureia yr Hethiad, Sabad fab Alai, 42 Adina fab Sisa y Reubeniad, un o benaethiaid y Reubeniaid, a 30 gydag ef; 43 Hanan fab Maacha, Josaffat y Mithniad, 44 Usseia yr Asterathiad, Sama a Jehiel, meibion Hotham yr Aroeriad, 45 Jediael fab Simri, a’i frawd Joha y Tisiad; 46 Eliel y Mahafiad, Jeribai a Josafia, meibion Elnaam, ac Ithma y Moabiad; 47 Eliel, Obed, a Jasiel y Mesobaiad.