Nehemeia
2 Ym mis Nisan yn yr ugeinfed* flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Artacsercses, roedd gwin wedi ei osod o’i flaen, ac fel arfer cymerais y gwin a’i roi i’r brenin. Ond doeddwn i erioed wedi bod yn ddigalon o’i flaen. 2 Felly dywedodd y brenin wrtho i: “Pam rwyt ti’n edrych mor ddigalon? Dwyt ti ddim yn sâl, felly mae’n rhaid bod rhywbeth yn dy boeni di.” Gyda hynny, des i’n ofnus iawn.
3 Yna dywedais wrth y brenin: “Hir oes i’r brenin! Sut gallwn i beidio ag edrych yn ddigalon, pan mae’r ddinas lle mae fy nghyndadau wedi eu claddu yn adfeilion, ac mae ei phyrth wedi eu llosgi â thân?” 4 Yna dywedodd y brenin wrtho i: “Beth rwyt ti’n ei geisio?” Ar unwaith gweddïais ar Dduw y nefoedd. 5 Yna dywedais wrth y brenin: “Os yw’n dda yng ngolwg y brenin, ac os ydy dy was wedi dy blesio di, anfona fi i Jwda, i’r ddinas lle mae fy nghyndadau wedi eu claddu, er mwyn imi ei hailadeiladu.” 6 Yna dyma’r brenin, gyda’r frenhines yn eistedd wrth ei ochr, yn dweud wrtho i: “Pa mor hir fydd dy daith, a phryd byddi di’n dod yn ôl?” Felly roedd yn plesio’r brenin i fy anfon i, a dywedais wrtho pryd y byddwn i’n dod yn ôl.
7 Yna dywedais wrth y brenin: “Os yw’n plesio’r brenin, rho lythyrau imi ar gyfer llywodraethwyr yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon,* fel eu bod nhw’n gadael imi basio drwy eu gwlad nes imi gyrraedd Jwda, 8 yn ogystal â llythyr ar gyfer Asaff, ceidwad y Parc Brenhinol,* er mwyn iddo roi coed imi ar gyfer trawstiau pyrth Caer y Tŷ* ac ar gyfer waliau’r ddinas, ac ar gyfer y tŷ bydda i’n aros ynddo.” Felly rhoddodd y brenin y llythyrau imi, oherwydd roedd llaw garedig fy Nuw gyda fi.
9 Yn y pen draw, des i at lywodraethwyr yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon, a rhoddais lythyrau’r brenin iddyn nhw. Roedd y brenin hefyd wedi anfon penaethiaid milwrol a marchogion gyda mi. 10 Pan wnaeth Sanbalat yr Horoniad a Tobeia y swyddog o Ammon glywed am hyn, doedden nhw ddim yn hapus o gwbl fod rhywun wedi dod i wneud rhywbeth da ar ran pobl Israel.
11 O’r diwedd des i i Jerwsalem ac arhosais yno am dri diwrnod. 12 Codais liw nos, fi a’r ychydig o ddynion a oedd gyda fi, a wnes i ddim rhoi gwybod i unrhyw un beth roedd fy Nuw wedi fy annog* i i’w wneud yn Jerwsalem, a’r unig anifail a oedd gen i oedd yr un roeddwn i’n teithio arno. 13 Es i allan yn ystod y nos drwy Borth y Dyffryn, gan basio y tu blaen i Ffynnon y Neidr Fawr ac ymlaen i Borth y Pentyrrau Lludw, ac edrychais ar gyflwr waliau Jerwsalem a oedd wedi eu chwalu a’i phyrth a oedd wedi eu llosgi â thân. 14 Ac es i ymlaen i Borth y Ffynnon ac i Bwll y Brenin, ond doedd ’na ddim digon o le i’r anifail roeddwn i’n teithio arno fynd ymhellach. 15 Ond gwnes i barhau ar hyd y dyffryn* yn ystod y nos gan edrych yn fanwl ar gyflwr y wal. Ar ôl hynny, gwnes i droi yn ôl a dychwelyd trwy Borth y Dyffryn.
16 Doedd y dirprwy reolwyr ddim yn gwybod ble roeddwn i wedi mynd na beth roeddwn i’n ei wneud, oherwydd doeddwn i ddim wedi dweud unrhyw beth eto wrth yr Iddewon, yr offeiriaid, y dynion pwysig, y dirprwy reolwyr, na gweddill y gweithwyr. 17 Yn y pen draw, dywedais i wrthyn nhw: “Rydych chi’n gweld pa mor ofnadwy ydy’r sefyllfa hon—mae Jerwsalem yn adfeilion ac mae ei phyrth wedi eu llosgi â thân. Gadewch inni ailadeiladu waliau Jerwsalem, fel na fydd y sefyllfa warthus hon yn parhau.” 18 Yna gwnes i sôn wrthyn nhw am sut roedd fy Nuw wedi fy nghefnogi,* a hefyd am beth roedd y brenin wedi ei ddweud wrtho i. Gyda hynny, dywedon nhw: “Gadewch inni godi a dechrau adeiladu.” Felly gwnaethon nhw gryfhau ei gilydd a pharatoi ar gyfer y gwaith.
19 Nawr pan glywodd Sanbalat yr Horoniad, Tobeia y swyddog o Ammon, a Gesem yr Arabiad am hyn, dechreuon nhw ein gwawdio ni a gwneud hwyl am ein pennau, gan ddweud: “Beth rydych chi’n ei wneud? Ydych chi’n gwrthryfela yn erbyn y brenin?” 20 Sut bynnag, atebais: “Duw y nefoedd yw’r Un a fydd yn rhoi llwyddiant inni, ac fe fyddwn ni, ei weision, yn codi ac yn mynd ati i adeiladu. Ond, does gynnoch chi ddim rhan yn Jerwsalem, nac unrhyw hawl hanesyddol na chyfreithiol yma.”