Esther
2 Ar ôl y pethau hyn, pan dawelodd tymer y Brenin Ahasferus, meddyliodd am beth roedd Fasti wedi ei wneud, ac am sut roedd hi am gael ei chosbi. 2 Yna dywedodd gweision personol y brenin: “Anfona ddynion i chwilio am wyryfon ifanc a phrydferth ar gyfer y brenin. 3 A gad i’r brenin benodi dynion ym mhob talaith o’i deyrnas, i gasglu’r holl wyryfon ifanc a phrydferth i’r gaer* yn Susan,* i dŷ’r merched.* Gad i Hegai, eunuch y brenin a gwarchodwr y merched,* edrych ar eu holau nhw, a gad iddyn nhw gael triniaethau harddwch. 4 Bydd y ddynes* ifanc sy’n plesio’r brenin y mwyaf yn dod yn frenhines yn lle Fasti.” Roedd yr awgrymiad hwn yn plesio’r brenin, a dyna beth wnaeth ef.
5 Roedd ’na Iddew yn y gaer yn Susan o’r enw Mordecai, mab Jair, mab Simei, mab Cis, un o lwyth Benjamin. 6 Cafodd ef* ei gaethgludo o Jerwsalem ynghyd â Jechoneia* brenin Jwda ac eraill; cawson nhw eu halltudio gan Nebuchadnesar brenin Babilon. 7 Roedd ef yn gofalu am Hadassa,* hynny yw, Esther, merch brawd ei dad, oherwydd doedd ganddi hi ddim tad na mam. Roedd y ddynes* ifanc yn ddeniadol a phrydferth iawn, a phan fu farw ei thad a’i mam, gwnaeth Mordecai ei mabwysiadu hi fel merch iddo’i hun. 8 Pan gafodd gair a chyfraith y brenin eu datgan, ac roedd llawer o ferched* ifanc yn cael eu casglu at ei gilydd yn y gaer yn Susan o dan ofal Hegai, cafodd Esther hefyd ei chymryd i dŷ’r brenin* o dan ofal Hegai, gwarchodwr y merched.*
9 Nawr roedd y ddynes* ifanc yn ei blesio, ac enillodd ei ffafr,* felly trefnodd ar unwaith iddi gael triniaethau harddwch a deiet arbennig, a dewisodd saith merch* ifanc o dŷ’r brenin i wasanaethu Esther. Gwnaeth ef hefyd ei symud hi a’i morynion i’r lle gorau yn nhŷ’r merched.* 10 Ni wnaeth Esther ddweud unrhyw beth am ei phobl na’i pherthnasau, oherwydd roedd Mordecai wedi dweud wrthi am beidio â sôn wrth neb. 11 Ddydd ar ôl dydd byddai Mordecai’n cerdded o flaen cwrt tŷ’r merched* i weld sut roedd Esther yn cadw a sut roedd hi’n cael ei thrin.
12 Roedd rhaid i bob dynes* ifanc fynd i mewn o flaen y Brenin Ahasferus fesul un ar ôl cwblhau’r driniaeth 12 mis roedd rhaid iddyn nhw ei derbyn, oherwydd dyma beth roedd y driniaeth harddwch yn ei gynnwys—chwe mis gydag olew myrr, a chwe mis gydag olew balm a gwahanol fathau o eli ar gyfer triniaethau harddwch. 13 Yna byddai’r ddynes* ifanc yn barod i fynd o flaen y brenin, a byddai hi’n cael beth bynnag roedd hi’n gofyn amdano er mwyn mynd o dŷ’r merched* i dŷ’r brenin. 14 Gyda’r nos byddai hi’n mynd i mewn, ac yn y bore byddai hi’n mynd i ail dŷ’r merched,* o dan ofal Saasgas eunuch y brenin, gwarchodwr gwragedd eraill* y brenin. Fyddai hi ddim yn mynd yn ôl o flaen y brenin eto oni bai ei bod hi wedi plesio’r brenin yn fawr a’i fod yn galw amdani wrth ei henw.
15 Yna daeth tro Esther ferch Abihail, a oedd wedi cael ei mabwysiadu gan ei chefnder Mordecai.* Pan aeth hi i mewn o flaen y brenin, ni wnaeth hi ofyn am unrhyw beth heblaw am yr hyn roedd Hegai, eunuch y brenin a gwarchodwr y merched,* wedi ei argymell iddi. (Ar hyd yr adeg, roedd Esther yn ennill ffafr pawb a oedd yn ei gweld hi.) 16 Cafodd Esther ei chymryd at y Brenin Ahasferus yn ei dŷ brenhinol yn y degfed mis, hynny yw mis Tebeth, yn y seithfed flwyddyn o’i deyrnasiad. 17 Daeth y brenin i garu Esther yn fwy na’r merched* eraill, ac enillodd hi ei ffafr a’i gymeradwyaeth* yn fwy nag unrhyw un o’r gwyryfon eraill. Felly rhoddodd ef y benwisg frenhinol* ar ei phen a’i gwneud hi’n frenhines yn lle Fasti. 18 Yna dyma’r brenin yn cynnal gwledd fawr ar gyfer ei dywysogion a’i weision, gwledd i anrhydeddu Esther. Yna, datganodd amnest ar gyfer y taleithiau, a pharhaodd y brenin i roi anrhegion yn ôl ei allu.
19 Nawr pan gafodd y gwyryfon* eu casglu at ei gilydd am yr ail dro, roedd Mordecai yn eistedd ym mhorth y brenin. 20 Ni wnaeth Esther ddweud unrhyw beth am ei pherthnasau na’i phobl, yn unol â chyngor Mordecai. Daliodd Esther ati i fod yn ufudd i Mordecai, yn union fel roedd hi wedi gwneud pan oedd hi o dan ei ofal.
21 Yn y dyddiau hynny pan oedd Mordecai yn eistedd ym mhorth y brenin, dyma ddau o swyddogion llys y brenin, porthorion o’r enw Bigthan a Teres, yn gwylltio ac yn cynllwynio i ladd y Brenin Ahasferus. 22 Ond dysgodd Mordecai am y cynllwyn, a soniodd amdano wrth y Frenhines Esther ar unwaith. Yna, siaradodd Esther â’r brenin yn enw* Mordecai. 23 Felly ar ôl ymchwiliad cafodd y mater ei gadarnhau, a dyma’r dynion yn cael eu hongian ar stanc. Cafodd hyn i gyd ei ysgrifennu ym mhresenoldeb y brenin yn llyfr hanes y cyfnod.