Esther
4 Pan ddysgodd Mordecai am bopeth a ddigwyddodd, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain a thaflu lludw arno’i hun. Yna aeth allan i ganol y ddinas gan grio’n uchel ac yn chwerw. 2 Wnaeth ef ddim mynd ymhellach na phorth y brenin, oherwydd doedd neb yn cael mynd i mewn i borth y brenin yn gwisgo sachliain. 3 Ac ym mhob talaith lle roedd gair a gorchymyn y brenin yn cyrraedd, roedd yr Iddewon yn galaru, yn ymprydio, yn llefain, ac yn wylo. Roedd llawer ohonyn nhw yn gorwedd i lawr mewn sachliain a lludw. 4 Pan ddaeth morynion ac eunuchiaid Esther i mewn i ddweud wrthi am y peth, dechreuodd y frenhines boeni’n arw a thorrodd ei chalon. Yna, anfonodd hi ddillad at Mordecai iddo eu gwisgo yn hytrach na sachliain, ond gwnaeth ef eu gwrthod nhw. 5 Ar hynny, galwodd Esther am Hathach, un o eunuchiaid y brenin a oedd wedi cael ei benodi i’w gwasanaethu hi, a gorchmynnodd iddo holi Mordecai am beth oedd yn digwydd a beth roedd hyn yn ei olygu.
6 Felly aeth Hathach allan at Mordecai yn sgwâr cyhoeddus y ddinas o flaen porth y brenin. 7 Soniodd Mordecai wrtho am bopeth oedd wedi digwydd iddo ac yn union faint o arian roedd Haman wedi addo ei dalu i drysordy’r brenin er mwyn dinistrio’r Iddewon. 8 Hefyd rhoddodd iddo gopi o’r ddogfen a oedd yn cynnwys y ddeddf a gafodd ei chyhoeddi yn Susan* ynglŷn â dinistrio’r Iddewon. Roedd rhaid iddo ddangos y ddogfen i Esther a’i hesbonio iddi, a rhoi cyfarwyddiadau iddi i fynd i mewn o flaen y brenin i erfyn arno i ddangos trugaredd tuag at ei phobl.
9 Daeth Hathach yn ôl ac adrodd wrth Esther beth roedd Mordecai wedi ei ddweud. 10 Dyma Esther yn gorchymyn i Hathach ddweud wrth Mordecai: 11 “Mae holl weision y brenin a phobl taleithiau’r brenin yn gwybod mai dim ond un gyfraith sydd ynglŷn â dyn neu ddynes* sy’n mynd i mewn i gwrt mewnol y brenin heb wahoddiad: Bydd yn cael ei roi i farwolaeth, a bydd ond yn cael byw os ydy’r brenin yn estyn ei wialen* aur tuag ato. A dydy’r brenin ddim wedi galw amdana i ers 30 diwrnod bellach.”
12 Pan glywodd Mordecai am beth ddywedodd Esther, 13 dywedodd wrthi: “Paid â dychmygu y byddi di’n fwy tebygol o ddianc na’r holl Iddewon eraill oherwydd dy fod ti’n rhan o’r teulu brenhinol. 14 Oherwydd os byddi di’n aros yn ddistaw ar yr adeg hon, bydd achubiaeth yn dod i’r Iddewon o rywle arall, ond byddi di a theulu dy dad yn marw. A phwy a ŵyr? Mae’n bosib mai ar gyfer amser fel hyn y cest ti dy wneud yn frenhines.”
15 Yna dyma Esther yn ateb Mordecai: 16 “Dos, a chasgla’r holl Iddewon sydd yn Susan, ac ymprydiwch drosto i. Peidiwch â bwyta nac yfed, ddydd na nos, am dri diwrnod. Bydda i a fy morynion hefyd yn ymprydio. Bydda i’n mynd i mewn at y brenin, rhywbeth sydd yn erbyn y gyfraith, ac os oes rhaid imi farw, bydda i’n marw.” 17 Felly aeth Mordecai ar ei ffordd i wneud popeth roedd Esther wedi dweud wrtho i’w wneud.