Esther
7 Felly dyma’r brenin a Haman yn dod i wledd y Frenhines Esther. 2 Ar yr ail ddiwrnod yn ystod y wledd win, gofynnodd y brenin unwaith eto i’r Frenhines Esther: “Beth rwyt ti’n ei geisio, Frenhines Esther? Dyweda wrtho i, a byddi di’n ei gael. A beth yw dy ddymuniad? Rydw i’n fodlon rhoi unrhyw beth iti, hyd at hanner fy nheyrnas!” 3 Atebodd y Frenhines Esther: “Os ydw i wedi ennill dy ffafr, O frenin, ac os yw’n plesio’r brenin, rydw i’n gofyn iti achub fy mywyd i, ac rydw i’n erfyn arnat ti i arbed fy mhobl. 4 Oherwydd rydyn ni wedi cael ein gwerthu, y fi a fy mhobl. Petasen ni wedi cael ein gwerthu i fod yn gaethweision a chaethferched, fyddwn i ddim wedi dweud unrhyw beth. Ond, rydyn ni wedi cael ein gwerthu i gael ein dinistrio, ein lladd, a’n difa. Ddylai’r trychineb hwn ddim cael ei ganiatáu, oherwydd byddai’n niweidiol i’r brenin.”
5 Yna dywedodd y Brenin Ahasferus wrth y Frenhines Esther: “Pwy sydd wedi gwneud hyn, a ble mae’r dyn sydd wedi meiddio gwneud y fath beth?” 6 Dywedodd Esther: “Y gwrthwynebwr a’r gelyn ydy’r Haman drygionus hwn.”
Cododd ofn mawr ar Haman oherwydd y brenin a’r frenhines. 7 Gwylltiodd y brenin yn lân, a chododd a gadael y wledd ac aeth i mewn i ardd y palas. Ond safodd Haman i erfyn ar y Frenhines Esther am ei fywyd, oherwydd roedd ef yn sylweddoli bod y brenin yn benderfynol o’i gosbi. 8 Daeth y brenin yn ôl o ardd y palas i’r neuadd lle roedd y wledd, a gwelodd fod Haman wedi ei daflu ei hun lle roedd Esther yn gorwedd. Gwaeddodd y brenin: “Ydy ef hefyd yn mynd i dreisio’r frenhines yn fy nhŷ fy hun?” Unwaith i’r geiriau hyn adael ceg y brenin, dyma’r gweision yn gorchuddio wyneb Haman. 9 Yna, dywedodd Harbona, un o swyddogion llys y brenin: “Gwnaeth Haman hefyd baratoi stanc er mwyn hongian Mordecai, y dyn a wnaeth achub y brenin drwy ei rybuddio. Mae’r stanc wrth ymyl tŷ Haman, yn 50 cufydd* o uchder.” Gyda hynny, dywedodd y brenin: “Ewch, a hongian Haman arno.” 10 Felly dyma nhw’n hongian Haman ar y stanc roedd ef wedi ei baratoi ar gyfer Mordecai, a thawelodd dicter y brenin.