Esther
9 Ar y trydydd diwrnod ar ddeg* o’r deuddegfed* mis, hynny yw, mis Adar, pan ddaeth yr amser i weithredu ar air a chyfraith y brenin, ar y diwrnod pan oedd gelynion yr Iddewon yn gobeithio eu trechu nhw, digwyddodd y gwrthwyneb, a gwnaeth yr Iddewon drechu’r rhai a oedd yn eu casáu nhw. 2 Casglodd yr Iddewon at ei gilydd yn eu dinasoedd yn holl daleithiau’r Brenin Ahasferus i frwydro yn erbyn y rhai a oedd eisiau eu brifo nhw, a doedd neb yn gallu sefyll yn eu herbyn nhw, oherwydd roedd ofn yr Iddewon wedi gafael yn y bobloedd i gyd. 3 Ac roedd holl dywysogion y taleithiau, y rhaglawiaid, y llywodraethwyr, a phawb a oedd yn gofalu am waith y brenin yn cefnogi’r Iddewon, am eu bod nhw’n ofni Mordecai. 4 Daeth Mordecai yn bwerus yn nhŷ’r brenin* ac roedd yn dod yn enwog drwy’r taleithiau i gyd, oherwydd roedd Mordecai yn ennill mwy a mwy o awdurdod fesul tipyn.
5 Gwnaeth yr Iddewon daro i lawr eu gelynion i gyd â’r cleddyf, gan eu lladd a’u dinistrio nhw; gwnaeth yr Iddewon beth bynnag roedden nhw eisiau i’r rhai a oedd yn eu casáu. 6 Yn y gaer* yn Susan,* lladdodd yr Iddewon 500 o bobl. 7 Hefyd, gwnaethon nhw ladd Parsandatha, Dalffon, Aspatha, 8 Poratha, Adalia, Aridatha, 9 Parmasta, Arisai, Aridai, a Faisatha, 10 deg mab Haman fab Hammedatha, gelyn yr Iddewon. Ond ar ôl iddyn nhw eu lladd nhw, wnaethon nhw ddim cymryd unrhyw ysbail.
11 Ar y diwrnod hwnnw, cafodd nifer y rhai a gafodd eu lladd yn y gaer yn Susan ei adrodd wrth y brenin.
12 Dywedodd y brenin wrth y Frenhines Esther: “Yn y gaer yn Susan, mae’r Iddewon wedi lladd a dinistrio 500 o bobl a deg mab Haman. Felly faint mwy o bobl maen nhw wedi eu lladd yn nhaleithiau eraill y brenin? Beth rwyt ti’n ei geisio nawr? Byddi di’n ei gael. A beth arall rwyt ti eisiau? Bydd yn sicr yn cael ei wneud.” 13 Atebodd Esther: “Os yw’n plesio’r brenin, rho ganiatâd i’r Iddewon yn Susan eu hamddiffyn eu hunain eto yfory, fel y gwnaethon nhw heddiw, a gad i ddeg mab Haman gael eu hongian ar y stanc.” 14 Felly rhoddodd y brenin orchymyn i hynny gael ei wneud. Cafodd cyfraith ei chyhoeddi yn Susan, a chafodd deg mab Haman eu hongian.
15 Casglodd yr Iddewon yn Susan at ei gilydd unwaith eto ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o fis Adar, a lladd 300 o bobl yn Susan, ond ni wnaethon nhw gymryd unrhyw ysbail.
16 Hefyd casglodd gweddill yr Iddewon yn nhaleithiau’r brenin at ei gilydd i amddiffyn eu hunain. Cawson nhw wared ar eu gelynion, gan ladd 75,000 o’r rhai a oedd yn eu casáu nhw, ond ni wnaethon nhw gymryd unrhyw ysbail. 17 Roedd hynny ar y trydydd diwrnod ar ddeg* o fis Adar, a dyma nhw’n gorffwys ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* a’i wneud yn ddiwrnod o wledda ac o lawenhau.
18 Casglodd yr Iddewon yn Susan at ei gilydd ar y trydydd diwrnod ar ddeg* ac ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg,* a dyma nhw’n gorffwys ar y pymthegfed* diwrnod a’i wneud yn ddiwrnod o wledda ac o lawenhau. 19 Dyna pam mae’r Iddewon sy’n byw yn ninasoedd y rhanbarthau anghysbell wedi gwneud y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o fis Adar yn ddiwrnod o lawenhau ac o wledda, yn ddiwrnod i ddathlu, ac yn amser i anfon bwyd at ei gilydd.
20 Cofnododd Mordecai y digwyddiadau hyn, ac anfonodd lythyrau swyddogol at yr holl Iddewon yn holl daleithiau’r Brenin Ahasferus, yn agos ac yn bell. 21 Gorchmynnodd iddyn nhw ddathlu’r pedwerydd diwrnod ar ddeg* o fis Adar bob blwyddyn, yn ogystal â’r pymthegfed* diwrnod, 22 oherwydd ar y dyddiau hynny, cafodd yr Iddewon lonydd oddi wrth eu gelynion, ac yn y mis hwnnw trodd eu tristwch yn llawenydd a throdd eu galar yn ddathlu. Roedd y dyddiau hyn yn amser iddyn nhw wledda, llawenhau, ac anfon bwyd at ei gilydd ac anrhegion at y rhai tlawd.
23 A chytunodd yr Iddewon i ddathlu’r dyddiau hyn bob blwyddyn ac i wneud beth roedd Mordecai wedi ei ysgrifennu atyn nhw. 24 Oherwydd roedd Haman fab Hammedatha yr Agagiad, gelyn yr Iddewon i gyd, wedi cynllwynio i ddinistrio’r Iddewon, ac roedd ef wedi taflu Pwr, hynny yw, y Coelbren, i ddewis diwrnod i godi braw arnyn nhw ac i’w dinistrio nhw. 25 Ond pan ddaeth Esther o flaen y brenin, rhoddodd ef orchymyn ysgrifenedig: “Gad i’w gynllwyn drygionus yn erbyn yr Iddewon droi yn ôl arno a’i daro ef ei hun”; a dyma nhw’n ei hongian ef a’i feibion ar y stanc. 26 Dyna pam rhoddon nhw’r enw Pwrim ar y dyddiau hyn, ar ôl enw’r Pwr.* Felly, oherwydd popeth a oedd wedi ei ysgrifennu yn y llythyr hwn a phopeth a welson nhw ynglŷn â’r mater hwn a phopeth a oedd wedi digwydd iddyn nhw, 27 dyma’r Iddewon yn gwneud ymrwymiad y byddan nhw, eu disgynyddion, a phawb a oedd yn ymuno â nhw yn dathlu’r ddau ddiwrnod hyn, heb os nac oni bai, ac y byddan nhw’n gwneud beth oedd yn ysgrifenedig ynglŷn â’r dyddiau hynny ar yr amser penodedig bob blwyddyn. 28 Roedd y dyddiau hyn i’w cofio a’u dathlu gan bob cenhedlaeth, pob teulu, pob talaith, a phob dinas. Roedd rhaid i’r Iddewon barhau i ddathlu dyddiau Pwrim, ac roedd rhaid i’w disgynyddion eu cofio am byth.
29 Yn hwyrach ymlaen, cafodd ail lythyr ynglŷn â Pwrim ei ysgrifennu, a gwnaeth y Frenhines Esther ferch Abihail a Mordecai yr Iddew ei gadarnhau â’u holl awdurdod. 30 Yna cafodd y llythyrau eu hanfon at yr holl Iddewon yn y 127 talaith, teyrnas Ahasferus, gyda geiriau gwir a heddychlon, 31 yn cadarnhau y dylai dyddiau Pwrim gael eu dathlu ar yr amseroedd penodedig, yn union fel roedd Mordecai yr Iddew a’r Frenhines Esther wedi gorchymyn iddyn nhw wneud, ac yn union fel roedden nhw wedi ymrwymo y bydden nhw a’u disgynyddion yn gwneud, gan gynnwys yr ymprydio a’r erfyniadau. 32 Cafodd y materion hyn ynglŷn â Pwrim eu cadarnhau gan orchymyn Esther, a chafodd y gorchymyn ei gofnodi mewn llyfr.