Esther
10 Cafodd pobl y wlad a phobl ynysoedd y môr eu gorfodi i lafurio gan y Brenin Ahasferus.
2 Ynglŷn â’i holl weithredoedd nerthol a grymus, yn ogystal â’r holl fanylion am sut gwnaeth y brenin anrhydeddu Mordecai, onid ydyn nhw wedi cael eu hysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Media a Persia? 3 Oherwydd roedd Mordecai yr Iddew yn ail i’r brenin yn unig. Roedd wedi ennill parch yr Iddewon a’i frodyr i gyd, roedd yn gweithio er lles ei bobl, ac yn ceisio heddwch ar gyfer eu disgynyddion i gyd.