LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Samuel 24
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Samuel

      • Dafydd yn pechu drwy wneud cyfrifiad (1-14)

      • Pla yn lladd 70,000 (15-17)

      • Dafydd yn adeiladu allor (18-25)

        • Dim aberth heb gost (24)

2 Samuel 24:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “i’r de.”

  • *

    Neu “wadi.”

2 Samuel 24:10

Troednodiadau

  • *

    Neu “dyma gydwybod.”

2 Samuel 24:16

Troednodiadau

  • *

    Neu “dechreuodd Jehofa alaru am ei fod wedi.”

2 Samuel 24:24

Troednodiadau

  • *

    Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    7/2022, t. 7

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Samuel 24:1-25

Ail Samuel

24 Unwaith eto, gwylltiodd Jehofa yn lân ag Israel, am fod Dafydd wedi cael ei gymell i droi yn eu herbyn nhw pan ddywedodd: “Dos i gyfri Israel a Jwda.” 2 Felly dywedodd y brenin wrth Joab, pennaeth byddin Israel: “Plîs dos drwy holl lwythau Israel, o Dan i Beer-seba, a chofrestru’r bobl, er mwyn imi gael gwybod nifer y bobl.” 3 Ond dywedodd Joab wrth y brenin: “Gad i Jehofa dy Dduw luosogi’r bobl ganwaith, a gad i lygaid fy arglwydd y brenin weld hynny’n digwydd. Ond pam rwyt ti, fy arglwydd y brenin, eisiau gwneud y fath beth?”

4 Ond gwrthododd y brenin wrando ar Joab a swyddogion y fyddin. Felly dyma Joab a swyddogion y fyddin yn gadael y brenin er mwyn mynd i gofrestru pobl Israel. 5 Dyma nhw’n croesi’r Iorddonen ac yn gwersylla yn Aroer, i’r dde* o’r ddinas ynghanol y dyffryn,* ac aethon nhw i gyfeiriad y Gadiaid, ac ymlaen i Jaser. 6 Ar ôl hynny, aethon nhw ymlaen i Gilead a gwlad Tahtim-hodsi a mynd yn eu blaenau i Dan-jaan, a mynd o gwmpas i Sidon. 7 Yna aethon nhw i gaer Tyrus a holl ddinasoedd yr Hefiaid a’r Canaaneaid, ac yn y pen draw daethon nhw i Negef Jwda yn Beer-seba. 8 Felly aethon nhw drwy’r wlad i gyd a dod i Jerwsalem ar ddiwedd naw mis ac 20 diwrnod. 9 Nawr dyma Joab yn rhoi gwybod i’r brenin faint o bobl oedd wedi cael eu cofrestru. Roedd gan Israel 800,000 o filwyr wedi eu harfogi â chleddyfau, ac roedd ’na 500,000 o ddynion Jwda.

10 Ond dyma galon* Dafydd yn ei gondemnio ar ôl iddo gyfri’r bobl. Yna dywedodd Dafydd wrth Jehofa: “Rydw i wedi pechu’n ofnadwy drwy wneud hyn. Ac nawr, Jehofa, plîs maddeua i dy was am fy nghamgymeriad, oherwydd rydw i wedi ymddwyn yn ffôl iawn.” 11 Pan gododd Dafydd yn y bore, daeth gair Jehofa i Gad y proffwyd, gweledydd Dafydd, yn dweud: 12 “Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: “Rydw i’n rhoi tri opsiwn iti. Dewisa un ohonyn nhw, a bydda i’n dod â hwnnw arnat ti.”’” 13 Felly daeth Gad at Dafydd a dweud wrtho: “A ddylai saith mlynedd o newyn ddod ar dy wlad? Neu a ddylet ti ffoi am dri mis oddi wrth dy elynion tra eu bod nhw’n dod ar dy ôl di? Neu a ddylai pla daro dy wlad am dri diwrnod? Nawr meddylia yn ofalus am sut dylwn i ateb yr Un wnaeth fy anfon i.” 14 Felly dywedodd Dafydd wrth Gad: “Rydw i’n poeni’n arw am hyn. Plîs gad inni syrthio i law Jehofa, oherwydd mae ei drugaredd yn fawr, ond paid â gadael imi syrthio i law dyn.”

15 Yna anfonodd Jehofa bla ar Israel a barhaodd o’r bore hyd yr amser penodedig, nes bod 70,000 o bobl o Dan i Beer-seba wedi marw. 16 Pan estynnodd yr angel ei law tuag at Jerwsalem i’w dinistrio, dechreuodd Jehofa ddifaru* anfon y pla, a dywedodd wrth yr angel oedd yn dod â dinistr ymysg y bobl: “Dyna ddigon! Nawr tynna dy law yn ôl.” Roedd angel Jehofa yn agos at lawr dyrnu Arafna y Jebusiad.

17 Pan welodd Dafydd yr angel oedd yn taro’r bobl i lawr, dywedodd wrth Jehofa: “Fi ydy’r un wnaeth bechu, a fi ydy’r un sydd wedi gwneud drwg. Ond beth am y defaid hyn—beth maen nhw wedi ei wneud? Plîs gad i dy law ddod yn fy erbyn i ac yn erbyn tŷ fy nhad.”

18 Felly daeth Gad at Dafydd ar y diwrnod hwnnw, a dweud wrtho: “Dos i fyny a chodi allor i Jehofa ar lawr dyrnu Arafna y Jebusiad.” 19 Felly aeth Dafydd i fyny yno fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo trwy Gad. 20 Pan edrychodd Arafna i lawr a gweld y brenin a’i weision yn dod tuag ato, aeth allan ar unwaith ac ymgrymu o flaen y brenin â’i wyneb ar lawr. 21 Gofynnodd Arafna: “Pam mae fy arglwydd y brenin wedi dod at ei was?” Atebodd Dafydd: “Er mwyn prynu’r llawr dyrnu oddi wrthot ti, i adeiladu allor i Jehofa, er mwyn stopio’r pla yn erbyn y bobl.” 22 Ond dywedodd Arafna wrth Dafydd: “Gad i fy arglwydd y brenin ei gymryd am ddim, ac offrymu beth bynnag sy’n dda yn ei olwg. Dyma wartheg ar gyfer yr offrwm llosg, a chei di ddefnyddio pren y sled ddyrnu ac iau y gwartheg ar gyfer coed tân. 23 Rydw i’n rhoi hyn i gyd iti, O frenin.” Yna dywedodd Arafna wrth y brenin: “Bendith Jehofa arnat ti.”

24 Ond dywedodd y brenin wrth Arafna: “Na, mae’n rhaid imi ei brynu oddi wrthot ti am bris. Wna i ddim cynnig aberthau llosg i Jehofa fy Nuw nad oedd yn costio unrhyw beth imi.” Felly dyma Dafydd yn prynu’r llawr dyrnu a’r gwartheg am 50 sicl* o arian. 25 Ac adeiladodd Dafydd allor yno i Jehofa, ac offrymu aberthau llosg ac aberthau heddwch. Yna, gwrandawodd Jehofa ar erfyniad Dafydd dros y wlad, a daeth y pla yn erbyn Israel i ben.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu