At y Galatiaid
1 Paul, apostol, nid o ddynion na thrwy ddyn, ond drwy Iesu Grist a Duw y Tad, a wnaeth ei godi ef o’r meirw, 2 a’r holl frodyr gyda mi, at gynulleidfaoedd Galatia:
3 Rydyn ni’n dymuno ichi gael caredigrwydd rhyfeddol a heddwch oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. 4 Fe wnaeth ef ei roi ei hun dros ein pechodau er mwyn iddo ein hachub ni rhag y system ddrwg* bresennol, yn ôl ewyllys ein Duw a’n Tad. 5 Rhowch ogoniant i Dduw am byth bythoedd. Amen.
6 Rydw i’n rhyfeddu eich bod chi mor gyflym i gefnu ar yr Un sydd wedi eich galw chi drwy garedigrwydd rhyfeddol Crist a’ch bod chi’n troi at fath arall o newyddion da. 7 Does ’na ddim math arall o newyddion da; ond mae ’na rai sy’n achosi trwbl ichi ac eisiau gwyrdroi’r newyddion da am y Crist. 8 Fodd bynnag, hyd yn oed petai un ohonon ni neu angel o’r nef yn cyhoeddi newyddion da ichi sydd y tu hwnt i’r newyddion da rydyn ni wedi eu cyhoeddi ichi, melltith arno. 9 Fel rydyn ni wedi dweud o’r blaen, rydw i’n dweud eto: Os oes rhywun yn cyhoeddi newyddion da ichi sydd y tu hwnt i’r hyn a dderbynioch chi, melltith arno.
10 Yn wir, ydw i nawr yn ceisio cymeradwyaeth dynion neu Dduw? Neu ydw i’n ceisio plesio dynion? Petaswn i’n dal i blesio dynion, ni fyddwn i’n was i Grist. 11 Oherwydd rydw i eisiau ichi wybod, frodyr, nad ydy’r newyddion da rydw i wedi eu cyhoeddi ichi yn tarddu o ddynion; 12 oherwydd ni dderbyniais i’r newyddion da oddi wrth ddyn, ac nid dyn wnaeth fy nysgu, ond fe ges i’r newyddion da drwy ddatguddiad gan Iesu Grist ei hun.
13 Wrth gwrs, rydych chi wedi clywed am fy ymddygiad gynt yn y grefydd Iddewig, fy mod i wedi erlid cynulleidfa Duw yn y ffordd fwyaf creulon ac achosi difrod iddi; 14 ac roeddwn i’n gwneud mwy o gynnydd yn y grefydd Iddewig na llawer o’r un oedran â mi yn fy nghenedl, ac roeddwn i’n llawer mwy selog dros draddodiadau fy nhadau. 15 Pan wnaeth Duw, sydd wedi achosi imi gael fy ngeni* ac sydd wedi fy ngalw i drwy ei garedigrwydd rhyfeddol, weld yn dda 16 i ddatguddio ei Fab drwyddo i fel y galla i gyhoeddi’r newyddion da amdano i’r cenhedloedd, wnes i ddim mynd ar unwaith i ofyn cyngor person arall;* 17 ac ni wnes i fynd chwaith i fyny i Jerwsalem at y rhai a oedd yn apostolion cyn imi fod yn un, ond i Arabia yr es i, ac yna yn ôl i Ddamascus.
18 Yna, dair blynedd yn ddiweddarach, fe wnes i fynd i Jerwsalem i ymweld â Ceffas,* ac aros gydag ef am 15 diwrnod. 19 Ond wnes i ddim gweld neb arall o’r apostolion, dim ond Iago, brawd yr Arglwydd. 20 Nawr, ynglŷn â’r pethau rydw i’n eu hysgrifennu atoch chi, rydw i’n dweud wrthoch chi o flaen Duw nad ydw i’n dweud celwydd.
21 Ar ôl hynny fe wnes i fynd i ardaloedd Syria a Cilicia. 22 Ond doedd cynulleidfaoedd Cristnogol Jwdea ddim yn fy adnabod i yn bersonol. 23 Roedden nhw ond yn clywed: “Mae’r dyn a oedd yn ein herlid ni gynt, bellach yn cyhoeddi’r newyddion da am y ffydd roedd ef yn ceisio ei dinistrio o’r blaen.” 24 Felly dyma nhw’n dechrau gogoneddu Duw oherwydd yr hyn a ddigwyddodd i mi.