Datguddiad i Ioan
15 Ac fe welais yn y nef arwydd arall, un mawr a rhyfeddol, saith angel â saith pla. Y rhain ydy’r rhai olaf, oherwydd trwyddyn nhw y bydd llid Duw yn dod i’w derfyn.
2 Ac fe welais rywbeth yn debyg i fôr o wydr wedi ei gymysgu â thân, ac roedd y rhai sy’n gorchfygu’r bwystfil gwyllt a’i ddelw a rhif ei enw yn sefyll wrth y môr o wydr, yn dal telynau Duw. 3 Roedden nhw’n canu cân Moses, caethwas Duw, a chân yr Oen, gan ddweud:
“Mawr a rhyfeddol ydy dy weithredoedd, Jehofa Dduw, yr Hollalluog. Cyfiawn a gwir ydy dy ffyrdd, Frenin tragwyddoldeb. 4 Pwy na fydd yn dy ofni di, Jehofa, ac yn gogoneddu dy enw, oherwydd ti yn unig sy’n ffyddlon? Oherwydd bydd yr holl genhedloedd yn dod ac yn addoli o dy flaen di, am fod dy orchmynion cyfiawn wedi cael eu datgelu.”
5 Ar ôl hyn, fe welais gysegr pabell y dystiolaeth yn cael ei agor yn y nef, 6 a daeth y saith angel â’r saith pla allan o’r cysegr, wedi eu gwisgo â lliain glân disglair a sash aur wedi ei lapio o amgylch eu bron. 7 Rhoddodd un o’r pedwar creadur byw saith powlen aur i’r saith angel, powlenni a oedd yn llawn dicter Duw, sy’n byw am byth bythoedd. 8 Ac fe gafodd y cysegr ei lenwi â mwg oherwydd gogoniant Duw ac oherwydd ei rym, a doedd neb yn gallu mynd i mewn i’r cysegr nes i saith pla’r saith angel gael eu cwblhau.