Yn Ôl Luc
16 Yna dywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion: “Roedd gan ddyn cyfoethog reolwr tŷ* a gafodd ei gyhuddo o wastraffu ei eiddo. 2 Felly galwodd ef ato a dweud, ‘Beth rydw i’n ei glywed amdanat ti? Dos i ysgrifennu adroddiad am sut rwyt ti wedi defnyddio fy arian, oherwydd dwyt ti ddim yn cael rheoli’r tŷ bellach.’ 3 Yna dywedodd rheolwr y tŷ wrtho’i hun, ‘Beth ddylwn i ei wneud, gan fod fy meistr yn cymryd y gwaith o reoli’r tŷ oddi arna i? Dydw i ddim yn ddigon cryf i gloddio, a byddwn i’n teimlo cywilydd yn begian. 4 A! Rydw i’n gwybod beth wna i, fel y bydd pobl yn fy nghroesawu i’w cartrefi pan fydd y gwaith o reoli’r tŷ yn cael ei gymryd oddi arna i.’ 5 A galwodd ato bawb a oedd mewn dyled i’w feistr, a dywedodd wrth yr un cyntaf, ‘Faint sydd ei angen iti dalu yn ôl i fy meistr?’ 6 Atebodd ef, ‘Can mesur* o olew olewydd.’ Dywedodd ef wrtho, ‘Cymera dy gytundeb yn ôl ac eistedda ac ysgrifenna 50 yn gyflym.’ 7 Nesaf, dywedodd wrth un arall, ‘Tithau, faint sydd angen iti ei dalu?’ Dywedodd ef, ‘Can mesur mawr* o wenith.’ Dywedodd wrtho, ‘Cymera dy gytundeb yn ôl ac ysgrifenna 80.’ 8 A dyma ei feistr yn canmol rheolwr y tŷ, er ei fod yn anghyfiawn, oherwydd iddo ddefnyddio doethineb ymarferol;* oherwydd mae meibion y system hon* yn fwy doeth mewn ffordd ymarferol tuag at eu cenhedlaeth eu hunain nag y mae meibion y goleuni.
9 “Hefyd, rydw i’n dweud wrthoch chi: Gwnewch ffrindiau drwy ddefnyddio cyfoeth anghyfiawn, yna pan fydd y cyfoeth hwnnw’n darfod, byddan nhw’n eich croesawu chi i’r cartrefi tragwyddol. 10 Mae’r person sy’n ffyddlon yn y pethau lleiaf yn ffyddlon yn y pethau mawr hefyd, ac mae’r person sy’n anghyfiawn yn y pethau lleiaf yn anghyfiawn yn y pethau mawr hefyd. 11 Felly, os nad ydych chi wedi profi eich bod chi’n ffyddlon ynglŷn â chyfoeth anghyfiawn, pwy fydd yn eich trystio chi â’r hyn sy’n wir? 12 Ac os nad ydych chi wedi eich profi eich hunain yn ffyddlon ynglŷn â’r hyn sy’n perthyn i rywun arall, pwy fydd yn rhoi ichi yr hyn sydd wedi cael ei neilltuo ar eich cyfer? 13 Does yr un gwas yn gallu bod yn gaethwas i ddau feistr, oherwydd bydd naill ai’n casáu un ac yn caru’r llall, neu’n ffyddlon i un ac yn dirmygu’r llall. Ni allwch chi fod yn gaethweision i Dduw ac i Gyfoeth.”
14 Nawr roedd y Phariseaid, a oedd yn caru arian, yn gwrando ar hyn i gyd, a dechreuon nhw wneud hwyl am ei ben. 15 Felly dywedodd wrthyn nhw: “Chi ydy’r rhai sy’n cyhoeddi eich bod chi’n gyfiawn o flaen dynion, ond mae Duw yn adnabod eich calonnau. Oherwydd mae’r hyn mae dynion yn ei ystyried yn bwysig yn afiach yng ngolwg Duw.
16 “Roedd y Gyfraith a’r Proffwydi’n cael eu cyhoeddi nes i Ioan gyrraedd. O hynny ymlaen, mae Teyrnas Dduw yn cael ei chyhoeddi fel newyddion da, ac mae pob math o bobl yn anelu’n ddyfal tuag ati hi. 17 Yn wir, mae’n haws i nefoedd a daear ddiflannu nag i un rhan fechan o lythyren o’r Gyfraith fynd heb gael ei chyflawni.
18 “Mae pob un sy’n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall yn godinebu, ac mae pwy bynnag sy’n priodi dynes* sydd wedi cael ei hysgaru gan ei gŵr yn godinebu.
19 “Roedd ’na ddyn cyfoethog, a oedd yn arfer gwisgo porffor a lliain main, yn ei fwynhau ei hun ddydd ar ôl dydd mewn ysblander. 20 Ond roedd ’na gardotyn o’r enw Lasarus a oedd yn cael ei osod wrth ei giât, ac wlserau dros ei gorff i gyd, 21 ac roedd eisiau bwyta pethau a oedd yn disgyn o fwrdd y dyn cyfoethog. Yn wir, byddai hyd yn oed y cŵn yn dod ac yn llyfu ei wlserau. 22 Yn y diwedd, bu farw’r cardotyn a chafodd ei gario i ffwrdd gan yr angylion i fod wrth ochr Abraham.
“Hefyd, bu farw’r dyn cyfoethog a chafodd ei gladdu. 23 Ac yn y Bedd* dyma’n codi ei lygaid, ac yntau mewn poen enbyd, a gwelodd ef Abraham o bell a Lasarus wrth ei ochr. 24 Felly galwodd a dweud, ‘Fy nhad Abraham, bydda’n drugarog wrtho i, ac anfona Lasarus i roi blaen ei fys mewn dŵr ac oeri fy nhafod, oherwydd rydw i mewn poen ofnadwy yn y tân fflamllyd yma.’ 25 Ond dywedodd Abraham, ‘Fy mhlentyn, cofia dy fod ti wedi cael digonedd o bethau da yn ystod dy fywyd, ond fe gafodd Lasarus bethau drwg. Ond nawr, mae ef yn cael ei gysuro yma, ond rwyt ti mewn poen ofnadwy. 26 Ac ar ben hyn i gyd, mae bwlch anferth wedi cael ei osod rhyngoch chi a ni, fel nad ydy’r rhai sydd eisiau mynd drosodd o fan hyn atoch chi yn gallu, a dydy pobl ddim yn gallu croesi oddi yno aton ni.’ 27 Yna dywedodd ef, ‘Os felly, rydw i’n gofyn wrthot ti, dad, i’w anfon at dŷ fy nhad, 28 oherwydd mae gen i bum brawd, er mwyn iddo allu rhoi tystiolaeth drylwyr iddyn nhw fel na fyddan nhwthau hefyd yn dod i mewn i’r lle hwn o boen enbyd.’ 29 Ond dywedodd Abraham, ‘Mae ganddyn nhw Moses a’r Proffwydi; gad iddyn nhw wrando arnyn nhw.’ 30 Yna dywedodd ef, ‘Nage, yn wir, fy nhad Abraham, ond petai rhywun o’r meirw yn mynd atyn nhw, byddan nhw’n edifarhau.’ 31 Ond dywedodd ef wrtho, ‘Os nad ydyn nhw’n gwrando ar Moses a’r Proffwydi, fyddan nhw ddim yn cael eu perswadio petai rhywun yn codi o’r meirw chwaith.’”