Lefiticus
27 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 2 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Os bydd dyn yn tyngu llw arbennig i gyflwyno gwerth person i Jehofa, 3 bydd gwerth dyn sydd rhwng 20 a 60 mlwydd oed yn 50 sicl* arian yn ôl sicl y lle sanctaidd.* 4 Ond bydd gwerth dynes* o’r un oedran yn 30 sicl. 5 Os ydy’r person rhwng 5 ac 20 mlwydd oed, bydd gwerth bachgen yn 20 sicl a gwerth merch yn 10 sicl. 6 Os ydy’r person rhwng un mis a phum mlwydd oed, bydd gwerth bachgen yn bum sicl arian a gwerth merch yn dri sicl arian.
7 “‘Os ydy’r person yn 60 mlwydd oed neu’n hŷn, bydd gwerth dyn yn 15 sicl a gwerth dynes* yn 10 sicl. 8 Ond os ydy’r dyn a wnaeth dyngu’r llw yn rhy dlawd i dalu’r pris arferol, dylai’r person fynd i sefyll o flaen yr offeiriad, a bydd yr offeiriad yn gosod gwerth arno. Bydd yr offeiriad yn penderfynu ei werth yn ôl yr hyn mae’r un sy’n tyngu’r llw yn gallu ei fforddio.
9 “‘Os bydd y llw yn ymwneud ag anifail sy’n addas ar gyfer cael ei offrymu i Jehofa, bydd yr anifail hwnnw yn sanctaidd i Jehofa. 10 Ni ddylai’r dyn ei gyfnewid na rhoi anifail da yn lle un gwael, neu un gwael yn lle un da. Ond os bydd yn cyfnewid un anifail am un arall, bydd y ddau anifail yn sanctaidd. 11 Os bydd y llw yn ymwneud ag anifail aflan sydd ddim yn addas ar gyfer cael ei offrymu i Jehofa, bydd y dyn yn gosod yr anifail o flaen yr offeiriad. 12 Yna bydd yr offeiriad yn gosod gwerth arno gan ystyried a yw’n dda neu’n wael. Beth bynnag bydd yr offeiriad yn ei benderfynu, dyna fydd ei werth. 13 Ond os bydd ef eisiau ei brynu yn ôl, bydd rhaid iddo ychwanegu pumed at ei werth.
14 “‘Nawr os bydd dyn yn sancteiddio ei dŷ, ac yn ei offrymu fel rhywbeth sanctaidd i Jehofa, bydd yr offeiriad yn gosod gwerth arno gan ystyried a yw’n dda neu’n wael. Beth bynnag bydd yr offeiriad yn ei benderfynu, dyna fydd ei werth. 15 Ond os bydd yr un sy’n sancteiddio ei dŷ eisiau ei brynu yn ôl, bydd rhaid iddo ychwanegu pumed at ei werth, a bydd y tŷ yn eiddo iddo.
16 “‘Os bydd dyn yn sancteiddio rhan o’i dir i Jehofa, bydd y gwerth yn cyfateb i’r hadau sydd eu hangen ar gyfer ei hau: bydd mesur homer* o hadau haidd yn 50 sicl arian. 17 Os bydd ef yn sancteiddio ei dir yn ystod blwyddyn Jiwbilî, bydd ei werth yn sefyll. 18 Os bydd ef yn sancteiddio ei dir ar ôl y Jiwbilî, bydd yr offeiriad yn cyfrifo’r pris yn ôl faint o flynyddoedd sydd ar ôl tan y flwyddyn Jiwbilî nesaf, ac yn tynnu hynny i ffwrdd o’i werth. 19 Ond os bydd y dyn a wnaeth ei sancteiddio eisiau ei brynu yn ôl, bydd rhaid iddo ychwanegu pumed at ei werth, a bydd yn eiddo iddo. 20 Nawr os nad yw’n prynu’r tir yn ôl, ac mae’r tir yn cael ei werthu i rywun arall, ni fydd yn cael ei brynu yn ôl. 21 Pan fydd y tir yn cael ei ryddhau yn y Jiwbilî, fe fydd yn rhywbeth sanctaidd i Jehofa, tir sydd wedi cael ei osod ar wahân iddo. Fe fydd yn eiddo i’r offeiriaid.
22 “‘Os bydd dyn yn prynu cae sydd ddim yn rhan o’i etifeddiaeth ac yn ei sancteiddio i Jehofa, 23 bydd yr offeiriad yn cyfrifo ei werth yn ôl faint o flynyddoedd sydd ar ôl tan y flwyddyn Jiwbilî nesaf, a bydd rhaid iddo dalu’r pris hwnnw ar yr un diwrnod. Mae’n rhywbeth sanctaidd i Jehofa. 24 Ym mlwyddyn y Jiwbilî, bydd y cae yn mynd yn ôl i’w berchennog gwreiddiol.
25 “‘Dylai pob gwerth gael ei benderfynu yn ôl sicl y lle sanctaidd.* Dylai’r sicl fod yn gyfartal ag 20 gera.*
26 “‘Ond, ni ddylai neb sancteiddio anifeiliaid cyntaf-anedig, oherwydd mae’r anifeiliaid cyntaf-anedig yn perthyn i Jehofa yn barod. P’un a yw’n darw neu’n ddafad, mae’n perthyn i Jehofa yn barod. 27 Os yw’n anifail aflan, ac mae’r perchennog gwreiddiol yn ei brynu yn ôl, fe ddylai ychwanegu pumed at ei werth. Ond os nad yw’n ei brynu yn ôl, bydd yr anifail yn cael ei werthu yn ôl ei werth.
28 “‘Ni fydd yn bosib gwerthu na phrynu yn ôl unrhyw beth sydd wedi cael ei osod ar wahân i Jehofa am byth, p’un a yw’n berson neu’n anifail neu’n dir. Mae pob peth sydd wedi cael ei osod ar wahân yn rhywbeth sanctaidd iawn i Jehofa. 29 Ar ben hynny, ni fydd hi’n bosib prynu yn ôl unrhyw un sydd wedi cael ei gondemnio i farwolaeth. Dylai gael ei roi i farwolaeth heb os.
30 “‘Mae pob degfed ran* o’r tir yn perthyn i Jehofa, p’un a yw’n gynnyrch y tir neu’n ffrwyth y coed, mae’n rhywbeth sanctaidd i Jehofa. 31 Os bydd dyn eisiau prynu rhywfaint o’i ddegfed ran yn ôl, fe ddylai ychwanegu pumed o’i gwerth ati. 32 Ynglŷn â’r ddegfed ran o’r gwartheg, y defaid, a’r geifr, popeth sy’n pasio o dan ffon y bugail, dylai’r degfed anifail fod yn rhywbeth sanctaidd i Jehofa. 33 Ni ddylai asesu a yw’n dda neu’n wael, na’i gyfnewid am anifail arall. Ond os bydd yn ceisio ei gyfnewid, bydd y ddau anifail yn sanctaidd. Ni fydd yn bosib eu prynu nhw’n ôl.’”
34 Dyna’r gorchmynion a roddodd Jehofa i Moses ar gyfer yr Israeliaid ar Fynydd Sinai.