Lefiticus
13 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses ac Aaron, gan ddweud: 2 “Os bydd dyn yn datblygu chwydd, crachen, neu smotyn ar ei groen a allai droi’n wahanglwyf,* yna bydd rhaid iddo fynd at Aaron yr offeiriad, neu at un o’i feibion, yr offeiriaid. 3 Bydd yr offeiriad yn asesu’r haint ar ei groen. Os bydd y blew yn yr haint wedi troi’n wyn, ac os bydd yr haint yn ymddangos yn ddyfnach na’r croen, yna mae’r gwahanglwyf arno. Bydd yr offeiriad yn ei asesu ac yn ei gyhoeddi’n aflan. 4 Ond os bydd y smotyn ar ei groen yn wyn, ac os nad yw’n ymddangos yn ddyfnach na’r croen a’r blew heb droi’n wyn, yna bydd yr offeiriad yn ynysu’r person heintus am saith diwrnod. 5 Bydd yr offeiriad yn ei asesu ar y seithfed diwrnod, ac os yw’n edrych fel bod yr haint wedi stopio, ac os nad yw’r haint wedi lledaenu ar y croen, bydd yr offeiriad yn ei ynysu am saith diwrnod arall.
6 “Dylai’r offeiriad ei asesu unwaith eto ar y seithfed diwrnod, ac os ydy’r haint wedi dechrau diflannu, ac os nad yw’r haint wedi lledaenu ar y croen, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n lân; dim ond crachen oedd ar y croen. Bydd y dyn hwnnw’n golchi ei ddillad ac fe fydd yn lân. 7 Ond os ydy’r grachen* yn bendant wedi lledaenu ar y croen ers i’r dyn fynd o flaen yr offeiriad er mwyn dechrau ei buredigaeth, yna bydd rhaid iddo fynd o flaen yr offeiriad unwaith eto. 8 Bydd yr offeiriad yn ei asesu, ac os ydy’r grachen wedi lledaenu ar y croen, yna bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n aflan. Mae’r gwahanglwyf arno.
9 “Os bydd y gwahanglwyf yn datblygu ar rywun, yna bydd rhaid iddo fynd at yr offeiriad, 10 a bydd yr offeiriad yn ei asesu. Os oes ’na chwydd gwyn ar y croen, ac os ydy’r blew wedi troi’n wyn, ac os oes ’na ddolur agored yn y chwydd, 11 yna mae gwahanglwyf cronig ar ei groen, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n aflan. Ni ddylai ei ynysu er mwyn ei asesu ymhellach, gan ei fod yn aflan. 12 Nawr os ydy’r gwahanglwyf yn datblygu dros ei gorff i gyd, ac mae’r offeiriad yn gweld bod y gwahanglwyf yn ei orchuddio o’i gorun i’w sawdl, 13 a bod y gwahanglwyf wedi gorchuddio’i groen i gyd, yna ar ôl ei asesu fe fydd yn cyhoeddi’r person heintus yn lân. Os bydd ei groen i gyd wedi troi’n wyn, yna mae’n lân. 14 Ond bryd bynnag bydd dolur agored yn ymddangos ar ei groen, bydd ef yn aflan. 15 Pan fydd yr offeiriad yn gweld y dolur agored, fe fydd yn ei gyhoeddi’n aflan. Mae’r dolur agored yn aflan. Mae’r gwahanglwyf arno. 16 Ond os bydd y dolur agored yn troi’n wyn unwaith eto, yna fe fydd yn mynd at yr offeiriad. 17 Bydd yr offeiriad yn ei asesu, ac os bydd yr haint wedi troi’n wyn, yna bydd yr offeiriad yn cyhoeddi’r person heintus yn lân. Mae ef yn lân.
18 “Os bydd rhywun yn datblygu cornwyd ar ei groen ac mae’n gwella, 19 ond yna mae chwydd gwyn neu smotyn gwyngoch yn datblygu yn yr un lle â’r cornwyd hwnnw, bydd rhaid iddo fynd at yr offeiriad. 20 Bydd yr offeiriad yn asesu’r smotyn, ac os yw’n ymddangos ei fod yn ddyfnach na’r croen a’r blew wedi troi’n wyn, yna bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n aflan. Mae’r gwahanglwyf wedi datblygu yn y cornwyd. 21 Ond os bydd yr offeiriad yn ei asesu ac yn gweld nad oes blew gwyn yn y smotyn, ac nad yw’n ddyfnach na’r croen, ac os bydd yn gweld ei fod yn dechrau diflannu, yna bydd yr offeiriad yn ei ynysu am saith diwrnod. 22 Ac os yw’n amlwg wedi lledaenu ar y croen, yna bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n aflan. Mae’r gwahanglwyf arno. 23 Ond os bydd y smotyn yn aros yn yr un lle heb ledaenu, dim ond llid y cornwyd sydd yna, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n lân.
24 “Neu os bydd rhywun yn llosgi ei groen ac yna mae’r anaf yn troi’n smotyn gwyn neu’n smotyn gwyngoch, 25 bydd yr offeiriad yn ei asesu. Os ydy’r blew yn y smotyn wedi troi’n wyn ac mae’n ymddangos bod y smotyn yn ddyfnach na’r croen, y gwahanglwyf sydd wedi datblygu yn yr anaf, a bydd yr offeiriad yn cyhoeddi’r person hwnnw’n aflan. Mae’r gwahanglwyf arno. 26 Ond os ydy’r offeiriad yn ei asesu ac yn gweld nad oes blew gwyn yn y smotyn, ac nad yw’n ddyfnach na’r croen, ac os yw’n gweld ei fod yn dechrau diflannu, yna bydd yr offeiriad yn ei ynysu am saith diwrnod. 27 Bydd yr offeiriad yn ei asesu ar y seithfed diwrnod, ac os yw’n amlwg wedi lledaenu ar y croen, yna bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n aflan. Mae’r gwahanglwyf arno. 28 Ond os ydy’r smotyn yn aros yn yr un lle, ac yn dechrau diflannu, ac os nad yw’n lledaenu dros y croen, dim ond chwydd yr anaf sydd yna, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n lân, oherwydd dim ond llid yr anaf sydd yno.
29 “Os bydd dyn neu ddynes* yn datblygu haint ar y pen neu ar yr ên, 30 yna bydd yr offeiriad yn asesu’r haint. Os yw’n ymddangos ei fod yn ddyfnach na’r croen ac mae’r blew yn felyn ac yn denau, yna bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n aflan; mae’n haint croen y pen neu’r farf. Mae’n wahanglwyf croen y pen neu’r ên. 31 Ond os ydy’r offeiriad yn gweld nad ydy’r haint yn ymddangos yn ddyfnach na’r croen a does dim blew du yno, dylai’r offeiriad ynysu’r person heintus am saith diwrnod. 32 Bydd yr offeiriad yn asesu’r haint ar y seithfed diwrnod, ac os nad ydy’r haint wedi lledaenu nac yn ymddangos yn ddyfnach na’r croen, ac os nad oes blew melyn wedi ymddangos yno, 33 dylai’r person siafio ei ben a’i ên, ond ni ddylai siafio’r rhan sydd wedi ei heintio. Yna bydd yr offeiriad yn ynysu’r person heintus am saith diwrnod.
34 “Bydd yr offeiriad yn asesu’r haint unwaith eto ar y seithfed diwrnod, ac os nad ydy’r haint ar groen y pen a’r farf wedi lledaenu, ac os nad yw’n ymddangos yn ddyfnach na’r croen, yna bydd yr offeiriad yn cyhoeddi’r person hwnnw’n lân, a dylai olchi ei ddillad ac yna fe fydd yn lân. 35 Ond os ydy’r haint yn amlwg wedi lledaenu ar y croen ar ôl ei buredigaeth, 36 bydd yr offeiriad yn ei asesu, ac os ydy’r haint wedi lledaenu ar y croen, ni fydd angen i’r offeiriad edrych am flew melyn; mae’r person hwnnw’n aflan. 37 Ond os ar ôl asesiad mae’n ymddangos nad ydy’r haint wedi lledaenu, ac mae blew du yn tyfu yno, mae’r haint wedi gwella. Mae ef yn lân, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n lân.
38 “Os ydy smotiau’n datblygu ar groen dyn neu ddynes,* ac mae’r smotiau’n wyn, 39 bydd yr offeiriad yn eu hasesu. Os bydd y smotiau’n wyn golau, dim ond brech ddiniwed sydd wedi torri allan ar y croen. Mae’r person hwnnw’n lân.
40 “Os bydd dyn yn colli gwallt ei ben ac yn mynd yn foel, mae ef yn lân. 41 Os bydd yn colli ei wallt ar flaen ei ben fel bod y rhan honno o’i ben yn foel, mae ef yn lân. 42 Ond os bydd dolur gwyngoch yn datblygu ar ran foel ei ben neu ar ei dalcen, mae’r gwahanglwyf wedi datblygu yno. 43 Bydd yr offeiriad yn ei asesu, ac os yw’n gweld bod ’na chwydd gwyngoch sy’n edrych fel y gwahanglwyf ar dop ei ben neu ar ei dalcen, 44 mae’r gwahanglwyf arno. Mae ef yn aflan, a dylai’r offeiriad ei gyhoeddi’n aflan oherwydd yr afiechyd sydd ar ei ben. 45 Ynglŷn â’r gwahanglaf sydd â’r afiechyd, dylai ei ddillad gael eu rhwygo, ac mae’n rhaid iddo adael i’w wallt fynd yn flêr, a dylai orchuddio ei fwstash a gweiddi, ‘Aflan, aflan!’ 46 Bydd yn aflan yr holl amser mae’r afiechyd arno. Gan ei fod yn aflan, bydd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb. Fe fydd yn byw y tu allan i’r gwersyll.
47 “Os bydd y gwahanglwyf yn heintio dilledyn, naill ai dilledyn gwlân neu liain, 48 yng ngwead brethyn gwlân neu liain, neu os yw’r haint ar groen neu unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen, 49 ac os yw staen melynwyrdd neu gochlyd yr afiechyd yn heintio’r dilledyn, y croen, gwead y brethyn, neu unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen, mae wedi ei heintio â’r gwahanglwyf, a dylai gael ei ddangos i’r offeiriad. 50 Bydd yr offeiriad yn asesu’r haint, a bydd rhaid iddo gadw unrhyw beth sydd wedi ei heintio ar wahân am saith diwrnod. 51 Bydd ef yn asesu’r haint ar y seithfed diwrnod ac os bydd yn gweld ei fod wedi lledaenu yn y dilledyn, yng ngwead y brethyn, neu ar groen (ni waeth sut mae’r croen yn cael ei ddefnyddio), mae’r gwahanglwyf yn un heintus, ac mae’n aflan. 52 Dylai losgi unrhyw beth mae’r afiechyd wedi datblygu ynddo, naill ai dilledyn, brethyn gwlân neu liain, neu unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen, gan ei fod yn wahanglwyf heintus. Dylai gael ei losgi yn y tân.
53 “Ond os bydd yr offeiriad yn ei asesu ac yn gweld bod yr haint heb ledaenu yn y dilledyn nac yng ngwead y brethyn nac ar unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen, 54 yna bydd yr offeiriad yn gorchymyn bod unrhyw beth sydd wedi ei heintio yn cael ei olchi, ac yna fe fydd yn ei gadw ar wahân am saith diwrnod arall. 55 Yna bydd yr offeiriad yn asesu’r peth sydd wedi cael ei heintio ar ôl iddo gael ei olchi’n drylwyr. Os nad ydy’r haint i’w weld wedi newid, hyd yn oed os nad ydy’r haint wedi lledaenu, mae’n aflan. Dylet ti ei losgi yn y tân am ei fod wedi pydru ar y tu mewn neu ar y tu allan.
56 “Ond os ydy’r offeiriad wedi ei asesu ac mae’r rhan sydd wedi ei heintio wedi colli ei lliw ar ôl cael ei golchi’n drylwyr, yna fe fydd yn ei rhwygo allan o’r dilledyn, o’r croen, neu o wead y brethyn. 57 Er hynny, os yw’n dal i ymddangos mewn rhan arall o’r dilledyn neu yng ngwead y brethyn neu ar unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen, mae’n lledaenu, a dylet ti losgi unrhyw beth sydd wedi cael ei heintio yn y tân. 58 Ond pan fydd yr haint yn diflannu o’r dilledyn neu o wead y brethyn neu o unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen ar ôl iddo gael ei olchi, yna dylai gael ei olchi unwaith eto, ac fe fydd yn lân.
59 “Dyna’r gyfraith ynglŷn â’r gwahanglwyf os bydd yn ymddangos mewn dilledyn o wlân neu o liain, neu mewn gwead brethyn, neu mewn unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen, er mwyn ei gyhoeddi’n lân neu’n aflan.”