Y Cyntaf at y Corinthiaid
5 Y gwir yw fy mod i wedi clywed bod ’na anfoesoldeb rhywiol* yn eich plith, a dydy’r fath anfoesoldeb* ddim hyd yn oed i’w gael ymhlith y cenhedloedd—bod ’na ddyn yn byw gyda* gwraig ei dad. 2 Ac ydych chi’n falch o’r peth? Oni ddylech chi yn hytrach alaru, er mwyn i’r dyn sydd wedi cyflawni’r weithred hon gael ei roi allan o’ch plith? 3 Er fy mod i’n absennol yn y corff, rydw i’n bresennol yn yr ysbryd, ac rydw i eisoes wedi barnu’r dyn a wnaeth hyn, fel petaswn i yno gyda chi. 4 Pan fyddwch chi’n dod at eich gilydd yn enw ein Harglwydd Iesu, ac yn gwybod fy mod i gyda chi yn yr ysbryd ynghyd â grym ein Harglwydd Iesu, 5 dylech chi roi dyn o’r fath yn nwylo Satan, i ddinistrio’r cnawd, er mwyn i’r ysbryd gael ei achub yn nydd yr Arglwydd.
6 Dydy eich brolio ddim yn beth da. Onid ydych chi’n gwybod bod ychydig o lefain yn lledu* drwy’r holl does? 7 Rhaid ichi gael gwared ar yr hen lefain er mwyn ichi fod yn does newydd, gan eich bod chi heb lefain ynoch chi.* Oherwydd mae Crist, ein hoen ar gyfer y Pasg, wedi cael ei aberthu. 8 Felly gadewch inni gadw’r ŵyl, nid â’r hen lefain, nac â lefain drygioni a phechod, ond â bara croyw cywirdeb a gwirionedd.
9 Yn fy llythyr, ysgrifennais atoch chi i ddweud wrthoch chi am stopio cadw cwmni pobl* sy’n anfoesol yn rhywiol,* 10 ond nid yn hollol â phobl y byd hwn sy’n anfoesol yn rhywiol* neu â’r bobl farus neu â’r lladron* neu â’r addolwyr eilunod. Fel arall, byddai’n rhaid ichi fynd allan o’r byd. 11 Ond nawr rydw i’n ysgrifennu atoch chi i ddweud wrthoch chi am stopio cadw cwmni* unrhyw un a elwir yn frawd sy’n anfoesol yn rhywiol* neu sy’n farus neu sy’n addoli eilunod neu sy’n sarhau* neu sy’n meddwi neu sy’n dwyn; peidiwch hyd yn oed â bwyta gyda dyn o’r fath. 12 Oherwydd beth sydd gan farnu’r rhai ar y tu allan i’w wneud â mi? Onid ydych chi’n barnu’r rhai y tu mewn, 13 wrth i Dduw farnu’r rhai y tu allan? “Rhowch y person drwg allan o’ch mysg.”