LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Corinthiaid 2
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Corinthiaid

      • Bwriad Paul i ddod â llawenydd (1-4)

      • Pechadur yn cael ei faddau a’i adfer (5-11)

      • Paul yn Troas a Macedonia (12, 13)

      • Y weinidogaeth, prosesiwn o fuddugoliaeth (14-17)

        • Nid pedleriaid gair Duw (17)

2 Corinthiaid 2:11

Troednodiadau

  • *

    Neu “ei fwriadau.”

2 Corinthiaid 2:12

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Tystiolaethu’n Drylwyr, t. 166

2 Corinthiaid 2:13

Troednodiadau

  • *

    Neu “ni chefais lonydd yn fy ysbryd.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Tystiolaethu’n Drylwyr, t. 166

2 Corinthiaid 2:16

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn bersawr.”

2 Corinthiaid 2:17

Troednodiadau

  • *

    Neu “dydyn ni ddim yn masnacheiddio gair Duw; dydyn ni ddim yn gwneud elw o air Duw.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Corinthiaid 2:1-17

Yr Ail at y Corinthiaid

2 Penderfynais beidio â dod atoch chi unwaith eto mewn tristwch. 2 Oherwydd os ydw i’n eich gwneud chi’n drist, pwy fydd yno i godi fy nghalon heblaw am y sawl a gafodd ei wneud yn drist gen i? 3 Ysgrifennais yr hyn a wnes i fel na fyddwn i, pan fydda i’n dod atoch chi, yn cael fy ngwneud yn drist gan y rhai y dylwn i lawenhau ynddyn nhw, oherwydd fy mod i’n hyderus y bydd yr hyn sy’n dod â llawenydd i mi yn dod â’r un llawenydd i chi i gyd. 4 Oherwydd ysgrifennais atoch chi o ganol llawer o dreialon a gofid calon ac mewn dagrau lawer, nid er mwyn eich gwneud chi’n drist, ond er mwyn rhoi gwybod ichi pa mor ddwfn ydy’r cariad sydd gen i tuag atoch chi.

5 Nawr os oes unrhyw un wedi achosi tristwch, mae ef wedi achosi tristwch, nid i mi, ond i bob un ohonoch chi i raddau—nid i fod yn rhy galed yn yr hyn rydw i’n ei ddweud. 6 Mae’r cerydd hwn a roddwyd gan y mwyafrif yn ddigon i ddyn o’r fath; 7 nawr fe ddylech chi yn hytrach faddau iddo’n garedig a’i gysuro, rhag ofn iddo gael ei lethu gan ormod o dristwch. 8 Rydw i, felly, yn eich cymell chi i gadarnhau eich cariad tuag ato. 9 Oherwydd er mwyn hyn hefyd y gwnes i ysgrifennu atoch chi: i weld a fyddech chi’n dangos eich bod chi’n ufudd ym mhob peth. 10 Os ydych chi’n maddau i unrhyw un am unrhyw beth, rydw innau hefyd. Yn wir, mae beth bynnag rydw i wedi ei faddau (os ydw i wedi maddau unrhyw beth) wedi bod er eich mwyn chi yng ngolwg Crist, 11 er mwyn inni beidio â chael ein twyllo gan Satan, gan ein bod ni’n gwybod yn iawn am ei gynllwynion.*

12 Nawr pan gyrhaeddais Troas er mwyn cyhoeddi’r newyddion da am y Crist ac fe gafodd drws ei agor imi yn yr Arglwydd, 13 doeddwn i ddim yn dawel fy meddwl* oherwydd doeddwn i ddim wedi dod o hyd i Titus fy mrawd. Felly dywedais hwyl fawr wrthyn nhw a chychwyn am Facedonia.

14 Ond diolch i Dduw, sydd bob amser yn ein harwain ni mewn prosesiwn o fuddugoliaeth yng nghwmni’r Crist ac sydd, trwyddon ni, yn taenu persawr y wybodaeth amdano ym mhob man! 15 Oherwydd persawr Crist ydyn ni i Dduw ymhlith y rhai sy’n cael eu hachub ac ymhlith y rhai sydd ar y ffordd i ddistryw; 16 i’r rhai olaf hynny rydyn ni’n arogl* marwolaeth sy’n arwain i farwolaeth, i’r rhai blaenorol rydyn ni’n bersawr bywyd sy’n arwain i fywyd. A phwy sy’n ddigon cymwys ar gyfer y pethau hyn? 17 Y ni sydd, oherwydd nid pedleriaid gair Duw ydyn ni,* fel y mae llawer o ddynion, ond rydyn ni’n siarad yn gwbl ddidwyll fel rhai sydd wedi eu hanfon gan Dduw, ie, yng ngolwg Duw ac yng nghwmni Crist.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu