LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Cronicl 17
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Cronicl

      • Jehosaffat, brenin Jwda (1-6)

      • Ymgyrch i ddysgu’r bobl (7-9)

      • Grym milwrol Jehosaffat (10-19)

2 Cronicl 17:11

Troednodiadau

  • *

    Neu “o feheryn.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Cronicl 17:1-19

Ail Cronicl

17 A daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le, a chryfhaodd ei awdurdod dros Israel. 2 Gosododd filwyr yn holl ddinasoedd caerog Jwda, a rhoddodd garsiynau yng ngwlad Jwda ac yn y dinasoedd roedd Asa ei dad wedi eu cipio yn Effraim. 3 Parhaodd Jehofa i fod gyda Jehosaffat, am ei fod wedi dilyn ôl traed ei gyndad Dafydd, a wnaeth ef ddim ceisio’r duwiau Baal. 4 Roedd yn ceisio Duw ei dad, a dilynodd Ei orchymyn yn hytrach nag arferion Israel. 5 Sicrhaodd Jehofa fod y deyrnas wedi ei sefydlu’n gadarn yn ei ddwylo; a pharhaodd Jwda gyfan i roi anrhegion i Jehosaffat, ac roedd yn gyfoethog iawn ac yn cael ei anrhydeddu’n fawr. 6 Roedd yn hyderus wrth ddilyn ffyrdd Jehofa, a gwnaeth ef hyd yn oed gael gwared ar yr uchelfannau a’r polion cysegredig allan o Jwda.

7 Yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, galwodd am ei dywysogion—Ben-hail, Obadeia, Sechareia, Nethanel, a Michea—a’u hanfon nhw i ddysgu yn ninasoedd Jwda. 8 Roedd ’na Lefiaid gyda nhw: Semaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Semiramoth, Jehonathan, Adoneia, Tobeia, a Tob-adoneia, ynghyd ag Elisama a Jehoram yr offeiriaid. 9 Dechreuon nhw ddysgu eraill yn Jwda, gan fynd â llyfr Cyfraith Jehofa gyda nhw, ac aethon nhw drwy holl ddinasoedd Jwda yn dysgu’r bobl.

10 A daeth ofn Jehofa ar holl deyrnasoedd y gwledydd o amgylch Jwda, ac ni wnaethon nhw frwydro yn erbyn Jehosaffat. 11 A daeth y Philistiaid ag anrhegion ac arian at Jehosaffat fel treth. Daeth yr Arabiaid â 7,700 o hyrddod* a 7,700 bwch gafr o’u preiddiau.

12 Daeth Jehosaffat yn fwy ac yn fwy pwerus, a pharhaodd i adeiladu llefydd caerog, a dinasoedd i storio nwyddau yn Jwda. 13 Roedd ganddo brosiectau mawr yn ninasoedd Jwda, yn ogystal â milwyr cryf yn Jerwsalem. 14 Roedd y rhain wedi eu trefnu yn ôl eu grwpiau o deuluoedd: o blith llwyth Jwda roedd ’na benaethiaid ar filoedd, y cyntaf oedd Adna y pennaeth, ac roedd ’na 300,000 o filwyr cryf gydag ef. 15 Roedd Jehohanan y pennaeth o dan ei awdurdod, ac roedd ’na 280,000 gydag ef. 16 Roedd Amaseia fab Sicri hefyd o dan ei awdurdod, a gwnaeth ef wirfoddoli i wasanaethu Jehofa, ac roedd ’na 200,000 o filwyr cryf gydag ef. 17 Ac o blith llwyth Benjamin roedd ’na Eliada, milwr cryf, a gydag ef roedd ’na 200,000 o ddynion wedi eu harfogi â’r bwa a’r darian. 18 Ac roedd Jehosabad o dan ei awdurdod, a gydag ef roedd ’na 180,000 o ddynion wedi eu harfogi ar gyfer brwydro. 19 Roedd y rhain yn gwasanaethu’r brenin ynghyd â’r rhai roedd y brenin wedi eu rhoi yn y dinasoedd caerog drwy Jwda i gyd.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu