LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Cronicl 26
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Cronicl

      • Usseia, brenin Jwda (1-5)

      • Ymgyrchoedd milwrol Usseia (6-15)

      • Usseia yn troi’n falch ac yn cael ei daro â’r gwahanglwyf (16-21)

      • Marwolaeth Usseia (22, 23)

2 Cronicl 26:2

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, ei dad Amaseia.

  • *

    Neu “ar ôl i’r brenin orwedd i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

2 Cronicl 26:10

Troednodiadau

  • *

    Neu “naddu,” o’r graig mae’n debyg.

  • *

    Neu “yr ucheldir gwastad.”

2 Cronicl 26:14

Troednodiadau

  • *

    Neu “llurigau.”

2 Cronicl 26:19

Troednodiadau

  • *

    Neu “thuser.” Gweler Geirfa.

2 Cronicl 26:21

Troednodiadau

  • *

    Neu “am balas y brenin.”

2 Cronicl 26:23

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yna gorweddodd Usseia i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Cronicl 26:1-23

Ail Cronicl

26 Yna dyma holl bobl Jwda yn cymryd Usseia, a oedd yn 16 mlwydd oed, a’i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia. 2 Ailadeiladodd Eloth a’i hadfer i Jwda ar ôl i’r brenin* farw.* 3 Roedd Usseia yn 16 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 52 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem. 4 Parhaodd i wneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa, fel roedd ei dad Amaseia wedi gwneud. 5 A pharhaodd i geisio Duw yn nyddiau Sechareia, a wnaeth ei ddysgu i ofni’r gwir Dduw. Drwy’r holl amser roedd yn ceisio Jehofa, roedd y gwir Dduw yn gwneud iddo lwyddo.

6 Aeth allan a brwydro yn erbyn y Philistiaid a thorri trwy wal Gath, wal Jabne, a wal Asdod. Yna adeiladodd ddinasoedd yn nhiriogaeth Asdod ac ymysg y Philistiaid. 7 Parhaodd y gwir Dduw i’w helpu yn erbyn y Philistiaid, yn erbyn yr Arabiaid a oedd yn byw yn Gurbaal, ac yn erbyn y Meuniaid. 8 Dechreuodd yr Ammoniaid dalu trethi i Usseia. Yn y pen draw daeth yn enwog mor bell â’r Aifft, am ei fod mor bwerus. 9 Ar ben hynny, adeiladodd Usseia dyrau yn Jerwsalem wrth Borth y Gornel, Porth y Dyffryn, a’r Bwtres, a hefyd eu hatgyfnerthu nhw. 10 Yn ogystal, adeiladodd dyrau yn yr anialwch a chloddio* llawer o bydewau (oherwydd roedd ganddo lawer iawn o anifeiliaid); gwnaeth hynny hefyd yn y Seffela ac ar y gwastatir.* Roedd ganddo ffermwyr a gweithwyr yn y gwinllannoedd yn y mynyddoedd ac yng Ngharmel, oherwydd roedd wrth ei fodd ag amaethyddiaeth.

11 Hefyd, casglodd Usseia fyddin a oedd wedi ei harfogi ar gyfer rhyfel. Bydden nhw’n mynd allan ar ymgyrchoedd milwrol, wedi eu trefnu yn adrannau. Cawson nhw eu rhifo a’u cofrestru gan Jeiel yr ysgrifennydd a Maaseia y swyddog, o dan reolaeth Hananeia, un o dywysogion y brenin. 12 Dros y milwyr cryf hyn, roedd ’na gyfanswm o 2,600 o swyddogion a oedd yn bennau ar y grwpiau o deuluoedd. 13 Roedd cyfanswm y milwyr o dan eu gofal yn 307,500 yn barod i ryfela—byddin bwerus i gefnogi’r brenin yn erbyn y gelyn. 14 Gwnaeth Usseia arfogi’r fyddin gyfan â tharianau, gwaywffyn, helmedau, arfwisgoedd,* bwâu, a cherrig tafl. 15 Ar ben hynny, yn Jerwsalem gwnaeth ef beiriannau rhyfel wedi eu dylunio gan beirianwyr; cawson nhw eu gosod ar y tyrau ac ar gorneli’r waliau ac roedden nhw’n gallu saethu saethau a cherrig mawr. Felly daeth yn enwog ym mhobman, am ei fod wedi derbyn llawer o gymorth ac wedi dod yn gryf.

16 Ond, unwaith iddo ddod yn gryf, aeth ei galon yn falch gan arwain at ei ddinistr ei hun, a gweithredodd yn anffyddlon yn erbyn Jehofa ei Dduw drwy fynd i mewn i deml Jehofa i losgi arogldarth ar allor yr arogldarth. 17 Ar unwaith aeth Asareia yr offeiriad ac 80 o offeiriaid dewr Jehofa i mewn ar ei ôl. 18 Dyma nhw’n ceisio rhwystro’r Brenin Usseia gan ddweud wrtho: “Dydy hi ddim yn iawn i ti, Usseia, losgi arogldarth i Jehofa! Dim ond yr offeiriaid a ddylai losgi arogldarth, oherwydd y nhw ydy disgynyddion Aaron, y rhai sydd wedi cael eu sancteiddio. Dos allan o’r cysegr, oherwydd rwyt ti wedi gweithredu’n anffyddlon ac ni fyddi di’n derbyn unrhyw glod gan Jehofa Dduw am hyn.”

19 Ond gwylltiodd Usseia yn lân, ac roedd ganddo lestr* ar gyfer llosgi arogldarth yn ei law; yn ystod ei ddicter yn erbyn yr offeiriaid cafodd ei daro â’r gwahanglwyf ar ei dalcen ym mhresenoldeb yr offeiriaid yn nhŷ Jehofa, wrth ymyl allor yr arogldarth. 20 Pan edrychodd Asareia y prif offeiriad a’r holl offeiriaid eraill arno, gwelson nhw ei fod wedi cael ei daro â’r gwahanglwyf ar ei dalcen! Felly dyma nhw’n ei frysio allan oddi yno, a brysiodd ef ei hun allan, am fod Jehofa wedi ei daro.

21 Roedd y Brenin Usseia yn wahanglaf nes iddo farw, ac roedd yn aros mewn tŷ ar wahân fel gwahanglaf, a doedd ef ddim yn cael mynd at dŷ Jehofa bellach. Roedd ei fab Jotham yn gyfrifol am dŷ’r brenin,* ac yn barnu pobl y wlad.

22 A chafodd gweddill hanes Usseia, o’r dechrau i’r diwedd, ei gofnodi gan y proffwyd Eseia fab Amos. 23 Yna bu farw Usseia,* a gwnaethon nhw ei gladdu wrth ymyl beddau ei gyndadau, ond yn y cae a oedd yn perthyn i’r brenhinoedd, oherwydd dywedon nhw: “Mae’n wahanglaf.” A daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu