Lefiticus
11 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: 2 “Dywedwch wrth yr Israeliaid, ‘Dyma greaduriaid byw y ddaear* y cewch chi eu bwyta: 3 Cewch chi fwyta pob anifail sy’n cnoi cil, ac sydd â charnau fforchog sydd hefyd wedi eu hollti.
4 “‘Ond ni ddylech chi fwyta’r anifeiliaid hyn sy’n cnoi cil neu sydd â charnau wedi eu hollti: y camel, sy’n cnoi cil ond does ganddo ddim carnau wedi eu hollti. Dylai fod yn aflan ichi. 5 Hefyd mochyn daear y creigiau, oherwydd mae’n cnoi cil ond does ganddo ddim carnau wedi eu hollti. Dylai fod yn aflan ichi. 6 Hefyd yr ysgyfarnog, oherwydd mae’n cnoi cil ond does ganddi ddim carnau wedi eu hollti. Dylai fod yn aflan ichi. 7 Hefyd y mochyn, oherwydd mae ganddo garnau wedi eu hollti, sydd hefyd yn fforchog, ond nid yw’n cnoi cil. Dylai fod yn aflan ichi. 8 Peidiwch â bwyta unrhyw ran o’u cig na chyffwrdd â’u cyrff marw. Dylen nhw fod yn aflan ichi.
9 “‘Dyma beth cewch chi ei fwyta o’r hyn sy’n byw yn y dŵr: Unrhyw beth yn y dŵr sydd ag esgyll a chen, naill ai yn y moroedd neu yn yr afonydd, cewch chi fwyta’r rhain. 10 Dylai holl greaduriaid y moroedd a’r afonydd sydd heb esgyll na chen, gan gynnwys creaduriaid sy’n heidio, fod yn ffiaidd ichi. 11 Yn wir, dylen nhw fod yn ffiaidd ichi, ac ni ddylech chi fwyta unrhyw ran o’u cig, ac mae’n rhaid ichi gasáu eu cyrff marw. 12 Dylai popeth sydd yn y dŵr sydd heb esgyll na chen fod yn ffiaidd ichi.
13 “‘Dyma’r creaduriaid sy’n hedfan y dylech chi eu casáu; ni ddylech chi eu bwyta, oherwydd maen nhw’n ffiaidd: yr eryr, gwalch y pysgod, y fwltur du, 14 y barcud coch a phob math o farcutiaid du, 15 pob math o gigfrain, 16 yr estrys, y dylluan, yr wylan, a phob math o hebogiaid, 17 y dylluan fach, y fulfran,* y dylluan gorniog, 18 yr alarch, y pelican, y fwltur, 19 y storc, pob math o grehyrod, y gopog, a’r ystlum. 20 Dylai pob creadur* sydd ag adenydd, sydd hefyd yn heidio, ac sy’n cerdded ar bedair coes fod yn ffiaidd ichi.
21 “‘O’r creaduriaid sydd ag adenydd, sydd hefyd yn heidio, ac sy’n cerdded ar bedair coes, cewch chi fwyta ond y rhai sydd â choesau cymalog uwchben eu traed ar gyfer neidio. 22 Cewch chi fwyta’r rhain: pob math o locustiaid mudol, locustiaid eraill sy’n bosib eu bwyta, criciaid, a sioncod y gwair.* 23 Dylai pob math arall o greaduriaid sydd ag adenydd, sydd hefyd yn heidio, ac sydd â phedair coes fod yn ffiaidd ichi. 24 Drwy fwyta’r rhain byddech chi’n eich gwneud eich hunain yn aflan. Bydd pawb sy’n cyffwrdd â’u cyrff marw yn aflan tan fachlud yr haul. 25 Dylai rhywun sy’n cario unrhyw un o’u cyrff marw olchi ei ddillad; bydd ef yn aflan tan fachlud yr haul.
26 “‘Dylai unrhyw anifail sydd â charnau wedi eu hollti, ond sydd ddim yn fforchog, ac sydd ddim yn cnoi cil fod yn aflan ichi. Bydd pawb sy’n cyffwrdd â nhw yn aflan. 27 Ymhlith y creaduriaid byw sy’n cerdded ar bedair coes, dylai pob un sydd â phawennau fod yn aflan ichi. Bydd pawb sy’n cyffwrdd â’u cyrff marw yn aflan tan fachlud yr haul. 28 Dylai’r un sy’n cario eu cyrff marw olchi ei ddillad, a bydd ef yn aflan tan fachlud yr haul. Dylen nhw fod yn aflan ichi.
29 “‘O holl greaduriaid y ddaear sy’n heidio, dylai’r rhain fod yn aflan ichi: y llygoden sy’n tyrchu, y llygoden, madfallod o unrhyw fath, 30 y geco, y fadfall fawr, y fadfall ddŵr, madfall y tywod, a’r camelion. 31 Dylai’r creaduriaid hyn sy’n heidio fod yn aflan ichi. Bydd pawb sy’n cyffwrdd â’u cyrff marw yn aflan tan fachlud yr haul.
32 “‘Nawr bydd unrhyw beth maen nhw’n syrthio arno ar ôl iddyn nhw farw yn aflan, p’un a ydy hynny’n offeryn pren, yn ddilledyn, yn groen anifail, neu’n ddarn o sachliain. Dylai unrhyw offeryn sy’n cael ei ddefnyddio gael ei drochi mewn dŵr, a bydd yn aflan tan fachlud yr haul; yna fe fydd yn lân. 33 Os ydyn nhw’n syrthio i mewn i lestr pridd, mae’n rhaid ichi ei falu’n ddarnau, a bydd unrhyw beth a oedd ynddo yn aflan. 34 Bydd unrhyw fwyd sy’n cyffwrdd â dŵr o’r llestr hwnnw yn aflan, a bydd unrhyw ddiod o’r llestr hwnnw yn aflan. 35 Bydd unrhyw beth mae eu cyrff aflan yn syrthio arno yn aflan. P’un a ydy hynny’n ffwrn* neu’n stof fach, dylai gael ei thorri’n ddarnau. Maen nhw’n aflan, a dylen nhw aros yn aflan ichi. 36 Dim ond ffynnon a phydew ar gyfer storio dŵr fydd yn parhau i fod yn lân, ond bydd unrhyw un sy’n cyffwrdd â’u cyrff marw yn aflan. 37 Os bydd eu cyrff marw yn syrthio ar hedyn planhigyn sydd i’w gael ei hau, mae’n lân. 38 Ond os bydd hedyn yn cael ei ddyfrio ac yna mae rhan o’u cyrff marw yn syrthio arno, dylai’r hedyn fod yn aflan ichi.
39 “‘Nawr os bydd anifail rydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer bwyd yn marw, bydd pwy bynnag sy’n cyffwrdd â’i gorff marw yn aflan tan fachlud yr haul. 40 Dylai pwy bynnag sy’n bwyta unrhyw ran o’r corff marw olchi ei ddillad, a bydd yn aflan tan fachlud yr haul. Os bydd rhywun yn cario’r corff marw i ffwrdd yna bydd rhaid iddo olchi ei ddillad, a bydd yn aflan tan fachlud yr haul. 41 Mae’r holl greaduriaid ar y ddaear sy’n heidio i gyd yn ffiaidd. Ni ddylech chi eu bwyta. 42 Ni ddylech chi fwyta unrhyw greadur sy’n cropian ar ei fol, sy’n cerdded ar bedair coes, neu unrhyw greadur sy’n heidio sydd â nifer mawr o goesau, gan eu bod nhw’n ffiaidd. 43 Peidiwch â’ch gwneud eich hunain* yn ffiaidd drwy fwyta unrhyw greadur sy’n heidio, a pheidiwch â’ch llygru eich hunain na’ch gwneud eich hunain yn aflan drwy ei fwyta. 44 Oherwydd fi yw Jehofa eich Duw, ac mae’n rhaid ichi eich sancteiddio eich hunain a bod yn sanctaidd, gan fy mod i’n sanctaidd. Felly ni ddylech chi eich gwneud eich hunain* yn aflan drwy fwyta unrhyw greadur sy’n heidio ac sy’n symud ar y ddaear. 45 Oherwydd fi yw Jehofa, yr un sy’n eich arwain chi allan o wlad yr Aifft er mwyn profi fy mod i’n Dduw ichi, ac mae’n rhaid ichi fod yn sanctaidd, gan fy mod i’n sanctaidd.
46 “‘Dyna’r gyfraith ynglŷn â’r anifeiliaid, y creaduriaid sy’n hedfan, pob creadur byw sy’n symud drwy’r dŵr, a phob creadur ar y ddaear sy’n heidio, 47 er mwyn gwahaniaethu rhwng yr aflan a’r glân, a rhwng y creaduriaid byw y cewch chi eu bwyta a’r rhai na chewch chi eu bwyta.’”