Exodus
15 Yr adeg honno gwnaeth Moses a’r Israeliaid ganu’r gân hon i Jehofa:
“Gad imi ganu i Jehofa, oherwydd mae wedi cael ei anrhydeddu’n fawr.
Mae wedi hyrddio’r ceffyl a’i farchog i mewn i’r môr.
2 Jah* yw fy nerth a fy ngrym, gan ei fod wedi fy achub i.
Hwn yw fy Nuw, a bydda i’n ei foli; hwn yw Duw fy nhad, a bydda i’n ei anrhydeddu.
3 Mae Jehofa’n rhyfelwr pwerus. Jehofa ydy ei enw.
4 Mae Ef wedi hyrddio cerbydau Pharo a’i fyddin i mewn i’r môr,
Ac mae ei ryfelwyr gorau wedi boddi yn y Môr Coch.
5 Fe wnaeth tonnau’r môr eu gorchuddio nhw; fe wnaethon nhw suddo i ddyfnderoedd y môr fel cerrig.
6 Mae dy law dde, O Jehofa, yn hynod o rymus;
Mae dy law dde, O Jehofa, yn gallu torri gelyn yn ddarnau.
7 Rwyt ti mor rhyfeddol, rwyt ti’n gwneud i’r rhai sy’n codi yn dy erbyn di syrthio;
Mae dy ddicter yn danllyd, ac mae’n eu llosgi nhw fel gwellt.
8 Drwy anadl dy ffroenau safodd y dŵr fel waliau;
Fe wnaethon nhw aros yn llonydd, yn dal yn ôl y llifogydd;
Ynghanol y môr gwnaeth y tonnau galedu.
9 Dywedodd y gelyn: ‘Bydda i’n mynd ar eu holau nhw! Bydda i’n dal i fyny â nhw!
Bydda i’n rhannu’r eiddo nes imi gael digon!
Bydda i’n tynnu fy nghleddyf! Bydd fy llaw yn eu dinistrio nhw!’
10 Gwnest ti chwythu â dy anadl, gwnaeth y môr eu gorchuddio nhw;
Gwnaethon nhw suddo fel plwm mewn môr grymus.
11 Pa dduw arall sydd fel ti, O Jehofa?
Pwy sydd fel ti, yr Un mwyaf sanctaidd?
Rwyt ti’n haeddu cael dy ofni a dy foli â chaneuon, yr Un sy’n gwneud pethau rhyfeddol.
12 Gwnest ti estyn dy law dde, a gwnaeth y ddaear eu llyncu nhw.
13 Mae dy gariad ffyddlon wedi arwain y bobl rwyt ti wedi eu hachub;
Bydd dy gryfder yn eu harwain nhw i dy le sanctaidd.
14 Bydd rhaid i bobl glywed am y pethau hyn; byddan nhw’n crynu mewn ofn;
Bydd poenau enfawr yn gafael ar bobl Philistia.
15 Bryd hynny bydd gan benaethiaid* Edom ofn mawr,
A bydd rheolwyr mawr Moab yn crynu.
Bydd holl bobl Canaan yn ddigalon.
16 Bydd ofn mawr yn dod arnyn nhw.
Oherwydd dy fraich gref byddan nhw mor llonydd â cherrig
Hyd nes i dy bobl basio heibio, O Jehofa,
Hyd nes i’r bobl y gwnest ti eu dewis basio heibio.
17 Byddi di’n eu harwain nhw ac yn eu plannu nhw ar y mynydd sy’n perthyn i ti,
Y cartref rwyt ti wedi ei baratoi ar dy gyfer di dy hun, O Jehofa,
Lle cysegredig, O Jehofa, rwyt ti wedi ei wneud â dy ddwylo.
18 Bydd Jehofa’n rheoli fel brenin am byth bythoedd.
19 Pan aeth ceffylau Pharo a’i gerbydau rhyfel a’i farchogion i mewn i’r môr,
Yna dyma Jehofa’n gwneud i donnau enfawr ddod drostyn nhw,
Ond cerddodd pobl Israel ar dir sych drwy ganol y môr.”
20 Yna gwnaeth Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, gymryd tambwrîn yn ei llaw, a gwnaeth yr holl ferched* ei dilyn hi gan chwarae eu tambwrinau a dawnsio. 21 Atebodd Miriam y dynion drwy ganu:
“Canwch i Jehofa, gan ei fod wedi cael ei anrhydeddu’n fawr.
Mae wedi hyrddio’r ceffyl a’i farchog i mewn i’r môr.”
22 Yn hwyrach ymlaen gwnaeth Moses arwain Israel i ffwrdd oddi wrth y Môr Coch, ac aethon nhw i anialwch Sur a martsio* am dri diwrnod yn yr anialwch, ond ni wnaethon nhw ddod o hyd i ddŵr. 23 Cyrhaeddon nhw Mara,* ond doedden nhw ddim yn gallu yfed dŵr Mara gan ei fod yn chwerw. Dyna pam gwnaethon nhw ei enwi’n Mara. 24 Felly dechreuodd y bobl gwyno yn erbyn Moses, drwy ddweud: “Beth rydyn ni am ei yfed?” 25 Galwodd Moses allan ar Jehofa, a gwnaeth Jehofa ei arwain at goeden. Pan daflodd y goeden i mewn i’r dŵr, dyma’r dŵr yn troi’n felys.
Yno fe roddodd Ef orchymyn iddyn nhw a dangos iddyn nhw beth roedd rhaid iddyn nhw ei wneud, ac yno gwnaeth Ef eu rhoi nhw ar brawf. 26 Dywedodd: “Os byddwch chi’n gwrando’n astud ar lais Jehofa eich Duw ac yn gwneud yr hyn sy’n iawn yn ei lygaid ac yn talu sylw i’w orchmynion ac yn cadw at ei holl reolau, ni fydda i’n eich cosbi ag afiechydon fel gwnes i gosbi’r Eifftiaid, gan fy mod i, Jehofa, yn eich iacháu chi.”
27 Ar ôl hynny, dyma nhw’n cyrraedd Elim, lle roedd ’na 12 ffynnon ddŵr a 70 coeden balmwydd. Felly gwnaethon nhw wersylla yno wrth ymyl y dŵr.