Exodus
28 “Dylet ti anfon am dy frawd Aaron, ynghyd â’i feibion, a’u gwahanu nhw oddi wrth yr Israeliaid, er mwyn iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid imi—Aaron, ynghyd â Nadab, Abihu, Eleasar, ac Ithamar, meibion Aaron. 2 Dylet ti wneud gwisg sanctaidd ar gyfer Aaron dy frawd, er mwyn rhoi gogoniant a harddwch iddo. 3 Dylet ti siarad â’r holl rai sy’n fedrus, y rhai rydw i wedi eu gwneud yn ddoeth, a byddan nhw’n gwneud gwisg i Aaron er mwyn ei sancteiddio, er mwyn iddo allu gwasanaethu fel offeiriad imi.
4 “Dyma’r dillad y byddan nhw’n eu gwneud: darn o wisg wedi ei brodio i fynd dros frest yr archoffeiriad, effod, côt heb lewys, mantell a phatrwm sgwarog iddi, tyrban, a sash; byddan nhw’n gwneud y dillad sanctaidd hyn ar gyfer dy frawd Aaron a’i feibion, er mwyn iddo wasanaethu fel offeiriad imi. 5 Bydd y gweithwyr medrus yn defnyddio’r aur, yr edau las, y gwlân porffor, y defnydd ysgarlad, a’r lliain main.
6 “Dylen nhw wneud yr effod allan o aur, edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main, a dylai’r effod gael ei frodio. 7 Dylai’r effod fod fel ffedog gyda’r ddau ddarn o ddefnydd yn cysylltu â’i gilydd ar yr ysgwyddau. 8 Dylai belt* yr effod, sydd wedi cael ei weu ac sy’n clymu’r effod yn dynn yn ei le, gael ei wneud o’r un defnydd: aur, edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main.
9 “Dylet ti gymryd dwy em onics a cherfio enwau meibion Israel arnyn nhw, 10 chwe enw ar un em a’r chwe enw arall ar yr em arall, yn ôl eu hoedran. 11 Bydd cerfiwr gemau yn cerfio enwau meibion Israel ar y ddwy em yn yr un ffordd ag y byddai’n cerfio sêl. Yna dylet ti osod y gemau mewn aur er mwyn eu dal nhw yn eu lle. 12 Dylet ti roi’r ddwy em ar ysgwyddau’r effod fel gemau coffa ar gyfer meibion Israel, ac mae’n rhaid i Aaron gario eu henwau o flaen Jehofa ar ysgwyddau’r effod er mwyn eu coffáu. 13 Dylet ti osod y gemau mewn aur, 14 a gwneud dwy gadwyn o aur pur wedi eu plethu fel cortyn, a chysylltu’r cadwyni hynny â’r aur o amgylch y gemau.
15 “Dylai brodiwr wneud y darn o wisg sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad ar gyfer barnu. Dylai gael ei wneud fel yr effod, allan o aur, edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. 16 Dylai’r darn o wisg fod yn sgwâr ar ôl iddo gael ei ddyblu, yn rhychwant* o hyd ac yn rhychwant o led. 17 Dylet ti osod gemau ynddo, pedair rhes ohonyn nhw. Bydd y rhes gyntaf yn cynnwys rhuddem, topas, ac emrallt. 18 Bydd yr ail res yn cynnwys glasfaen, saffir, ac iasbis. 19 Bydd y drydedd res yn cynnwys yr em leshem,* agat, ac amethyst. 20 Bydd y bedwaredd res yn cynnwys beryl, onics, a jâd. Dylen nhw gael eu gosod mewn aur. 21 Bydd y gemau yn cyfateb i enwau 12 mab Israel. Dylai pob un gael ei gerfio fel sêl, pob enw yn cynrychioli un o’r 12 llwyth.
22 “Dylet ti wneud cadwyni wedi eu plethu fel rhaffau ar y darn o wisg wedi ei brodio sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad, fel rhaffau* wedi eu gwneud allan o aur pur. 23 Dylet ti wneud dwy fodrwy aur ar gyfer y darn o wisg sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad a gosod y ddwy fodrwy ar y corneli uchaf. 24 Dylet ti roi’r ddau gortyn aur drwy’r modrwyau hynny ar y corneli uchaf. 25 Byddi di’n rhoi pen arall y ddau gortyn drwy’r gosodiadau aur o amgylch y gemau onics sydd ar ysgwyddau’r effod, ar y tu blaen. 26 Dylet ti wneud dwy fodrwy o aur a’u gosod nhw ar gorneli’r darn o wisg, ar yr ochr fewnol sy’n wynebu’r effod. 27 Dylet ti wneud dwy fodrwy arall o aur a’u rhoi nhw ar flaen yr effod, o dan y ddwy ysgwydd, yn agos at le maen nhw’n cysylltu, uwchben belt* yr effod sydd wedi cael ei weu. 28 Dylai’r darn o wisg sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad gael ei ddal yn ei le â chortyn glas, gan glymu modrwyau’r darn o wisg i fodrwyau’r effod. Bydd hyn yn cadw’r darn o wisg yn ei le ar yr effod, uwchben y belt* sydd wedi ei weu.
29 “Pan fydd Aaron yn mynd i mewn i’r Sanctaidd, bydd rhaid iddo gario enwau meibion Israel dros ei galon ar y darn o wisg sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad ar gyfer barnu, er mwyn coffáu’r Israeliaid drwy’r adeg o flaen Jehofa. 30 Byddi di’n rhoi’r Urim a’r Thummim i mewn i’r darn o wisg hwnnw, a bydd rhaid iddyn nhw fod dros galon Aaron pan fydd yn mynd o flaen Jehofa, a bydd rhaid i Aaron eu cario dros ei galon o flaen Jehofa drwy’r adeg er mwyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r Israeliaid.
31 “Dylet ti wneud côt heb lewys allan o edau las yn unig i fynd o dan yr effod. 32 Fe fydd ’na dwll yn ei chanol ar gyfer y pen. Bydd rhaid i’r twll gael ymyl wedi ei weu gan wehydd, yn debyg i’r twll sydd ar gôt rhyfelwr, er mwyn iddo beidio â chael ei rhwygo. 33 O amgylch ei hem, dylet ti wneud pomgranadau allan o edau las, gwlân porffor, a defnydd ysgarlad, a rhoi clychau o aur rhyngddyn nhw. 34 Mae’n rhaid i gloch aur a phomgranad fynd bob yn ail o amgylch hem y gôt heb lewys. 35 Dylai Aaron ei gwisgo er mwyn iddo allu gwasanaethu fel offeiriad,* ac mae’n rhaid i sŵn y clychau gael eu clywed wrth iddo fynd i mewn i’r cysegr o flaen Jehofa ac wrth iddo fynd allan, er mwyn iddo beidio â marw.
36 “Dylet ti wneud plât sgleiniog allan o aur pur a cherfio arno yn yr un ffordd ag y byddai rhywun yn cerfio sêl: ‘Mae sancteiddrwydd yn perthyn i Jehofa.’ 37 Mae’n rhaid iti ei glymu i’r tyrban â chortyn glas; dylai aros ar flaen y tyrban. 38 Bydd yn mynd ar dalcen Aaron, a bydd Aaron yn gyfrifol pan fydd rhywun yn pechu yn erbyn y pethau sanctaidd, y pethau mae’r Israeliaid wedi eu hoffrymu fel anrhegion sanctaidd. Mae’n rhaid i’r plât aros ar ei dalcen drwy’r adeg, er mwyn iddyn nhw allu ennill cymeradwyaeth o flaen Jehofa.
39 “Dylet ti weu mantell a phatrwm sgwarog iddi allan o liain main, a gwneud tyrban allan o liain main. Dylet ti hefyd weu sash.
40 “Byddi di hefyd yn gwneud mentyll, sashiau, a phenwisgoedd ar gyfer meibion Aaron, er mwyn rhoi gogoniant a harddwch iddyn nhw. 41 Byddi di’n rhoi’r rhain am dy frawd Aaron a’i feibion gydag ef, a dylet ti eu heneinio nhw a’u penodi fel offeiriaid a’u sancteiddio nhw, a byddan nhw’n gwasanaethu fel offeiriaid i mi. 42 Mae’n rhaid iti hefyd wneud dillad isaf allan o liain, sy’n mynd o’r canol at y pen-glin er mwyn cuddio eu cyrff noeth. 43 Bydd rhaid i Aaron a’i feibion eu gwisgo pan fyddan nhw’n mynd i mewn i babell y cyfarfod neu pan fyddan nhw’n mynd at yr allor i wasanaethu fel offeiriaid yn y lle sanctaidd, fel na fyddan nhw’n euog ac yn marw. Mae hyn yn ddeddf barhaol ar gyfer ef a’i ddisgynyddion* a fydd yn dod ar ei ôl.