LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Datguddiad 12
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Datguddiad

      • Y ddynes, y plentyn gwryw, a’r ddraig (1-6)

      • Michael yn brwydro’n erbyn y ddraig (7-12)

        • Y ddraig yn cael ei hyrddio i’r ddaear (9)

        • Y Diafol yn gwybod bod ganddo ychydig o amser ar ôl (12)

      • Y ddraig yn erlid y ddynes (13-17)

Datguddiad 12:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “Menyw.”

Datguddiad 12:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “coron.”

Datguddiad 12:4

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2018, t. 16

Datguddiad 12:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 32

Datguddiad 12:7

Troednodiadau

  • *

    Sy’n golygu “Pwy Sy’n Debyg i Dduw?”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 121

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 24

Datguddiad 12:8

Troednodiadau

  • *

    Neu efallai, “ond cafodd hi [hynny yw, y ddraig] ei threchu.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 24

Datguddiad 12:9

Troednodiadau

  • *

    Neu “sarff.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 24

Datguddiad 12:10

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Dysgu o’r Beibl, t. 86

    Beibl Ddysgu, tt. 79-80

Datguddiad 12:11

Troednodiadau

  • *

    Neu “bywydau.” Gweler Geirfa.

Datguddiad 12:12

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 24

    Dysgu o’r Beibl, tt. 86-87

    Beibl Ddysgu, t. 80

Datguddiad 12:13

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

Datguddiad 12:14

Troednodiadau

  • *

    Neu “i’r fenyw.”

  • *

    Hynny yw, tri amser a hanner.

  • *

    Neu “sarff.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 32

Datguddiad 12:15

Troednodiadau

  • *

    Neu “sarff.”

  • *

    Neu “y fenyw.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2020, t. 6

Datguddiad 12:16

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2022, tt. 6-7

    Tystiolaethu’n Drylwyr, t. 164

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    12/2019, t. 8

Datguddiad 12:17

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

  • *

    Llyth., “had.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2022, tt. 5-6, 16

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Datguddiad 12:1-17

Datguddiad i Ioan

12 Yna cafodd arwydd mawr ei weld yn y nef: Dynes* wedi ei gwisgo â’r haul, ac roedd y lleuad o dan ei thraed, ac ar ei phen roedd coron o 12 seren, 2 ac roedd hi’n feichiog. Gan ei bod hi ar fin rhoi genedigaeth, roedd hi’n dioddef o boenau geni.

3 Cafodd arwydd arall ei weld yn y nef. Edrychwch! Draig fflamgoch fawr. Roedd ganddi saith pen a deg corn ac ar ei phennau saith diadem;* 4 ac mae ei chynffon yn tynnu traean o sêr y nef, ac yn eu bwrw nhw i lawr i’r ddaear. Ac roedd y ddraig yn dal i sefyll o flaen y ddynes* a oedd ar fin rhoi genedigaeth, er mwyn llyncu’r plentyn ar ôl iddi roi genedigaeth.

5 Ac fe roddodd enedigaeth i fab, gwryw, sy’n bugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haearn. Ac fe gafodd ei phlentyn ei gipio at Dduw ac at ei orsedd. 6 A gwnaeth y ddynes* ffoi i’r anialwch, ac mae lle wedi ei baratoi yno ar ei chyfer hi gan Dduw lle byddan nhw’n ei bwydo hi am 1,260 o ddyddiau.

7 A dechreuodd rhyfel yn y nef: Brwydrodd Michael* a’i angylion yn erbyn y ddraig, a brwydrodd y ddraig a’i hangylion hithau 8 ond wnaethon nhw ddim ennill,* a doedd dim lle iddyn nhw yn y nef bellach. 9 Felly cafodd y ddraig fawr ei hyrddio i lawr, y neidr* wreiddiol, yr un sy’n cael ei galw Diafol a Satan, yr un sy’n camarwain yr holl ddaear; fe gafodd ei hyrddio i lawr i’r ddaear, ac fe gafodd ei hangylion eu hyrddio i lawr gyda hi. 10 Fe glywais lais uchel yn y nef yn dweud:

“Nawr, mae’r achubiaeth a’r grym a Theyrnas ein Duw ac awdurdod ei Grist wedi dod yn realiti, oherwydd bod cyhuddwr ein brodyr wedi cael ei hyrddio i lawr, yr un sy’n eu cyhuddo nhw ddydd a nos o flaen ein Duw! 11 A gwnaethon nhw ei goncro ef oherwydd gwaed yr oen ac oherwydd gair eu tystiolaethu, a doedden nhw ddim yn caru eu heneidiau* yn wyneb marwolaeth hyd yn oed. 12 O achos hyn, byddwch yn llawen chi’r nefoedd a chi sy’n byw ynddyn nhw! Gwae’r ddaear a’r môr, oherwydd bod y Diafol wedi dod i lawr atoch chi, wedi gwylltio’n gandryll, yn gwybod mai ychydig o amser sydd ganddo ar ôl.”

13 Nawr pan welodd y ddraig ei bod hi wedi cael ei hyrddio i lawr i’r ddaear, gwnaeth hi erlid y ddynes* a roddodd enedigaeth i’r plentyn gwryw. 14 Ond cafodd dwy adain yr eryr mawr eu rhoi i’r ddynes,* er mwyn iddi hi hedfan i’r anialwch i’w lle yno, lle y bydd hi’n cael ei bwydo am amser ac amseroedd a hanner amser* i ffwrdd oddi wrth wyneb y neidr.*

15 A dyma’r neidr* yn chwydu dŵr fel afon allan o’i cheg ar ôl y ddynes,* er mwyn achosi iddi gael ei boddi gan yr afon. 16 Ond gwnaeth y ddaear helpu’r ddynes,* ac agorodd y ddaear ei cheg a llyncu’r afon roedd y ddraig wedi ei chwydu allan o’i cheg. 17 Felly daeth y ddraig yn wyllt gynddeiriog wrth y ddynes* ac aeth i ffwrdd i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant,* y rhai sy’n cadw gorchmynion Duw ac sydd â’r gwaith o dystiolaethu am Iesu.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu