Yr Ail at y Corinthiaid
10 Nawr rydw i fy hun, Paul, yn apelio atoch chi drwy addfwynder a charedigrwydd y Crist, er eich bod chi’n meddwl fy mod i’n wan pan fydda i wyneb yn wyneb â chi, rydych chi’n meddwl fy mod i’n llym pan fyddai i’n absennol. 2 Rydw i’n gobeithio, pan fydda i’n dod atoch chi, ni fydd rhaid imi ddelio’n llym â’r rhai sy’n meddwl ein bod ni’n cerdded mewn ffordd gnawdol. 3 Oherwydd, er ein bod ni’n cerdded yn y cnawd, dydyn ni ddim yn rhyfela yn ôl yr hyn ydyn ni yn y cnawd. 4 Oherwydd dydy arfau ein rhyfel ni ddim yn gnawdol, ond maen nhw’n rymus drwy Dduw ar gyfer chwalu pethau sydd wedi ymwreiddio’n ddwfn.* 5 Oherwydd rydyn ni’n chwalu gau syniadau a phob rhwystr a godwyd yn erbyn gwybodaeth Duw, ac rydyn ni’n caethiwo pob un o’n meddyliau ni er mwyn ei wneud yn ufudd i’r Crist; 6 ac rydyn ni’n barod i gosbi pob anufudd-dod, cyn gynted ag y mae eich ufudd-dod chi’n gyflawn.
7 Rydych chi’n edrych ar bethau mewn ffordd arwynebol. Os oes unrhyw un yn hyderus ynddo’i hun ei fod yn perthyn i Grist, gadewch iddo fyfyrio unwaith eto ar y ffaith hon: Yn union fel y mae ef yn perthyn i Grist, rydyn ninnau hefyd. 8 Oherwydd hyd yn oed petaswn i’n brolio rywfaint yn ormod am yr awdurdod y mae’r Arglwydd wedi ei roi inni er mwyn eich adeiladu chi ac nid er mwyn eich tynnu i lawr, ni fyddwn i’n teimlo cywilydd. 9 Dydw i ddim eisiau rhoi’r argraff fy mod i’n ceisio eich dychryn chi drwy gyfrwng fy llythyrau. 10 Oherwydd maen nhw’n dweud: “Mae ei lythyrau yn bwysfawr ac yn rymus, ond pan fydd yn bresennol, mae’n wan a’i eiriau yn ddiwerth.” 11 Gadewch i ddyn o’r fath ystyried mai’r hyn rydyn ni’n ei ddweud mewn llythyrau pan fyddwn ni’n absennol, ydy’r union beth y byddwn ni hefyd yn ei wneud pan fyddwn ni’n bresennol. 12 Oherwydd dydyn ni ddim yn meiddio ein rhoi ein hunain ar yr un lefel, na’n cymharu ein hunain, â’r rhai sy’n eu cymeradwyo eu hunain. Ond pan fyddan nhw’n eu mesur eu hunain wrthyn nhw eu hunain ac yn eu cymharu eu hunain â nhw eu hunain, does ganddyn nhw ddim dealltwriaeth.
13 Fodd bynnag, fyddwn ni ddim yn brolio y tu hwnt i derfynau ein haseiniad, ond o fewn terfynau y diriogaeth mae Duw wedi ei rhoi i ni, gan gyrraedd hyd yn oed mor bell â chi. 14 Yn wir, dydyn ni ddim yn gorymestyn fel petasen ni heb eich cyrraedd chi, gan mai ni oedd y cyntaf i ddod â’r newyddion da am y Crist cyn belled â chi. 15 Dydyn ni ddim yn brolio y tu hwnt i derfynau ein haseiniad am lafur rhywun arall, ond rydyn ni’n gobeithio, wrth i’ch ffydd chi barhau i gynyddu, y bydd yr hyn rydyn ni wedi ei wneud yn mynd ar gynnydd, o fewn ein tiriogaeth. Yna fe fyddwn ni’n gallu gwneud mwy, 16 er mwyn i ni fedru cyhoeddi’r newyddion da mewn gwledydd y tu hwnt i chi, nid i frolio am yr hyn sydd eisoes wedi ei wneud mewn tiriogaeth rhywun arall. 17 “Ond y sawl sy’n brolio, gadewch iddo frolio am Jehofa.” 18 Oherwydd nid y sawl sy’n ei gymeradwyo ei hun sy’n gymeradwy, ond y sawl y mae Jehofa yn ei gymeradwyo.